Dysgwr Coleg y Cymoedd yn dechrau ar lwybr gyrfa cyffrous ym myd teledu

“Mae’r coleg wir yn poeni am ei fyfyrwyr ac mae bob amser yn ceisio rhoi’r profiad gorau posibl i bawb” – geiriau dysgwr Coleg y Cymoedd, Sophie Batt, sydd ar fin cychwyn gyrfa gyffrous ym myd teledu, drwy sicrhau Prentisiaeth y BBC.

Mynychodd Sophie, sy’n ddwy ar bymtheg oed ac yn dod o Ystrad Mynach, Ysgol Gyfun Lewis i Ferched Lewis, a thrwy gydol ei hastudiaethau roedd ei bryd ar yrfa ym myd teledu.

Cyn gadael yr ysgol, ymchwiliodd Sophie i’r cyrsiau perthnasol a oedd ar gael a mynychodd ddigwyddiad agored ar gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd. Trafododd y cyrsiau gyda’r staff, a oedd mor barod i helpu a’r cwrs Teledu a Ffilm oedd yr union beth yr oedd Sophie wedi breuddwydio ei astudio, er mwyn cyflawni ei nodau ar gyfer y dyfodol.

Atgyfnerthodd y wybodaeth a gafodd yn y digwyddiad agored y sylwadau cadarnhaol gan deulu a ffrindiau a oedd eisoes yn astudio yn y coleg. Penderfynodd Sophie gofrestru ar y Diploma Lefel 3 mewn Cynhyrchu a Thechnoleg y Cyfryngau Creadigol (Teledu a Ffilm) ar Gampws Nantgarw’r coleg.

Wrth siarad am ei hamser yn y coleg dywedodd Sophie “Oni bai am y cwrs hwn, ni fyddwn wedi sicrhau’r brentisiaeth yn y BBC y byddaf yn ei dechrau ym mis Ionawr. Yn ogystal â gwella fy sgiliau, rhoes y cwrs hwn imi’r cyfle i weithio gyda phobl eraill.

Mae’r coleg yn cynnig cefnogaeth ac mae’r staff yn mynd allan o’u ffordd bob amser i’w myfyrwyr. Roeddwn i’n teimlo’n gyffyrddus yn y coleg ac roeddwn i’n gwybod pe bai angen help arnaf, y byddai rhywun yno imi.

Mae astudio yng Ngholeg y Cymoedd wedi rhoi’r hyder imi ac wedi fy helpu i baratoi ar gyfer fy nyfodol. Rwyf wedi datblygu ystod o sgiliau a fydd yn fuddiol mewn sefyllfaoedd yn y dyfodol ac rwyf nawr yn teimlo’n hyderus ynof fy hun. Byddwn yn bendant yn argymell y cwrs hwn a Choleg y Cymoedd; dyma’r peth gorau sydd wedi digwydd imi.

Mae fy mhrofiad wedi bod yn anhygoel ac mae’r cwrs hwn yn gyfle unwaith mewn bywyd na ddylai neb golli allan arno. Byddaf yn drist wrth adael Coleg y Cymoedd ond rwy’n edrych ymlaen at ddechrau’r brentisiaeth ym mis Ionawr ”.

Dywedodd Amanda Stafford, Tiwtor y Cwrs “Mae hi wedi bod yn bleser dysgu Sophie a gweld ei sgiliau a’i hyder yn datblygu. Mae ei hymrwymiad i’w hastudiaethau ac i’w gwaith creadigol wedi bod yn ysbrydoledig ac mae’n hyfryd gweld ei gwaith caled yn cael ei wobrwyo fel hyn. Bydd yn gaffaeliad i’r tîm yn y BBC a dymunwn bob llwyddiant iddi gyda’i gyrfa.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau