Dysgwr Coleg y Cymoedd yn chwifio baner Cymru yn Fforwm Ffilm Ieuenctid Ewrop 2015

Mae Holly Ash newydd ddychwelyd o Frwsel lle bu’n cynrychioli’r DU yn Fforwm Ffilm Ieuenctid Ewrop 2015, lle mae pobl ifanc ar draws y cyfandir yn ymgynnull i ystyried amrywiaeth diwylliannol. Mae’r ddysgwraig ddeunaw oed o Nantgarw sydd newydd orffen ei chwrs cyfryngau, sef Diploma Estynedig mewn Cynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol (Teledu a Ffilm), ar gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd ac wrth ei bodd bod y fforwm dwy flynyddol yn digwydd ar adeg cyfleus iddi wneud cais i’w fynychu.

Teithiodd i Frwsel ar gyfer yr achlysur 12 diwrnod ac ymunodd â chwe deg o fynychwyr oedd rhwng 18 a 25 oed. Rodd gan bob cyfrannwr ddiddordeb brwd mewn creu rhaglenni dogfen a chofleidio’r cyfle i ddatblygu eu sgiliau.

Mae’r Fforwm, sydd yn ei ddegfed blwyddyn erbyn hyn, yn croesawu gwneuthurwyr ffilm ifanc o unarddeg o wledydd ac yn fagwrfa lle gellir cyfnewid diwylliannau a datblygu’n bersonol. Yn ytod y rhaglen cafodd y cyfranogwyr gymorth gwneuthurwyr ffilm a golygyddion proffesiynol i weithio ar eu ffilmiau dogfen, gan gynnwys yr holl gamau paratoadol, y cynhyrchiad ei hun a’r ôl-gynhyrchu, golygu ac addasu.

Hyd yma, mae Holly wedi ennill cyfoeth o brofiad yn y diwydiant ffilm, ar ôl gwirfoddoli i weithio mewn nifer o leoliadau. Mae’n arbennig o falch o’r gwaith mae wedi’i gynhyrchu ar gwrs Rhwydwaith Academi Dogfennol Cymru (DAWN) yn Aberystwyth, a gynhelir gan Academi Ffilm y BFI, yn ogystal â bod yn rhedwraig ar un o’r hoff gyfresi teledu o Gymru, ‘Stella’. Bu gweithio gyda Zoom Cymru, Fforwm Ffilm ar gyfer pobl ifanc wedi’i leoli yn Ne Cymru, yn fodd i arwain Holly ar ei dewis o lwybr gyrfa ac mae’n canmol eu gwaith gyda myfyrwyr i’r cymylau.

Cafodd Holly astudiaeth academaidd yn yr ysgol yn heriol yn enwedig ar ddiwedd blwyddyn 11, ond roedd bob amser yn gwybod bod ganddi lawer mwy i’w gynnig. Felly, mynychodd achlysur agored yn y coleg a ymrestrodd ar gwrs Lefel 2 Celf a Dylunio cyn rhoi ei bryd ar yrfa yn y cyfryngau. Llwyddodd a ffynnu yn yr aseiniadau a gyda chymorth y staff enillodd ei graddau rhagoriaeth oedd yn ei galluogi i symud ymlaen i gwrs Diploma Estynedig mewn Cynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol (Teledu a Ffilm) lle unwaith eto ennillodd dair gradd rhagoriaeth, tipyn o gamp o gofio bod Holly yn ddyslecsig. Ym mis Medi, bydd Holly yn cychwyn ar ran nesaf ei llwybr gyrfaol pan fydd yn symud i Lundain i astudio yn Royal Holloway.

Dywedodd Holly, “Dw i mor gyffrous ond bu’n waith caled! Ces brofiadau gwych ym Mrwsel gan i mi gwrdd â cymaint o bobl hyfryd a dysgu cymaint ond mae hyn i gyd yn deillio o fy ymdrechion o’r cychwyn cyntaf – y chwys a’r gwaed roedd cwblhau’r aseiniadau hynny wedi’i olygu! Mae’r cwrs diweddaraf hwn wedi fy helpu i ddeall sut i ddelio â sialensiau newydd fel gweithio gyda phobl sydd ddim yn siarad Saesneg – gall fod yn anodd iawn ar adegau ond yn gwbl gwerth chweil. Nawr, dwi’n edrych ymlaen at astudio yn Royal Holloway, Prifysgol Llundain, ac ni allaf ddiolch digon i staff Coleg y Cymoedd am yr holl gymorth a’r anogaeth dw i wedi’i dderbyn yn ystod fy amser yma.”

Ychwanegodd Amanda Stafford, Tiwtor y cwrs, “Ron i wrth fy modd pan gafodd Holly ei dewis i fynychu Fforwm Film Ieuenctid Ewrop, ron i’n gwybod y byddai’n elwa’n fawr o’r rhaglen. Mae’n uchelgeisiol iawn ac yn gweithio’n galed gan roi 100% i bopeth mae’n ei wneud. Mae’n haeddu ei lle yn Royal Holloway – gwn y bydd yn llwyddo ac yn un i edrych allan amdani!”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau