Dathlu Wythnos Gymreig yn y Cymoedd

Trwy gydol yr wythnos mae staff, dysgwyr a phartneriaid allanol Cymoedd wedi bod yn dathlu Wythnos Gymreig ar draws pob campws gydag ystod eang o weithgareddau. Mae’r Wythnos Gymreig yn gyfle i ddathlu Cymru, gan annog dysgwyr a staff i gydnabod pwysigrwydd ein treftadaeth a’n diwylliant.

Dechreuodd y dathliadau ar gampws Ystrad Mynach gyda pherfformiadau gan sêr y sin gerddoriaeth Gymraeg – Carwyn Ellis a’r brodor o Ferthyr – Kizzy Crawford. Ymunodd côr Ysgol Bro Allta, ysgol Gymraeg leol yn Ystrad Mynach, â Kizzy ar y llwyfan. Gwahoddwyd disgyblion Blwyddyn 6 Ysgol Bro Allta hefyd i ymuno â dysgwyr y Coleg i fod yn rhan o’r gynulleidfa ar gyfer perfformiad anhygoel Kizzy.

Parhaodd y dathliadau cerddorol ar gampws Nantgarw lle bu band Coleg y Cymoedd ‘Hertz’ yn diddanu’r campws, gyda’u set ddwyieithog; cipiodd y dysgwyr cerddoriaeth hyn y wobr gyntaf yng Nghystadleuaeth Word Skills 2019. Cynhaliodd staff a dysgwyr ar y campws sesiwn ryngweithiol ar yr Anthem Genedlaethol hefyd.

Roedd pob derbynfa a Chanolfan Dysgu yn cynnig amrywiaeth o gemau a gweithgareddau, gan ddysgu dysgwyr a staff am hanes Cymru a rhai ymadroddion Cymraeg sylfaenol, gyda detholiad o wobrau ar gael i’r cyfranogwyr llwyddiannus.

Uchafbwynt yr wythnos oedd y gystadleuaeth Dydd Gŵyl Dewi gyda chyffro mawr ar draws y coleg – pa gampws fyddai’r enillydd cyffredinol?

Roedd y gystadleuaeth, a noddwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn agored i unigolion a grwpiau ar draws y pedwar campws. Roedd y gystadleuaeth yn gofyn i’r dysgwyr ateb y cwestiwn ‘Beth mae Cymru yn ei olygu i mi’, drwy unrhyw gyfrwng. Cafwyd rhai ceisiadau gwirioneddol anhygoel. Roedd gan y Cyfarwyddwyr Campws y dasg anodd o ddewis y cais buddugol ar eu campysau, i’w gyflwyno i’r panel beirniadu – yr Is-Bennaeth Jonathan Morgan, Pennaeth Datblygiadau’r Iaith Gymraeg Alison Jones, Swyddog Marchnata Andrew Keeping a’r Swyddog Iaith Gymraeg Lois Roberts.

Cyflwynwyd cais buddugol eleni gan gampws Ystrad Mynach, gydag arddangosfa Merched Beca a gynhyrchwyd gan y grŵp Sgiliau Sylfaen mewn Gwallt a Harddwch Lefel 3.

Wrth longyfarch y cyfranogwyr Jonathan Morgan, dywedodd yr Is-Bennaeth “Mae hi wedi bod yn wythnos anhygoel. Am gyfle gwych i ddangos pa mor falch yw dysgwyr a staff y Coleg o’n diwylliant cyfoethog. Gwelodd y gystadleuaeth ‘Beth mae Cymru’n ei olygu i mi’ gystadleuaeth ffyrnig rhwng y campysau, tystiolaeth bellach o angerdd dysgwyr a staff. Roedd y safon mor anhygoel o uchel eleni, roedd dewis enillydd yn dasg bron yn amhosibl. Hoffwn longyfarch yr enillwyr a diolch i bawb am gymryd rhan ac i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y gwobrau.”

Enillwyr Campws Ystrad Mynach a’r Enillwyr Cyffredinol
Sgiliau Sylfaen mewn Gwallt a Harddwch Lefel 3 – Cailyn Benjamin, Stacey Burns, Leah Davies, Ebony Ducie, Izabell Edge, Lucy Evans, Nisha Evans, Lauren Faircloth, Poppy Greenway, Alisha Horwood, Caieyler-Mae Howells, Tia Pinch

Enillydd Campws Nantgarw – Hamza Al Numeri

Enillydd Campws y Rhondda – Gwaith Saer Lefel 2: Kye Chipilli, Garin England, Jack Hefford, Nico Hemming, Keenan Moulding, Tomos Pearce, Jenson Pride, Callum Williams

Enillydd Campws Aberd̢r РJoseph Cadwallader, Samuel Crowley, Emily Damen, Jack Davies, Anitia Hall, Kye Hooker,Declan Johns, Ebboney Rees-Lewis, Nenet Mbuyi, Joshua Portingale-Williams, Skye Spellman, Ethan Tucker, Joel Thomas, Nicole Walker and E3 Construction students

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau