Mae un o ddysg wr patisserie Coleg y Cymoedd, Verity-Ann Lewis, wedi cyflawni ei huchelgais ac wedi ennill aur mewn cystadleuaeth Sgiliau Patisserie yn ddiweddar. Bu Verity-Ann, yr unig ddysgwr Arlwyo o Goleg y Cymoedd, yn cystadlu yn erbyn dysgwyr o golegau ledled Cymru.
Cynlluniwyd Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, i godi proffil sgiliau yng Nghymru. Mae’r gystadleuaeth yn helpu i hybu set sgiliau gweithlu’r dyfodol, gan ganolbwyntio ar feysydd twf ac anghenion yr economi.
Eleni, oherwydd y pandemig, ni theithiodd y dysgwyr i wahanol ganolfannau i gystadlu yn rownd ranbarthol Cystadleuaeth Sgiliau’r DU. Yn hytrach, cafodd y gwaith ei baratoi yn fewnol, ac yna ei feirniadu o bell. Plesiodd cyflwyniad, creadigrwydd ac arddull Verity-Ann y beirniaid, a gyflwynodd y Wobr Aur fawreddog iddi.
Mae Verity, sy’n (AGE) oed ac yn dod o Rymni, wedi astudio yn yr adran Lletygarwch ac Arlwyo ar gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd ers pedair blynedd ac wedi bod yn ymwneud â phob agwedd ar yr adran. Mae hi wedi bod yn awyddus i gymryd rhan mewn cystadlaethau erioed er mwyn ennill profiad ac arddangos y sgiliau a ddatblygodd yn y coleg.
Yn ystod cyfnod anodd a heriol Covid-19 roedd Verity-Ann yn cwblhau cwrs Patisserie a Melysion VTCT Lefel 3, ond oherwydd ei ffocws a’i hymrwymiad, treuliodd gryn dipyn o amser yn hyfforddi ar gyfer y gystadleuaeth yn y coleg ac yn y cartref.
Wrth longyfarch Verity ar ei llwyddiant, dywedodd y Tiwtor Cwrs Ian Presgrave “Mae Verity wedi gweithio’n galed drwy gydol ei blynyddoedd yn y coleg ac oherwydd ei gwaith caled a hyfforddiant gan diwtoriaid ymroddedig, mae hi wedi cyrraedd ei nod ac wedi ennill aur. Rydym yn dymuno pob lwc iddi am yrfa lwyddiannus”.
Ychwanegodd Verity-Ann yn llawn cyffro “Rhaid imi ddiolch i’m tiwtoriaid am y gefnogaeth maen nhw wedi’i rhoi imi, yn enwedig Ian, Ben a Mark sydd wedi fy annog dros y flwyddyn ddiwethaf. Wrth astudio Patisserie yn Nantgarw, mae’r coleg wedi darparu cyfleusterau a hyfforddiant gwych imi sydd wedi fy ngalluogi i gyflawni fy nodau”.