Dathlu Wythnos Gymreig Coleg y Cymoedd

Bob blwyddyn adeg Dydd Gŵyl Dewi, mae Coleg y Cymoedd yn mynd ati i drefnu wythnos o ddigwyddiadau i ddysgwyr a staff er mwyn dathlu ein treftadaeth falch a’r iaith Gymraeg. Ac eleni, ni chawsom ein siomi. Cafwyd llu o weithgareddau cyffrous drwy gydol yr wythnos.

Eleni, cafwyd cyfle heb ei ail i weithio gyda’r Eisteddfod Genedlaethol i gynnal cyfres o gigs a gweithdai ar y campws i hyrwyddo’r Eisteddfod a fydd yn dod i Rhondda Cynon Taf yn 2024. Ar Gampws Nantgarw a Champws Aberdâr cafwyd perfformiad gan Chroma ac ar Gampws Ystrad Mynach roedd Mali Hâf. Diddanwyd y dorf hefyd gan fandiau dysgwyr Coleg y Cymoedd, The Hostels; The Redfreds a Wallflower. Fel rhan o’r cydweithio hyn, cafodd criw o fyfyrwyr Cynhyrchu Cerddoriaeth ar Gampysau’r Rhondda a Nantgarw y cyfle i fynychu gweithdy dwyieithog gyda Heledd Watkins o’r band HMS Morris ar sut i gyflwyno’r Gymraeg i’w cerddoriaeth.

Dywedodd, Josie Davies, un o’r dysgwyr a gymerodd ran yn y gweithdy: “Mwynheais gael fy addysgu’n well am Gerddoriaeth Gymraeg a diwylliant Cymreig. Roeddwn i’n teimlo fy mod wedi ymgysylltu’n dda â’r sesiwn a mwynheais gymryd rhan. Byddaf yn gwrando ar fwy o gerddoriaeth Gymraeg ac yn cyfansoddi mwy o ganeuon Cymraeg.”

Cafwyd llu o weithgareddau amrywiol gan wahanol feysydd pwnc drwy gydol yr wythnos, yn eu plith, sesiwn Cymraeg Sylfaenol gyda chriw Llwybrau 4 – Porth i Gyflogaeth ar Gampws Nantgarw. Cynhaliodd Rheolwr y Gymraeg, Lois Roberts, y sesiwn gyda’r criw gan ddysgu cyfarchion, rhifau a geirfa’n ymwneud â Dydd Gŵyl Dewi.

Parhaodd y dathliadau gyda chwis ar-lein, lle’r oedd cyfle i ddysgwyr a staff ateb cwestiynau yn ymwneud â Chymru ac ennill talebau. Cafwyd ymateb anhygoel, gyda 284 o ddysgwyr a staff yn cystadlu. Yr enillwyr oedd Natasha Stone, Cerys Baker a Luke Murgatroyd.

Yn goron ar y dathliadau oedd y gystadleuaeth Dydd Gŵyl Dewi flynyddol gyda chyffro mawr ar draws y coleg – pwy fyddai’r enillwyr?

Roedd y gystadleuaeth, a noddwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn agored i unigolion a grwpiau ar draws y pedwar campws. Roedd y gystadleuaeth yn gofyn i’r dysgwyr ateb y cwestiwn ‘Beth mae Cymru yn ei olygu i mi’, drwy unrhyw gyfrwng a ddymunent. Cafwyd rhai ceisiadau gwirioneddol anhygoel. Roedd gan y panel beirniadu’r dasg anodd o ddewis yr enillwyr.

Cyflwynwyd cais buddugol Campws y Rhondda, a’r cais buddugol cyffredinol gan Ben Jonson and Liam Strudwick (Dysgwyr Gwaith Saer Lefel) ac Ethan Black a Sam Barry (Peirianneg Lefel 3) am eu dram glo.

Cerdd gan y dysgwr Lefel 3 Gofal Plant, Mollie Evans, oedd cais buddugol Campws Nantgarw.

Pen draig enfawr o papier-mâché a gwaith gwnïo a grëwyd gan ddysgwr Mynediad Galwedigaethol o’r enw Gemma Bush oedd yr enillydd ar Gampws Ystrad Mynach.

Liam Bolsom, Kian Griffiths, Emilie Howells, Rhys Morgan, Killian Morris-Cosh, Alex Sambruck, Megan Thomas, Harley Traylor, Ethan Watts o’r Grŵp Llwybrau Lefel 2 oedd yn fuddugol ar Gampws Aberdâr gyda’u gwaith celf yn defnyddio caeadau cartonau llaeth.

Wrth longyfarch y cyfranogwyr, dywedodd Lois Roberts, Rheolwr y Gymraeg “Mae hi wedi bod yn wythnos anhygoel. Eleni, rydym wir wedi gweld dysgwyr a staff yn cofleidio’r achlysur ac yn mynd ati i gymryd rhan mewn llu o weithgareddau ar draws y coleg. Ac roedd safon y gystadleuaeth Dydd Gŵyl Dewi a’r ymdrech a roddwyd iddi wir yn syfrdanol. Rydw i ar ben fy nigon!”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau