Dyfarnu Gwobr Myfyrwraig CIPD y Flwyddyn i Un o Goleg y Cymoedd

Claire Evans sy’n gweithio fel Rheolwraig Adnoddau Dynol gafodd ei dewis fel Myfyrwraig y Flwyddyn Coleg y Cymoedd yn seremoni Gwobrwyon De Ddwyrain Cymru y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygiad yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd.

Mae’r gwobrau blynyddol yn dathlu rhagoriaeth a chaiff myfyriwr y flwyddyn ei gyhoeddi ar gyfer pob darparwr hyfforddiant – ac yn yr achos hwn, Coleg y Cymoedd oedd yn enwebu Claire am ei gwaith caled ac ymroddiad i’w hastudiaethau.

Bu Claire, o Lanilltud Faerdre, sy’n gweithio i gwmni’r ‘Hotel Collection’, yn astudio am ei Thystysgrif Lefel 3 CIPD mewn Ymarfer Adnoddau Dynol ac mae hi wedi’i dyrchafu i swydd Rheolwr AD yng Ngwesty’r Angel ers iddi gychwyn ar y cwrs.

Wrth dderbyn ei gwobr, meddai Claire: “Roedd yn syndod braf derbyn y wobr. Mae fy niolch yn fawr i’r tiwtor ardderchog, Julia, oedd hefyd yn fentor a chefnogaeth. Roedd y grŵp o fyfyrwyr ar y cwrs yn rhai hyfryd a llawn help. Roedden ni’n dod ymlaen yn dda ac yn helpu’n gilydd drwy’r cwrs, gan wneud y cyfan yn fwy pleserus. Doedd hi ddim yn hawdd jyglo’r cwrs, gwneud swydd shifftiau amser llawn a magu plentyn ifanc a chwilota am waith, ond mae wedi fy helpu i gael fy swydd ddelfrydol.”

Yn ôl ei thiwtor CIPD o Goleg y Cymoedd, Julia Collier:  “Enwebodd y coleg Claire gan iddi ddangos penderfyniad yn ei chwrs, ac oherwydd ei huchelgais i gael ei swydd gyntaf ym maes AD, gan iddi weithio yn y diwydiant gwestai ers dyddiau prifysgol ac yna cydbwyso’i hastudio â magu teulu ifanc.”

“Mae’r gwobrau hyn gan y CIPD, y corff proffesiynol ym myd AD, yn cydnabod myfyrwyr sydd wedi gweithio’n arbennig o galed yn ystod eu cwrs. Bu Claire yn gweithio ymhell tu hwnt i’r disgwyliad ac mae hi’n gwir haeddu’r wobr hon. Mae hi wedi bod yn aelod brwd o’r tîm a phob amser yn barod i gymryd rhan.”

Yn ddiweddar lansiodd Coleg y Cymoedd gwrs Rheoli AD Lefel 5 sydd, ynghyd â’r cwrs CIPD Ymarfer AD Lefel 3 y mae’r coleg wedi ei gynnal ers blynyddoedd, yn cynnig mynediad i aelodaeth proffesiynol o’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygiad.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau