Dau o ddysgwyr Coleg y Cymoedd yn cyrraedd rownd derfynol un o brif gystadlaethau cogyddion y DU

Mae dau bobydd ifanc o gymoedd y de wedi cyrraedd rowndiau terfynol cystadleuaeth genedlaethol i ddod o hyd i brif gogydd crwst ifanc y Deyrnas Unedig.

Dysgwyr Coleg y Cymoedd, Mali Leese, 18 oed, o Ferthyr Tudful, a Jack Morris, 18 oed, o Gaerffili yw’r unig gynrychiolwyr yn rownd derfynol cystadleuaeth Cogydd Crwst Ifanc y Flwyddyn Fforwm y Cogyddion.

Bydd y ddau yn cystadlu yn erbyn ei gilydd, yn ogystal â chwe chogydd ifanc talentog arall o bob cwr o’r DU, mewn rownd derfynol fawreddog yng Ngholeg Gorllewin Llundain ddydd Mercher 10fed Mai, i sicrhau coron y prif gogydd crwst.

Bydd yn rhaid iddynt greu argraff ar banel o 11 beirniad, sy’n cynnwys rhai o gogyddion crwst proffesiynol gorau’r wlad, gan gynnwys y sêr teledu, Cherish Finden a Benoit Blin, o Bake Off: The Professionals, ar Channel 4

Bellach yn ei thrydedd flwyddyn, mae cystadleuaeth Cogydd Crwst Ifanc y Flwyddyn yn agored i fyfyrwyr a phrentisiaid sydd ar hyn o bryd yn astudio cyrsiau lletygarwch neu arlwyo neu brentisiaethau yn y meysydd hynny. Fe’i datblygwyd mewn ymateb i’r prinder presennol o gogyddion crwst ifanc medrus iawn, a’r nod yw arddangos y dalent ifanc wych sydd i’w chael yng ngholegau a phrifysgolion y DU.

Bydd enillydd y gystadleuaeth yn ennill nifer o wobrau a fydd yn cynnwys taleb gan gyflenwr offer arlwyo masnachol, Mitchell & Cooper, taleb £300 gan Wedgwood a nifer o gynhyrchion o Henley Bridge – darparwr blaenllaw cynhwysion ar gyfer cogyddion crwst a phobi proffesiynol.

Yn ystod y rownd derfynol, bydd angen i Mali a Jack ddylunio a chreu pwdin ar blât, sy’n gorfod defnyddio mowld penodol a chynnwys purée granadila (passionfruit), ar gyfer asesiad blas ac asesiad gweledol gan y beirniaid arbenigol.

Daw eu llwyddiant i gyrraedd y rowndiau terfynol ar ôl i un arall o ddysgwyr Coleg y Cymoedd, Josie Wheeler, ennill cystadleuaeth y llynedd, gan ysbrydoli’r ddau i ymgeisio, a nodi blwyddyn gref o lwyddiant arlwyo i’r coleg.

Mae Jack, sy’n ddysgwr lefel 3 patisserie ar hyn o bryd ar gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd, yn hen gyfarwydd â llwyddiant mewn cystadlaethau, wedi iddo ennill medal aur yng nghystadleuaeth Patisserie a Melysion Sgiliau Cymru y llynedd.

Meddai: “Dw i wastad wedi caru pobi, ar ôl tyfu lan yn dysgu sut i bobi gyda fy mamgu, a dw i wir yn mwynhau fy nghwrs patisserie gan ei fod yn rhywbeth dw i’n angerddol amdano. Roedd ennill gwobr aur y llynedd yng nghystadleuaeth Sgiliau Cymru yn uchafbwynt go iawn a dw i’n teimlo ei bod yn ymarfer da i mi cyn y gwobrau cogyddion crwst ifanc. Mae wedi helpu i mi sefydlu fy hun a’m rhoi mewn sefyllfa fwy hyderus a dw i’n gobeithio y gallaf barhau â’r llwyddiant hwnnw.”

Mae Mali, sydd ar hyn o bryd yn astudio cwrs coginio proffesiynol lefel 3 ar gampws Aberdâr y Cymoedd, wedi breuddwydio am fod yn gogydd crwst proffesiynol ac yn bwriadu cwblhau cymhwyster patisserie pwrpasol yn y coleg y flwyddyn nesaf.

Wrth gystadlu yn ei chystadleuaeth gyntaf yn gynharach eleni – cystadleuaeth Patisserie a Melysion Sgiliau Cymru – lle enillodd y wobr arian, cymerodd Mali ran ym Mhencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru ym mis Chwefror, gan ddod i’r adwy funud olaf ar ran dysgwr arall a fu’n rhaid rhoi’r gorau iddi oherwydd rhesymau personol. Er mai dim ond wyth diwrnod oedd ganddi i ymarfer, llwyddodd i sicrhau un efydd, dwy wobr arian a dwy wobr ‘gorau yn y dosbarth’.

Ychwanegodd Mali: “Dw i wrth fy modd yn coginio a dyna pam gwnes i ddewis gwneud cwrs coginio, ond dw i hefyd wrth fy modd yn gwneud prydau melys – nes i ffeindio fy hun yn gwneud lot o bwdinau yn ystod fy nghwrs lefel 2 a dw i wastad yn pobi gartre. Dw i’n edrych ymlaen at wneud cwrs patisserie hefyd i ehangu a datblygu fy sgiliau ymhellach.

“Doedd gen i ddim yr hyder i wneud cais am unrhyw gystadlaethau tan eleni pan benderfynais i jyst mynd amdani. Mae gen i gymysgedd o nerfau a chyffro am y rownd derfynol gan y bydd angen i mi addasu i gegin ac amgylchedd gwaith newydd a byddaf yn cyflwyno fy mhwdinau i feirniaid o’r bwytai gorau ledled y wlad. Mae’n brofiad unwaith mewn oes serch hynny ac mae’n deimlad anhygoel gwybod fy mod i wedi cael fy newis yn un o ddim ond wyth!”

Wrth siarad am lwyddiant Jack and Mali dywedodd Benjamin Barnett, darlithydd lletygarwch ac arlwyo yng Ngholeg y Cymoedd: “Mae’r ffaith bod Jack a Mali wedi cael eu cydnabod fel rhai ymhlith yr wyth cogydd crwst ifanc gorau yn y DU yn dangos lefel y dalent sydd gan y ddau yma. Mae’r ddau wedi gweithio’n galed ac maen nhw’n haeddu’r clod yma – dymunwn bob lwc iddynt! Mae cael nid un ond dau ddysgwr o Goleg y Cymoedd yn cyrraedd mor bell â hyn yn y gystadleuaeth, ac mae bod yr unig goleg yng Nghymru i gyrraedd y rownd derfynol am yr ail flwyddyn yn olynol, yn ein gwneud ni’n hynod falch.

“Mae wedi bod yn flwyddyn anhygoel o ran arlwyo yng Ngholeg y Cymoedd o ran llwyddiant mewn cystadlaethau. Yn ystod y 12 mis diwethaf, rydym wedi ennill gwobrau coginio aur ac arian yng nghystadleuaeth Sgiliau Cymru, wedi ennill 19 medal ym Mhencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru, wedi dod yn ail yng nghystadleuaeth Cogydd Ifanc Cymru, a ni yw’r coleg cyntaf o Gymru i fod â thîm i gyrraedd rownd gynderfynol cystadleuaeth tîm bwytai ifanc y flwyddyn!”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau