Dathlu treftadaeth ddiwylliannol ac amrywiaeth iaith yn nigwyddiad diwedd blwyddyn ESOL (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) Coleg y Cymoedd

Yn ddiweddar, cynhaliwyd digwyddiad dathlu llwyddiant yng Ngholeg y Cymoedd i ddathlu cynnydd anhygoel dros 100 o ddysgwyr ESOL yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf.

Roedd y digwyddiad yn llawn cyffro, bwyd blasus, undod, a chwerthin. Gwahoddwyd teulu, ffrindiau a staff y coleg i ddathlu gyda’r dysgwyr.

Yn ymuno â nhw roedd yr Aelod Senedd dros Bontypridd, Mick Antoniw. Llongyfarchodd Mr Antoniw, sydd o dras Wcrainaidd, y dysgwyr ar eu llwyddiant gan ddefnyddio Wcreineg. Cafodd yr anerchiad gymeradwyaeth enfawr gan fynychwyr y digwyddiad.

Dywedodd Julie Richards, Pennaeth Sgiliau (ac ESOL) yng Ngholeg y Cymoedd “Mae’r dysgwyr ESOL i gyd wedi gwneud yn hynod o dda eleni. Maent wedi dangos ymroddiad a gwydnwch anhygoel drwy gydol eu hastudiaethau. Roeddem am gydnabod eu cyflawniadau ac yn sicr fe wnaethom ni hynny gyda’r digwyddiad dathlu hwn.”

Yn y flwyddyn academaidd 2022/2023 yn unig, cynrychiolwyd dros 20 o ieithoedd gan ddysgwyr ESOL Coleg y Cymoedd, gan gynnwys Wcreineg, Arabeg, Pwyleg a Thyrceg.

Mae Coleg y Cymoedd yn cynnig cyrsiau ESOL llawn amser a rhan amser ar draws pob un o’i bedwar campws. Mae’r lefelau’n cynnwys ‘Dechreuwyr’ a ‘Mynediad 1’, ‘Mynediad 2’, ‘Mynediad 3’, a ‘Lefel 1’ a ‘Lefel 2’ ar gyfer y rheini sydd am wella eu sgiliau darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando Saesneg fel iaith ychwanegol. 

I gael rhagor o wybodaeth, neu i gofrestru eich diddordeb i ddechrau astudiaethau ESOL ym mis Medi, ewch i: www.cymoedd.ac.uk/esol

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau