Dysgwr adweitheg yn sefydlu ei busnes ein hun, diolch i Tafflab

Breuddwyd un o ddysgwyr Coleg y Cymoedd oedd bod yn fos arni hi ei hun ac mae’r freuddwyd honno ar fin cael ei gwireddu wrth iddi baratoi ar gyfer agor ei busnes ei hun fis nesaf, diolch i gymorth gan y coleg a phrosiect Tafflab.  

Mae Hayley Humphries, 54 oed, yn mynd i agor ei stiwdio adweitheg ei hun, Ty Adweitheg Reflexology Therapies, ar ôl i fentora’r prosiect ei hysbrydoli i fentro a dilyn ei breuddwydion.

Yn dilyn gyrfa 21 mlynedd yn y maes nyrsio, penderfynodd Hayley ei bod yn amser i newid cyfeiriad, gan ddewis ffeirio ei swydd uchel ei phwysedd i ddilyn llwybr mwy ymlaciol ym maes adweitheg – rhywbeth y mae wedi ymddiddori ynddo ers talwn.

Yn 2021, gadawodd ei rôl fel nyrs plant a chychwyn ar gwrs Lefel 3 mewn Adweitheg yng Ngholeg y Cymoedd. Gan sylwi ar ei brwdfrydedd dros y therapi a’i diddordeb mewn entrepreneuriaeth tua diwedd ei thymor cyntaf, cysylltodd Hayley Hunt, tiwtor Hayley, â thîm digwyddiadau a phartneriaethau rhyngwladol y coleg i’w helpu i ystyried ei hopsiynau.

Yna atgyfeiriwyd Hayley at Tafflab, sefydliad a ariennir gan elusen sy’n helpu egin entrepreneuriaid o golegau AB yng Nghymoedd De Cymru i wireddu eu breuddwydion busnes. Mae dysgwyr a dderbynnir ar y rhaglen yn derbyn mentora gan berchnogion busnes llwyddiannus lleol sy’n eu hannog, eu cynorthwyo a’u cynghori ar eu camau nesaf.

Ar ôl cyflwyno achos busnes trawiadol, dewiswyd Hayley i ymuno â charfan Tafflab ym mis Ionawr 2022.

Drwy Tafflab, derbyniodd Hayley gyngor ar bob maes perthnasol i sefydlu busnes yn cynnwys cyfarwyddyd ar sut i wneud cais am grantiau ariannol, ysgrifennu cynlluniau busnes, ymchwilio i’r gystadleuaeth, sicrhau bod ei gwasanaethau yn cwrdd â gofynion cydymffurfio, datblygu gwefan a marchnata ei busnes newydd.

Gan sôn am ei busnes newydd a’r cymorth a dderbyniodd. dywedodd Hayley: “Mwynheais fy amser fel nyrs plant, roedd yn waith gwerth ei wneud ac roeddwn yn hynod falch o fy rolau drwy gydol fy ngyrfa, roeddwn hefyd dan bwysau aruthrol ac roedd hi’n anodd gweld pethau bob dydd oedd yn achosi cymaint o ofid i mi. Roeddwn wrth fy modd yn gweithio gyda phobl, felly meddyliais am ddulliau eraill o wneud hynny. Roeddwn i’n awyddus i wneud rhywbeth oedd yn lliniaru strés pobl a’r strés arna i ac arweiniodd hyn imi feddwl am adweitheg – rhywbeth oedd gen i ddiddordeb ynddo erioed.

“Mae fy hyder wedi codi ddeg gwaith drosodd dros y flwyddyn ddiwethaf oherwydd credodd Tafflab ynddo i. Dw i mor gyffrous mod i’n gwireddu fy mreuddwyd.”

Fel rhan o’i chamau nesaf, mae Hayley wedi sicrhau ystafell wedi’i hadeiladu i’r pwrpas y bydd hi’n ei defnyddio ar gyfer ei busnes. Yn y dyfodol, mae Hayley yn cynllunio ymrestru ar ddau gwrs nos rhan amser mewn tylino pen Indiaidd ac aromatherapi ynghyd â’i busnes, fel y gall ehangu’r triniaethau y gall eu cynnig i ddarpar gleientiaid.

Yn dilyn llwyddiant ei thaith busnes, gofynnwyd i Hayley i weithio gyda Tafflab fel mentor busnes newydd ar gyfer carfan y flwyddyn nesaf i’w helpu nhw gyda’u taith Tafflab.

Bydd Tŷ Adweitheg Reflexology Therapies yn agor 1af o Fedi. Am ragor o wybodaeth ewch at: https://www.ty-adweitheg-at-the-mill.com/

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau