Ddydd Gwener, 27 Ebrill 2018, daeth cynulleidfa ddysgwyr a staff gwahoddedig ynghyd o Gynghorau Llais y Dysgwyr y pedwar campws, Penaethiaid Ysgol, Yr Uwch Dîm Arwain a Chyfarwyddwyr a Rheolwyr Adrannau Cymorth yng Nghynhadledd Flynyddol Llais y Dysgwyr. Roedd y gynulleidfa’n cynnwys 64 o ddysgwyr a 21 aelod o staff.
Â
Cefnogwyd y diwrnod gan Ddiwydiannau Creadigol a ddarparodd gymorth technegol a chofnod graffig o’r digwyddiad. Ariannwyd y diwrnod trwy gyllideb UCM a chynhaliwyd y gynhadledd gan bum Dysgwr Gweithredol a gyflwynodd araith gan ymgyrchydd Cyfeillion y Ddaear.
Â
Y pynciau a drafodwyd oedd:
Â
CAMPWS ABERDÂR:
Teitl y Pwnc: Sefydlu – ei berthnasedd, effaith a chyfleoedd i wella
Â
CAMPWS Y RHONDDA:
Teitl y Pwnc: Sut allwn integreiddio sgiliau craidd yn well i’r cwricwlwm galwedigaethol?
Â
CAMPWS YSTRAD MYNACH:
Teitl y Pwnc: Gyda’r polisïau ar waith a chan weithredu ar gyfer cymuned ddysgu sy’n cynnwys parch at ei gilydd; sut ydyn yn creu’r newid diwylliannol a sut mae hynny’n edrych?
                      Â
CAMPWS NANTGARW:
Teitl y Pwnc: Ystyried ystod o gyfryngau digidol er mwyn gwella cyfathrebu rhwng staff a dysgwyr
Â
Mae adborth gan y gynulleidfa yn dangos yr oedd pawb wrth eu bodd yn cymryd rhan ac roedd y cyfle i drafod yn fuddiol iawn