Derrick yn ysbrydoli drwy oresgyn nam ar ei olwg i ddysgu sgiliau cyfrifiadurol newydd

Dwy fyfyrwraig o Nantgarw ac Ystrad Mynach gampysau Coleg y Cymoedd yn dathlu bod yn y tîm buddugol o Apprentice” Trading Places arddull.

Profodd myfyrwyr o chwe choleg ar draws De Ddwyrain Cymru eu bod yn egin entrepreneuriaid ar ôl llwyddo i ddatblygu a rhedeg eu ‘stondin sydyn’ eu hunain yn un o fannau siopa mwyaf eiconig Caerdydd. Lansiwyd diwrnod olaf ysblennydd cystadleuaeth draws golegol “Trading Places”, Dydd Iau, 13 Chwefror 2014.

Helpodd y sialens dri diwrnod, a ddatblygwyd gan ‘First Campus’ ym Mhrifysgol De Cymru mewn partneriaeth â hwb Menter AB De Ddwyrain Cymru a’r Morgan Quarter, gyda chymorth Syniadau Mawr Cymru Llywodraeth Cymru, y bobl ifanc i ddeall sut gallan nhw ddod yn entrpreneuriaid drwy ddatblygu eu “syniadau mawr”. Cychwynnodd gyda 36 o fyfyrwyr o chwe choleg ar draws De Ddwyrain Cymru a gyfarfu â’i gilydd am y tro cyntaf yn adeilad ATRiuM Prifysgol De Cymru Dydd Mawrth Chwefror 11. Rhannwyd y myfyrwyr yn chwe thîm gydag o leiaf un o bob coleg ymhob tîm. Ar ôl gweithgareddau torri’r iâ a gweithgareddau bondio fel timoedd, dechrau gweithio gyda chynrychiolwyr o ‘Business in Focus’ a Banc y Natwest i baratoi cyflwyniad yn amlinellu eu sgiliau USP (Pwyntiau Gwerthu Unigryw), eu sgiliau gwerthu a chryfderau eu timoedd ar gyfer eu cyfarfod gyda’u ‘Rheolwr Banc’.

Yn null yr “Apprentice”, roedd y tensiwn yn uchel wrth i’r timoedd gystadlu ar sail ‘y cyntaf i’r felin’ i werthu eu cynhyrchion yn y ‘stondin sydyn’. I ddathlu Dydd Gŵyl San Ffolant, roedd thema ramantus i rai o’r nwyddau i ddenu siopwyr i brynu anrheg funud olaf i’w cariad.

Agorodd y stondin sydyn Ddydd Iau13 Chwefrorac roedd y gystadleuaeth yn un chwyrn o’r cychwyn cyntaf! Gwahoddwyd busnesau lleol ac aelodau’r cyhoedd i ddod draw i ddangos eu cefnogaeth i’r fenter arloesol a gweld y nwyddau oedd ar werth. Gweithiodd pob tîm yn eithriadol o galed a’r gwerthwyd cyfanswm o £1,128.88 (bron ddwywaith ffigwr y llynedd).

Enillwyr y gystadleuaeth gan Cariad, tîm oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o Goleg Pen-y-bont ar Ogwr, Coleg Caerdydd a’r Fro, Coleg Gwent, Coleg Merthyr Tudful, Coleg y Cymoedd a Choleg Dewi Sant, ar sail eu cyflawniad drwyddi, eu sgiliau rheoli busnes effeithiol a’u gwaith tîm drwy gydol y prosiect.

Dywedodd Andrew Tummon, Rheolwr Cysylltiadau NatWest Business Banking: “Roedd hwn yn ddigwyddiad gwych. Mae NatWest yn gweithio’n galed i annog hinsawdd mwy entrepreneuraidd yn ein cymuned ac mae helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau a’u talentau yn faes allweddol i wneud hyn. Gweithiodd y myfyrwyr i gyd yn galed iawn dros y tri diwrnod ac roedd yn bleser i weithio gyda nhw wrth iddyn nhw ddatblygu a rhoi eu cynlluniau busnes ar waith. Bu’n waith anodd iawn dewis enillwyr ond roedd Tîm Cariad yn arbennig o arloesol yn y modd datblygon nhw eu cynlluniau busnes a hefyd y modd wnaethon nhw addasu eu strategaeth gwerthu a’u polisi prisio wrth i’r diwrnod olaf fynd yn ei flaen.”

Dywedodd Melissa Francis, myfyrwraig o Goleg y Cymoedd oedd yn aelod o dîm buddugol Cariad, “Roedd ennill ‘Trading Places’ yn foddhaus iawn; roedd yn brosiect llawn sialens lle cawson ni brofiad o’r hyn ydy hi i redeg eich busnes eich hun. Ar y dechrau, roedd angen mynd ati am adeiladu cryfder eich tîm ond wedyn datblygodd ochr gystadleuol pob aelod. Byddwn i’n argymell i bawb wneud hyn. Roedd yn well nag unrhywbeth ron i wedi ei ddisgwyl!”

Roedd Claudia Price, dysgwraig o Gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd yn aelod o’r tîm lwyddodd i wneud yr elw mwyaf ar y diwrnod. Dywedodd: “Ron i wir yn edrych ymlaen at werthu, yn enwedig gan taw Chwefror 13 oedd hi, y cyfle perffaith i werthu nwyddau San Ffolant. Roedd ‘Trading Places’ yn gyfle gwych i agor drysau i mi ac i ehangu fy CV. Dw i am agor fy meithrinfa fy hun yn y dyfodol, felly dysgais lawer am agwedd fusnes y prosiect. Roedd yn ddefnyddiol i ddysgu rheoli arian a derbyn cyngor gan gwmnïau megis NatWest. Mae’n deimlad rhyfeddol i fod yn rhan o’r tîm wnaeth fwyaf o elw.”

Dywedodd Chris Webb, Cydlynydd Dysgu’r Teulu ac Addysg Bellach gyda First Campus: “Bwriad First Campus ydy codi ymwybyddiaeth a dyheadau Addysg Uwch. Cynhalion ni dyddiau hyfforddi ym Mhrifysgol De Cymru i roi blas iddyn nhw o fywyd prifysgol ac i sicrhau eu bod yn gadael gan wybod bod astudio mewn prifysgol yn opsiwn iddyn nhw. Mae myfyrwyr yn gofyn cwestiynau am Addysg Uwch a’u hopsiynau ar gyfer y dyfodol; maen nhw’n awyddus i wybod rhagor a dw i’n meddwl bod y prosiect hwn wedi gweithio’n wych.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau