Cynhaliodd Coleg y Cymoedd ei seremoni Gwobrau Dysgwyr flynyddol yn ddiweddar ar ei gampws yn Nantgarw. Roedd y noson yn ddathliad o ddysgwyr ysbrydoledig y coleg a’u hymdrechion a’u cyflawniadau eithriadol yn ystod y flwyddyn academaidd hon.
Croesawodd y Pennaeth, Jonathan Morgan, y gwesteion a llongyfarch yr enwebeion ar gael eu henwi o blith 10,000 o ddysgwyr. Soniodd am arwyddocâd yr enwebiadau gan y tiwtoriaid a’r staff sy’n gweithio agosaf gyda’r dysgwyr o ddydd i ddydd. Talodd deyrnged arbennig i’r aelodau hynny o staff, ac i deuluoedd a ffrindiau fu’n cefnogi’r dysgwyr ar hyd y daith, ac i’r noddwyr hael a helpodd i wireddu’r noson.
Roedd y coleg yn falch iawn o groesawu un o’i gyn-fyfyrwyr yn ôl, Amy Williams. Mae Amy, oedd yn astudio Celfyddydau Perfformio ar gampws y coleg yn y Rhondda, ar fin graddio o Italia Conti yn Llundain, ac mae newydd sicrhau ei lle ar lyfrau asiantaeth dalentau o fri. Amy oedd yn arwain y digwyddiad ac fe gyflwynodd y siaradwr gwadd, y cyflwynydd teledu, yr anturiaethwr a’r rhedwr marathon, Lowri Morgan.
Rhoddodd Lowri anerchiad teimladwy a phersonol oedd yn sôn am ei hansicrwydd ei hunan yn ei harddegau, y gwersi bywyd mae wedi’u dysgu a’r doethineb mae wedi’i ennill ers hynny. Roedd y gwesteion yn amlwg dan deimlad gan ei chyngor i wneud cymariaethau â chi’ch hunan yn unig, ac i ddeall mai ‘pobl gyffredin sy’n cyflawni’r pethau mwyaf rhyfeddol’ mewn gwirionedd. Ei neges i gloi oedd i bobl ‘beidio ag ofni methu, ond i ofni anelu’n rhy isel.’
Cyflwynodd Amy’r enillwyr, gyda thros 50 o ddysgwyr o bob cyfadran yn derbyn eu tystysgrif a’u gwobr gan y siaradwr gwadd Lowri Morgan a noddwyr y gwobrau. Roedd y categorïau’n cynnwys ‘Cyfraniad at Fywyd y Coleg’ a’r ‘Gymraeg’.
Cafwyd egwyl rhwng cyflwyno’r gwobrau ar gyfer adloniant y noson – perfformiad gan ddysgwyr Celfyddydau Perfformio Campws y Rhondda gydag ensemble o’u sioe gerdd diwedd blwyddyn, ‘SIX!’.
Cafodd y gwobrau terfynol am ‘Gyflawniad Eithriadol’ a ‘Goresgyn Rhwystrau’ eu dewis gan y pennaeth o blith dros 50 o enillwyr.
Caiff y Wobr Goresgyn Rhwystrau ei chyflwyno i’r dysgwr sydd wedi goresgyn rhwystrau yn ystod eu cwrs, ond sydd wedi llwyddo i ennill eu cymhwyster. Cafodd y wobr yma ei chyflwyno i ddysgwr Paentio ac Addurno, Tyler Davis, sy’n astudio ar gampws Ystrad Mynach.
Luc Jones enillodd y Wobr Cyflawniad Eithriadol i gydnabod ei gyflawniadau wrth astudio yn y Coleg. Cafodd Luc farciau GMU llawn yn ei arholiadau Safon Uwch Gyfrannol ac mae wedi derbyn cynnig i astudio Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Wrth ddod â’r noson i ben, diolchodd y pennaeth i bawb am fynychu’r digwyddiad a llongyfarch y dysgwyr ar eu llwyddiannau. Dymunodd bob llwyddiant iddyn nhw i’r dyfodol.
Diolchodd hefyd i’r cwmni Arlwyo Chartwells, yn ogystal â’r llysgenhadon dysgwyr a’r staff cymorth a oedd wedi gweithio i gynnal noson bleserus iawn.
Llongyfarchiadau i holl enillwyr Gwobrau Dysgwyr 2023
Gwobr Safon Uwch – Gwobr Safon Uwch Gyfrannol Seth Olner
Gwobr Safon Uwch – Gwobr Gwyddoniaeth BTEC Jacob Trick
Gwobr Safon Uwch – Gwobr U2 Luc Jones
Gwobr Safon Uwch – Gwobr U2 Lilia Simonov
Gwobr Safon Uwch – Gwobr U2 Jakob Chukoury
Gwobr Entrepreneuriaeth Finn Johnson-Denny
Gwobr Astudiaethau Plentyndod Summer Lavis
Gwobr Astudiaethau Plentyndod Jasmine Lucas
Gwobr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Talia John
Gwobr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Tiffany Bowditch
Gwobr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Skye-Leah Jones
Gwobr Lletygarwch ac Arlwyo Mali Leese
Gwobr Lletygarwch ac Arlwyo Abigail Williams
Gwobr Lletygarwch ac Arlwyo Bethany Carter
Gwobr Trin Gwallt a Harddwch Sophie O’Connell
Gwobr Trin Gwallt a Harddwch Kristie Taylor
Gwobr Trin Gwallt a Harddwch (Barbro) Jacob Richards
Gwobr Diwydiannau Creadigol Carla Jackles
Gwobr Diwydiannau Creadigol Simone Bevan
Gwobr Diwydiannau Creadigol Amber Verona
Gwobr Diwydiannau Creadigol Rayya Bocus
Gwobr Dysgu Sylfaenol Aiden John
Gwobr Dysgu Sylfaenol Efân Powell
Gwobr Dysgu Sylfaenol Halen Cusack
Gwobr Dysgu Sylfaenol Amy Young
Gwobr Sgiliau Byw’n Annibynnol Jack Pensom
Gwobr Sgiliau Byw’n Annibynnol Jesse Cousins
Gwobr Sgiliau Byw’n Annibynnol Jennifer Davies
Gwobr Sgiliau Byw’n Annibynnol Yasmin Thomas
Gwobr Gwasanaethau Amddiffyn mewn Lifrai Rhys Herbert
Gwobr Chwaraeon Jade Bevan
Gwobr Chwaraeon Lili Griffiths
Gwobr Adeiladu Tyler Davis
Gwobr Adeiladu Ruben Duggan
Gwobr Adeiladu Conor Milton
Gwobr Adeiladu Thomas Meredith
Gwobr Cyfrifiadura a Thechnoleg Gwybodaeth Jasper Hynes
Gwobr Cyfrifiadura a Thechnoleg Gwybodaeth Victoria Mullins
Gwobr Cyfrifiadura a Thechnoleg Gwybodaeth Omorinola Akintioye
Gwobr Cyfrifiadura a Thechnoleg Gwybodaeth Luke Stone
Gwobr Cyfrifiadura a Thechnoleg Gwybodaeth Samuel Deabreu
Gwobr Peirianneg Dewi Middleton
Gwobr Peirianneg Patrick Laffan
Gwobr Peirianneg Talia Eddy
Gwobr Peirianneg Ronan Pellow
Gwobr Peirianneg Nicholas Singler
Gwobrau Prentisiaethau Megan Christie
Gwobr Sgiliau Callum Davies
Gwobr Sgiliau Ashley Helyar
Gwobr Sgiliau Craig Mallen
Gwobr y Gymraeg Troy Daniel
Gwobr Cyfraniad at Fywyd y Coleg, Campws y Rhondda Thomas Coombs
Gwobr Cyfraniad at Fywyd y Coleg, Campws y Aberdâr Ryan Allen
Gwobr Cyfraniad at Fywyd y Coleg, Campws Nantgarw Rosie Adams
Gwobr Cyfraniad at Fywyd y Coleg, Campws Ystrad Mynach Jessica Froom
Gwobr Gofalwyr Ifanc Ethan Tucker
Gwobr Addysg Uwch Kian Stephens
Gwobr Goresgyn Rhwystrau Tyler Davies
Gwobr Cyflawniad Eithriadol Luc Jones