Dysgwr Busnes Coleg y Cymoedd yn sicrhau ei swydd ddelfrydol ym myd Cyfrifon

Mae Swyddfa Cyflogaeth y Dyfodol Coleg y Cymoedd wedi gosod dysgwr Busnes a Chyllid, Luke Fogerty, ar drywydd ei yrfa ddelfrydol.

Roedd Luke, sy’n ugain oed ac yn dod o Lantrisant, yn astudio Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC mewn Busnes ar gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd wrth weithio’n rhan amser i gefnogi ei astudiaethau academaidd. Roedd y cwrs yn ymdrin ag Amgylchedd Busnes, Cyfrifeg Busnes, Cyfraith Contractau, Marchnata, Recriwtio a Dethol, Cyfathrebu Busnes a TG mewn Busnes; modiwlau yr oedd Luke yn gobeithio y byddent yn rhoi’r sgiliau, y wybodaeth a’r cymwysterau perthnasol iddo er mwyn sicrhau cyflogaeth ym myd Cyllid.

Er iddo ymgeisio am sawl swydd, roedd yn ei chael yn anodd sicrhau cyflogaeth yn ei yrfa ddewisol. Awgrymodd Tiwtor Cwrs Luke, Kim Purnell, y dylai ymgysylltu â Swyddfa Cyflogaeth y Dyfodol a dyna pryd y newidiodd pethau iddo. Bu’r staff Dyfodol yn gweithio gyda Luke ar ei CV, i hyrwyddo ei sgiliau a’i allu er mwyn sicrhau ei fod yn sefyll allan wrth ymgeisio am rolau mewn sector hynod gystadleuol.

Dywedodd Cydlynydd ‘Dyfodol’, Michelle Harris-Cocker “Pan gysylltodd Matthew Moody, Cyfarwyddwr Cyllid Mii Engineering â Swyddfa Cyflogaeth y Dyfodol i geisio’r cyfle i fanteisio ar dalent Busnes a Chyllid Coleg y Cymoedd, roeddwn yn adnabod rhywun a fyddai’n cyfateb yn berffaith i’w gofynion.

Esboniodd Matthew’r sgiliau a’r meini prawf sydd eu hangen ar gyfer y rôl ac roedd Luke yn ticio’r blychau i gyd, gyda’i sgiliau trosglwyddadwy a’i agwedd broffesiynol, i gyflawni rôl Cynorthwyydd Cyfrifon.

Ar ôl ymgynghori â Luke, cyflwynodd ei CV a phan gyrhaeddodd y rhestr fer, fe wnaethom baratoi ar gyfer ei gyfweliad. Cyn pen wythnos, roedd Luke wedi ymgeisio am swydd, mynychu cyfweliad a chael cynnig swydd.

Gŵr ieuanc hyfryd yw Luke a wnaiff ffynnu yn ei yrfa. O’r diwrnod cyntaf roeddwn yn gallu gweld ei botensial a’i benderfyniad i lwyddo wrth ddod o hyd i swydd ei freuddwydion o fewn rôl yn ymwneud a chyllid. Mae wedi bod yn bleser cefnogi Luke gyda’r cyfle gwych hwn”.

Dywedodd Matthew Moody Cyfarwyddwr Cyllid “Mae MII Engineering Ltd. https://www.mii.co.uk/ yn gwmni peirianneg amlddisgyblaethol a leolir yn Ne Cymru, ac mae cyflawni ein prosiectau o’r pwys mwyaf; gan ein bod bob amser yn ymdrechu i ragori ar ddisgwyliadau ein cwsmeriaid.

Mae swyddogaeth y swyddfa gefn hefyd yn bwysig a gwneir yr un ymdrech i sicrhau bod ein rheolaethau mor gryf a chadarn ag y gallant fod.

Ymunodd Luke â ni drwy Swyddfa Cyflogaeth y Dyfodol yng Ngholeg y Cymoedd, ac mae wedi ymgartrefu’n dda. Mae Luke wedi dod i ddeall ein proses brynu yn gyflym, ac wedi profi ei fod yn gymwys, yn awyddus ac yn frwdfrydig, yn union yr hyn yr ydym ei eisiau gan ein gweithwyr. Mae cadw pobl fel Luke yn hollbwysig i’n busnes, felly mae gweithio mewn partneriaeth â Choleg y Cymoedd i ddatblygu cymhwyster proffesiynol Luke yn gwneud synnwyr”.

Ychwanegodd Luke “Mae pawb yn Mii Engineering wedi fy helpu i setlo yn fy rôl llawn amser newydd fel Cynorthwyydd Cyfrifon. Rwyf wedi derbyn cefnogaeth ac anogaeth gyson gan fy nghydweithwyr ac rwyf eisoes yn teimlo’n gartrefol iawn yn y swyddfa.

Roedd y gefnogaeth a’r arweiniad a gefais gan Michele Harris-Cocker yn Dyfodol yn allweddol i sicrhau’r rôl hon. Fe wnaeth Michele fy helpu gyda fy CV i sicrhau ei fod yn broffesiynol ac yn nodi fy holl sgiliau a gwybodaeth. Cyn gynted ag y cododd y cyfle yn Mii Engineering, cysylltodd Michele â mi ar unwaith er mwyn nodi fy mod yn addas ar gyfer y swydd; a’i bod felly wedi cyflwyno fy CV i Matthew Moody, Cyfarwyddwr Cyllid, i’w ystyried. Cefais wahoddiad i fynychu cyfweliad ac yn fuan wedyn cefais gynnig y swydd!

Byddaf yn ddiolchgar am byth am y cyfle hwn a’r ffydd a ddangoswyd ynof gan Michele a’m cyflogwr newydd. Rhoes Matthew gyfle imi gan ganiatáu imi ddechrau fy nhaith i fyd cyfrifon a chyllid. Byddaf yn parhau â’m taith ddysgu yng Ngholeg y Cymoedd, gan gofrestru ar y cwrs AAT”.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau