Dyfodol@Cymoedd yn helpu Christian i gamu ar ei ysgol yrfa

Unwaith eto, mae Swyddfa Gyflogaeth Dyfodol@Cymoedd wedi helpu i gysylltu sgiliau dysgwr Adeiladwaith ag anghenion cyflogwr lleol. Sefydlwyd y Swyddfa Gyflogaeth ym mis Ebrill 2019 i gynorthwyo dysgwyr sy’n gadael y coleg i gael gwaith ac i roi cymorth iddynt gyda CVs, ceisiadau swydd a sgiliau cyfweld.

Cysylltodd Lyndon Moon, Rheolwr Cynnal a Chadw Acorn Nurseries â Dyfodol@Cymoedd ynghylch swydd wag fel Peintiwr/Addurnwr dan Hyfforddiant i gefnogi’r busnes a rhannodd tîm y Dyfodol y cyfle gyda chyn-fyfyrwyr Lefel 2 mewn Peintio ac Addurno, a oedd wedi cwblhau eu cymhwyster yn y coleg yn ddiweddar.

Ymatebodd Christian Reynolds, sy’n 29 oed ac yn dod o Gaerffili, yn syth yn mynegi diddordeb yn y rôl. Yn ddiweddar roedd wedi cwblhau ei gwrs Diploma Lefel 2 mewn Peintio ac Addurno ar gampws Ystrad Mynach ond oherwydd y pandemig roedd wedi ei chael hi’n anodd dod o hyd i waith.

Yn ystod yr wythnosau canlynol, derbyniodd Christian gefnogaeth 1i1 gan Dyfodol@Cymoedd i sicrhau bod ei CV yn cynnwys pob agwedd ar ei brofiad gwaith ac yn hyrwyddo’r sgiliau trosglwyddadwy a sector-benodol yr oedd yn rhaid iddo eu cynnig. Roedd hyn, ynghyd ag uchelgais Christian i weithio yn y diwydiant, yn berffaith ar gyfer y swydd yn Acorn Nuseries.

Cyflwynodd Christian ei CV i Acorn Nurseries er mwyn iddynt gael ei ystyried ar gyfer y rôl. Yna cafodd ei ddethol ar gyfer y rhestr fer a gofynnwyd iddo fynychu cyfweliad gydag ymbellhau cymdeithasol ar y safle yn Cathays, Caerdydd. Cynigwyd y swydd iddo.

Wrth sôn am benodiad Christian dywedodd Lyndon Moon: “Mae Christian yn mwynhau ei rôl newydd, ac yn gwneud yn dda iawn gyda’r cwmni; mae’n hapus gyda’r swydd. Mae’n fachgen da iawn. Mae Christian ar fin dechrau ei NVQ Lefel 2 mewn Peintio ac Addurno, a fydd yn cael ei gefnogi drwy ddarpariaeth Uwchsgilio@Waith Coleg y Cymoedd”.

Ychwanegodd Michele Harris-Cocker (Cydlynydd Dyfodol@Cymoedd): “Mae hi wedi bod yn bleser pur cefnogi Lyndon Moon, Rheolwr Cynnal a Chadw Acorn Nurseries, gyda recriwtio Peintiwr ac Addurnwr dan Hyfforddiant. Cyn gynted ag y cyfarfûm â Christian a chael sgwrs am y rôl a chael gwell dealltwriaeth o’i brofiad gwaith blaenorol a’r sgiliau a’r wybodaeth a oedd ganddo, roeddwn i’n gwybod y byddai’n berffaith ar gyfer y rôl. Drwy gyfres o gyfarfodydd, buom yn gweithio drwy ei CV gyda’n gilydd gan sicrhau ein bod dangos mai ef oedd y person ar gyfer y swydd.

Fe wnaeth Christian gymhwyso a chael ei gyfweld a’i benodi yn ystod cyfnod heriol a digynsail pandemig byd-eang, sy’n dangos pa mor gydnerth ydyw. Mae ei gymhelliant, ei angerdd a’i obaith yn sicr wedi talu ar ei ganfed. Mae’n ddyn ifanc dymunol sydd wedi ymrwymo’n llwyr i’w rôl newydd ac yn awyddus i ddysgu sgiliau newydd i helpu i gyflawni ei uchelgais o ran gyrfa a’i gyfle i symud ymlaen ymhellach ”.

Wrth siarad am ei swydd newydd yn Acorn Nurseries dywedodd Christian: “Rwy’n mwynhau’r swydd yn fawr; mae’n mynd yn wych ac mae’r tîm yn ffab; mae amser yn hedfan. Fe wnaeth Michele o’r Swyddfa Gyflogaeth fy helpu i ddod o hyd i rôl i gyflawni fy nyheadau gyrfa, sef gweithio fel Peintiwr ac Addurnwr, yn ystod cyfnod anodd iawn yn fy mywyd pan feddyliais y byddai cyfleoedd i ddod o hyd i swydd dda yn brin oherwydd y cyfnod anodd yr oeddem yn ei wynebu a’r effaith yr oedd y pandemig yn ei chael ar ein cymunedau a’n hinsawdd economaidd.

Mae Michele wedi bod yn gefnogol iawn o’r diwrnod cyntaf, o helpu i sicrhau bod fy CV yn addas ar gyfer y swydd yn Adran Cynnal a Chadw Acorn Nurseries i’r cyfweliad a chadw mewn cysylltiad i weld sut rydw i wedi ymgartrefu. Diolch yn fawr am eich help, rydw i wir yn ei werthfawrogi, rydych chi wedi bod yn wych ac yn gymwynasgar iawn. Rwy’n edrych ymlaen at ddechrau fy NVQ Lefel 2 mewn Peintio ac Addurno. Byddaf yn cadw mewn cysylltiad er mwyn rhoi gwybod ichi sut mae’r cyfan yn mynd ”.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau