Bob blwyddyn adeg Dydd Gŵyl Dewi, mae Coleg y Cymoedd yn mynd ati i drefnu wythnos o ddigwyddiadau i ddysgwyr a staff er mwyn dathlu ein treftadaeth a’n diwylliant. Er bod dathliadau eleni wedi bod ychydig bach yn wahanol i’r arfer gyda mwy o ymgysylltu rhithwir; cafwyd wythnos llawn gweithgareddau a chyfranogiad ardderchog gan ddysgwyr a staff.
Dechreuodd y dathliadau ar Ddydd Gŵyl Dewi ei hun, 1 Mawrth, gyda sesiwn rhithwir ar ein hanthem genedlaethol ‘Hen Wlad fy Nhadau’. Cynhaliwyd y sesiwn i staff a dysgwyr gan Bennaeth Datblygiadau’r Gymraeg er mwyn dysgu sut i ynganu’r geiriau’n gywir, ystyr y geiriau a hanes cyfansoddi’r anthem. Hefyd, cafwyd bore coffi rhithwir ar y cyd â cholegau eraill y de-ddwyrain. Roedd yn gyfle i staff sy’n gyfrifol am ddatblygiadau’r Gymraeg yn y colegau gael clonc dros baned a phicen ar y maen a rhannu arfer da.
Drwy gydol yr wythnos, rhoddwyd cyfle i ddysgu Cymraeg. Cynhaliodd Alison Jones, sesiynau dyddiol er mwyn i ddysgwyr a staff sy’n awyddus i ddysgu, gael blas ar y Gymraeg a dysgu ymadroddion sylfaenol.
Parhaodd y dathliadau gyda chwisiau Microsoft Forms, lle’r oedd cyfle i ddysgwyr a staff ateb cwestiynau yn ymwneud â Chymru, y Gymraeg ac Enwogion Cymru ac ennill talebau. Cafwyd ymateb anhygoel, gyda 600 o ddysgwyr a staff yn cystadlu. Yr enillwyr oedd Emma Preston; Catherine Smith; Chloe Miles; Chrystal Couch; Naeve Hopkins; Rose Keeping; Celia Baxter; Victoria Matthews; Katie Burgess; Lucy Morgan; Lisa Armstrong; Martyn Burgess; Lisa Jones; Andrea Soulsby a Paul Rennie.
Ddydd Mercher, cafwyd ail sesiwn ‘Lleisiau’r Cymoedd’ – cyfres o sesiynau holi ac ateb rhithwir gyda rhai o wynebau adnabyddus y Cymoedd, o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Y tro hwn, roedd Swyddog y Gymraeg, Lois Roberts, yn holi’r actores a seren Pobol y Cwm, Gwawr Loader. Roedd yn sesiwn hynod ddifyr a holwyd yr actores am ei magwraeth yng nghwm Taf-Bargoed; sut mae’r Gymraeg wedi bod o fudd iddi yn ei gyrfa; a pha gyngor sydd ganddi ar gyfer y rheiny yn y Coleg sy’n dilyn cyrsiau creadigol.
Ddydd Iau, cynhaliwyd cyfarfod i Lysgenhadon Addysg Bellach y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn y de-ddwyrain. Roedd yn gyfle gwych i un o lysgenhadon Coleg y Cymoedd, Molly Davies, sgwrsio â llysgenhadon colegau eraill; trafod syniadau ar gyfer gweithgareddau a fyddai’n apelio at ddysgwyr a rhannu eu profiad o fod yn llysgennad y Gymraeg mewn coleg addysg bellach.
Manteisiodd Tîm Datblygiadau’r Gymraeg ar gyfle’r Wythnos Gymreig i lansio ymgyrch gyffrous iawn yn y coleg sef Grŵp Microsoft TEAMS arbennig i staff sy’n dysgu Cymraeg. Bydd y grŵp, a drefnir gan ein Tiwtor Cymraeg, Alison Kitson, yn gyfle i staff sy’n dysgu Cymraeg sgwrsio yn y Gymraeg a rhannu eu profiadau o ddysgu; rhannu adnoddau defnyddiol a chreu cymuned.
Yn goron ar y dathliadau oedd y gystadleuaeth Dydd Gŵyl Dewi flynyddol gyda chyffro mawr ar draws y coleg – pwy fyddai’r enillwyr?
Roedd y gystadleuaeth, a noddwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn agored i unigolion a grwpiau ar draws y pedwar campws. Roedd y gystadleuaeth yn gofyn i’r dysgwyr ateb y cwestiwn ‘Beth mae Cymru yn ei olygu i mi’, drwy unrhyw gyfrwng a ddymunent. Cafwyd rhai ceisiadau gwirioneddol anhygoel. Roedd gan Dîm Datblygiadau’r Gymraeg y dasg anodd o ddewis yr enillwyr.
Cyflwynwyd ceisiadau buddugol eleni gan:
Thomas Coombs Diploma L2 ar gyfer Ymarferwyr Cerddoriaeth, Nantgarw – darn o gerddoriaeth
Katie Kirby- Jones Diploma Sylfaen L3/4 Celf a Dylunio, Nantgarw – mwgwd carnifal
Frankie Grierson L1 Celfyddydau Creadigol a’r Cyfryngau , Ystrad Mynach – lluniau ac ysgrif
Gruffydd George LM3 Celfyddydau Creadigol a’r Cyfryngau, Nantgarw – llun a fideo
Harvey Daggitt-Cotty LM2 Llwybrau 2 Sgiliau ar gyfer Bywyd a Gwaith, Ystrad Mynach – cerdd
Connor Murrell LM3 Cyfryngau Creadigol Grŵp 2 , Nantgarw – llun a fideo
Miran Ismail LM3 Cyfryngau Creadigol Grŵp 2, Nantgarw – llun ac ysgrif
Cerys Williams-Griffiths L3 Diploma mewn Celf a Dylunio, Nantgarw – llun
Emma Preston L2 Gofal Plant, Chwarae, Dysgu a Datblygiad – ysgrif personol
Chrystal Couch Llwybrau 1, Rhondda –Â poster ac ysgrif
Clara Waters LM2 Llwybrau 2 Sgiliau ar gyfer Bywyd a Gwaith, Ystrad Mynach – fideo
Dewi Williams LM3 Arlwyo, Rhondda – cân (gwaith grŵp)
David Damen LM3 Arlwyo, Rhondda – cân (gwaith grŵp)
Callum Owens LM3 Arlwyo, Rhondda – cân (gwaith grŵp)
Wrth longyfarch y cyfranogwyr, dywedodd Alison Jones,“Roedd yn fraint gweld cymaint o gariad tuag at Gymru sydd gan ddysgwyr Coleg y Cymoedd. Rydw i wir yn gwerthfawrogi angerdd ac ymdrech pawb a oedd wedi cymryd rhan. Anodd oedd dewis 12 enillydd o blith y llu a gyflwynodd gais.â€