Dau ddysgwr Coleg y Cymoedd yn ennill eu lle ar dîm cyntaf Salford Red Devils

Mae dau o raddedigion Academi Ddatblygu Genedlaethol Coleg y Cymoedd, sy’n cael ei rhedeg mewn partneriaeth â Chynghrair Rygbi Cymru a’r Salford Red Devils, wedi gwireddu eu breuddwydion o chwarae rygbi’n broffesiynol ar ôl sicrhau cytundebau gyda thîm Super League y gynghrair rygbi.

Mae Joe Coope-Franklin, 21 oed, a Billy Walkley, 18 oed, wedi sicrhau crysau ar garfan tîm cyntaf Salford Red Devils ar gyfer tymor 2023.

Nhw yw’r chwaraewyr cyntaf o’r Academi i ennill eu lle ar dîm cynghrair Super League y Red Devils ers iddi gael ei sefydlu dros ddwy flynedd yn ôl.

Ymunodd Joe, o Oakdale, â charfan wrth gefn Salford yn 2021, ac mae eisoes wedi gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y Super League, ar ôl ymddangos yng ngêm olaf Salford y tymor diwethaf. Mae’r canolwr bellach yn gwisgo crys rhif 29.

Ymunodd Billy, sy’n gefnwr o Gaerffili, â thîm dan 18 Salford yn 2021 ac roedd yn y garfan wrth gefn y llynedd, cyn cael ei ddewis i wisgo crys rhif 30 i’r tîm cyntaf y tymor hwn. Mae hefyd wedi bod yn chwaraewr rhyngwladol i dîm dan 17 a dan 19 Cymru, ar ôl chwarae ym Mhencampwriaethau Ewrop y llynedd, a chafodd ei enwi yn Nhîm y Flwyddyn Rygbi Cynghrair Cymru ar gyfer 2022.

Meddai Joe: “Mae cael fy newis ar gyfer tîm cyntaf llawn amser Salford Red Devils yn gyflawniad gwych ac yn rhywbeth rydw i wedi bod yn anelu ato ers i fi ddechrau hyfforddi yng Ngholeg y Cymoedd.

“Mae bod yn chwaraewr rygbi proffesiynol wedi bod yn freuddwyd i fi erioed ac fe helpodd y ffaith fy mod i’n rhan o Academi Rygbi’r Gynghrair yng Ngholeg y Cymoedd, sydd â phartneriaeth sefydledig gyda’r Salford Red Devils, i wireddu’r freuddwyd honno.

“Tra ro’n i yn yr Academi, roedd Stuart Wilkinson, Prif Hyfforddwr y Red Devils, yn teithio i Gymru yn aml i’n hyfforddi a dysgu hanfodion Rygbi’r Gynghrair i ni. Fe daniodd hynny fy hoffter am y gêm a dyna wnaeth i fi sylweddoli taw dyna’r llwybr ro’n i eisiau ei ddilyn. Gyda chymorth Coleg y Cymoedd a hyfforddwyr Salford, mae fy uchelgais i fod yn chwaraewr rygbi’r gynghrair proffesiynol wedi dod i’r amlwg yn gynt nag ro’n i’n meddwl.”

Ychwanegodd Billy: “Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i ymuno â’r tîm cyntaf na fydden i wedi’i gael oni bai am y gefnogaeth ges i gan Academi Ddatblygu Coleg y Cymoedd. Roedd yr Academi o gymorth mawr i fi ddatblygu fy nealltwriaeth a fy sgiliau rygbi’r gynghrair, ac agorodd y drws i fi ymuno â’r tîm wrth gefn, a helpodd i godi fy ngêm i’r lefel nesaf a fy helpu i gyrraedd lle rydw i nawr.”

Academi Ddatblygu Genedlaethol Rygbi’r Gynghrair Cymru, sydd wedi’i lleoli ar gampws Ystrad Mynach Coleg y Cymoedd, yw’r unig academi ddeuol yng Nghymru sydd wedi’i hachredu’n swyddogol gan Rygbi’r Gynghrair.

Mae’r Academi’n cynnig hyfforddiant elitaidd i ddarpar chwaraewyr rygbi gan y Salford Red Devils, Rygbi Cynghrair Cymru a thîm arbenigol o hyfforddwyr Coleg y Cymoedd, gan hefyd eu galluogi i astudio Diploma Lefel 3 BTEC mewn chwaraeon. Mae chwaraewyr yr academi yn rhannu eu hamser rhwng hyfforddiant ymarferol ac astudiaethau academaidd, gan ddysgu am amrywiaeth o bynciau gan gynnwys maeth chwaraeon, anafiadau chwaraeon, profi ffitrwydd, gweinyddu gemau, anatomeg, a ffisioleg.  Mae hefyd yn rhoi llwybr uniongyrchol i ddysgwyr wireddu eu breuddwydion o chwarae yn y Super League.

Meddai Ian Blease, cyfarwyddwr rygbi a gweithrediadau’r Salford Red Devils: “Mae ein partneriaeth gyda Choleg y Cymoedd ac Academi Rygbi’r Gynghrair Cymru wedi bod yn llwyddiant aruthrol i’r Red Devils hyd yn hyn.

“Pan aeth y prif hyfforddwr, Paul Rowley, a fi, i Gymru yn 2021 ar gyfer ein sesiwn hyfforddi gyntaf, roedden ni’n gallu gweld yn syth faint o dalent ac uchelgais oedd yno. Rwy’n diolch yn fawr i bawb am eu holl ymdrechion hyd yma i wneud i’r bartneriaeth yma ffynnu a dod yn llwyddiant fel mae wedi bod hyd yn hyn – gobeithio y bydd yn parhau am amser i ddod.

“Wrth i’r bartneriaeth barhau i dyfu, mae pawb sy’n rhan o hyn yn edrych ymlaen at weld rhagor o chwaraewyr y Super League a gafodd eu geni yng Nghymru yn dod drwy Academi Ddatblygu Cynghrair Rygbi Cymru yng Ngholeg y Cymoedd, yn enwedig wrth i ni agosáu at Gwpan y Byd Rygbi’r Gynghrair 2025.”

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am yr academi, ewch i https://www.cymoedd.ac.uk/course-detail/?lang=cy&course=08302B

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau