Mae dysgwraig fu’n aelod o’r ‘Dosbarth Safon Uwch 2022’ wedi derbyn gwobr Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru (The Worshipful Livery Company of Wales) i nodi ei chanlyniadau academaidd eithriadol.
Cafodd y coleg y pleser o groesawu Mr. Geoff Hughes, Cyn Feistr Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru ynghyd â’r Lifrai, Miss Margaret Davies, i gampws Nantgarw i gyflwyno’r Wobr a siec o £250 i Brooke Pothecary.
Astudiodd Brooke, 18 oed, sy’n dod o’r Porth, yng Nghanolfan Lefel A y coleg gan ennill tair gradd A* drawiadol mewn Saesneg, Drama ac Astudiaethau Crefyddol, ynghyd â gradd A yn y Fagloriaeth Gymreig, gan sicrhau lle i astudio Eidaleg a Japaneeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r ddysgwraig A serennog, sy’n ymddiddori mewn archwilio mannau newydd, wedi datblygu cariad at ieithoedd yn ystod ei theithiau dros y blynyddoedd ac mae’n breuddwydio am fod yn athrawes Eidaleg yn Awstralia, lle mae galw am staff sy’n siarad Eidaleg.
Wrth gyflwyno’r Wobr, llongyfarchodd Mr. Geoff Hughes Brooke ar ei chanlyniadau Lefel A ac ar sicrhau lle ym Mhrifysgol Caerdydd. Eglurodd mai un o brif nodau Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru ydy hyrwyddo addysg yng Nghymru ac mae’r ‘Gwobrau i Ysgolion’ yn rhoi’r cyfle i gydnabod dysgwyr sydd wedi cyflawni canlyniadau rhagorol.
Wrth siarad ar ôl y cyflwyniad dywedodd Brooke, “Rwy’n falch o dderbyn y Wobr hon i gydnabod fy nghanlyniadau Lefel A; roeddwn i mor hapus i fod wedi ennill y graddau yr oedd eu hangen arnaf i sicrhau fy lle ym Mhrifysgol Caerdydd a rhaid i mi ddiolch i holl diwtoriaid y coleg am eu cefnogaeth. Rydw i mor gyffrous i ddechrau fy nghwrs ym mis Hydref”.
Wrth sôn am gyflawniadau Brooke a’r Wobr, dywedodd Jonathan Morgan, y Pennaeth, “Rydym mor falch o Brooke. Mae hyn yn gyflawniad gwych i Brooke, a gwn ei bod wedi gweithio’n galed i ennill y graddau sy’n ofynnol gan Gaerdydd. Dymunwn bob llwyddiant iddi ar gyfer y dyfodol ac rwy’n siŵr, o ystyried ei hymrwymiad, y bydd yn gwireddu ei huchelgais. Rwy’n gobeithio y bydd Brooke yn cadw mewn cysylltiad â’r coleg i ysbrydoli dysgwyr y dyfodol. Hoffwn ddiolch i Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru; rydym yn ddiolchgar am eu cefnogaeth barhaus i ddysgwyr Coleg y Cymoedd ac rwy’n siŵr eu bod nhw’n cytuno – bod Brooke yn dderbynnydd teilwng iawn o’r Wobr”.