Dirprwyaeth uchel ei phroffil o Tsieina yn ymweld â Choleg y Cymoedd

Mae Coleg y Cymoedd wedi elwa o gynnal digwyddiad rhyngwladol yn cynnwys cynrychiolwyr uchel eu proffil yda’r nod o wella partneriaethau rhwng y DU a Tsieina.

Fe rhan o achlysur cau pen y mwdwl yn ystod ’Deialog Pobl â Phobl y DU-Tsieina’, cynhaliodd y coleg achlysur o gyfarfodydd ac arddangosiad o waith myfyrwyr ar gyfer 30 o bobl broffesiynol addysg bellach o bob cwr o’r DU a Tsieina

Pennaeth Coleg y Cymoedd, Judith Evans, fu’n croesawu’r cynrychiolwyr uchel eu proffil, rhai’n aelodau cynghorau, eraill yn Benaethiaid a Llywyddion colegau ac ysgolion o Chongqing, yn Tsieina

Mae Deialog Pobl â Phobl Tsieina-DU yn fenter i ystyried buddiannau partneriaethau rhyngwladol gyda ffocws arbennig ar sgiliau cyflogadwyedd. Mae’r holl gynrychiolwyr wedi cymryd rhan ym Mhrif Raglen Cysgodi DU-Tsieina ac wedi datblygu partneriaethau colegau y DU-Tsieina.

Mae Coleg y Cymoedd wedi cymryd rhan mewn prosiectau llwyddiannus ar sgiliau ar gyfer cyflogadwyedd megis y ‘Rhaglen Cysgodi Swyddi’ a darparu rhaglen megis ‘Hyfforddi’r Hyfforddwr’ ar gyfer staff yn Tsieina ar egwyddorion ac arferion Dysgu yn y Gweithle.

Cafodd y ddirprwyaeth gipolwg ymarferol ar y profiad o addysgu yn y DU gan Alice Likelei, sydd, ar hyn o bryd yng Ngholeg y Cymoedd ar raglen gysgodi swydd mewn partneriaeth â Choleg Rheolaeth Dinas Chongqing.

Cymerodd y Pennaeth, Judith Evans, ran yn y trafodaethau bwrdd crwn gyda’r cynrychiolwyr i drafod sut mae partneriaethau rhyngwladol yn effeithio ar ddatblygiad sgiliau o ran cyflawni ac effaith, sialensiau ac ymatebion ac argymhellion pellach.

Cymerodd yr holl gyfranogwyr ran mewn trafodaeth ar y modd y gellid datblygu meysydd cyfleoedd cydweithio ymhellach yn ystod y tair blynedd nesaf. Roedd yr holl drafodaethau yn canolbwyntio ar y dysgwyra’r cyfan wedi’u ffocysu ar y modd mae partneriaethau rhyngwladol yn effeithio ar ddatblygiad sgiliau a sut gall colegau gynorthwyo pobl ifanc i fanteisio ar ddysgu rhyngwladol.

Roedd yr ymweliad hefyd yn cynnwys sioe i arddangos talentau myfyrwyr i ddathlu ac arddangos cyflawniadau myfyrwyr o golegau’r DU a Tsieina gyda ffocws ar weithgareddau partneriaeth sy’n dangos orau’r hyder, creadigrwydd ac entrepreneuriaeth ymhlith y myfyrwyr.

Dywedodd Kath Bishop, Swyddog Rhyngwladol Coleg y Cymoedd: “Mae’n wych i’r coleg fod yn rhan o’r cynllun hwn i wella partneriaethau rhyngddon ni a Tsieina. Mae’r cyfle i rwydweithio gydag arbenigwyr eraill yn y DU a Tsieina i gydweithredu yn y sector galwedigaethol yn ein helpu i adeiladu ar y gwaith ardderchog rydyn ni eisoes yn ei wneud ac i rychwnatu meysydd newydd i ffocysu ar yr hyn fydd o fantais i ddysgwyr yng Nghymru a Tsieina.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau