Cydnabuwyd dau ddysgwr o Goleg y Cymoedd yng Ngwobrau’r Gofalwyr Ifanc eleni a gynhaliwyd ym Mharc Treftadaeth y Rhondda.
Mae’r gwobrau blynyddol a drefnir gan Wasanaeth Gofalwyr Ifanc Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn dathlu’r gwaith pwysig a wneir gan Ofalwyr Ifanc a’r cyfraniad enfawr a wnânt wrth gefnogi aelodau’r teulu a hynny‘n ddi-dâl.
Enillodd y gofalwr ifanc Elisha Jones, sy’n 17 oed ac o Bentre yn y Rhondda, y Wobr Gofalwr Ysbrydoledig ac enillodd Chelsea Algate, 17 oed o Donypandy, Wobr Cyrhaeddiad Addysgol.
Wrth gefnogi’r dysgwyr yn y digwyddiad, dywedodd Swyddog Lles Coleg y Cymoedd, Laura Wilson, Rwyf wrth fy modd bod Elisha a Chelsea wedi cael eu cydnabod am eu hymroddiad i’w rôl fel gofalwyr ifanc. Maent yn haeddu’r gwobrau’n llwyr ac yn fodelau rôl ardderchog. Enillodd cyn-ddysgwr Coleg y Cymoedd Holly Williams wobr hefyd yn y digwyddiad.
Mae’r seremoni wobrwyo’n gyfle gwych i gydnabod y bobl ifanc hyn sy’n chwarae rhan hanfodol yn y gymuned, boed yn cefnogi aelod o’r teulu, ffrind neu gymydog; na fyddai’n ymdopi heb eu help, oherwydd salwch, oed neu anabledd.
Rydym am i bob un o’n dysgwyr allu cymryd rhan lawn yn eu haddysg i gyflawni eu potensial mewn bywyd, beth bynnag fo’u llwybr gyrfa “.
Mae Coleg y Cymoedd wedi arwain y ffordd yn y sector AB wrth ennill Tystysgrif Lefel Efydd yn Ngwobr Colegau’r Gofalwyr Ifanc; a gynlluniwyd gan brosiect Cymorth Gofalwyr Rhondda Cynon Taf. Er mwyn ennill y Wobr Efydd, roedd angen i staff ddangos ymroddiad tuag at adnabod gofalwyr ifanc a’u cefnogi fel grŵp o ddysgwyr agored i niwed. Mae’r Coleg wrthi‘n gweithio tuag at sicrhau’r Wobr Arian ar gyfer Gofalwyr Ifanc mewn Addysg.
“