Deuawd y Cymoedd yn cyrraedd rownd derfynol ‘World Skills’

Mae dau ddysgwr o’r Adran Adeiladwaith yng Ngholeg y Cymoedd wedi bod yn brysur yn cystadlu yng nghystadleuaeth Adeiladwaith Rhanbarth De Cymru World Skills, a gynhaliwyd ar gampws Aberteifi Coleg Ceredigion.

Ymgasglodd mwy na chant o ddysgwyr o golegau ledled De Cymru i gymryd rhan yng nghystadlaethau Gwaith Saer, Bricwaith, Peintio ac Addurno a Phlymwaith a Gwaith Trydanol.

Cynrychiolodd y dysgwyr Lewis Blakely, 17 o Gaerffili a Jarrad Hinett 16 o’r Coed Duon adran Adeiladwaith Coleg y Cymoedd. Dyma’r tro cyntaf i’r ddau ddysgwr gystadlu yng nghystadleuaeth World Skills; lle rhoddwyd tasgau ymarferol i’w cwblhau o fewn terfyn amser. 

Gwnaeth y ddau ddysgwr o’r Cymoedd argraff dda ar y beirniaid gydag ansawdd eu gwaith, gan sicrhau mesuriadau, alinio, ac onglau manwl gywir ynghyd â’r gallu i gwblhau’r sodro yn unol â meini prawf y gystadleuaeth.

Dywedodd Lewis sydd ar hyn o bryd yn astudio Diploma Lefel 2 mewn Plymwaith a Gwresogi (Prentis) “Roeddwn i’n eithaf nerfus pan gyrhaeddais y gystadleuaeth ond unwaith inni gychwyn ar y tasgau, roeddwn i’n gallu canolbwyntio ar y sgiliau a ddysgais yn ystod fy nghwrs ac roeddwn yn hapus gyda’r canlyniad terfynol. Roedd yn wych cael cwrdd â dysgwyr o golegau eraill, rwyf yn sicr wedi elwa o’r profiad ac roeddwn yn hapus iawn pan gyrhaeddais yr ail safle.”.

Dywedodd y tiwtor Plymwaith Lee Perry, “Roeddwn i wrth fy modd yn gweld Lewis yn ennill yr ail safle a Jarrad, sy’n astudio Diploma Lefel 1 mewn Astudiaethau Plymio, hefyd yn sicrhau lle yn y rowndiau terfynol. Roeddwn i mor falch o’r ddau ddysgwr – roeddent yn glod i’r coleg a dylent fod yn falch iawn o’r hyn y maent wedi’i gyflawni. Roedd y sgôr yn agos iawn gydag ychydig farciau yn unig rhwng pob cystadleuydd. 

Mae cystadlu mewn cystadlaethau fel hyn yn rhoi’r cyfle i ddysgwyr weithio tuag at derfynau amser, sy’n bwysig yn y diwydiant. Mae sylwadau’r beirniaid ynghylch y safon eithriadol o uchel a ddangoswyd gan y dysgwyr yn argoeli’n dda ar gyfer dyfodol y diwydiant plymwaith a gwresogi”.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau