Dysgwr Coleg y Cymoedd yn ennill bwrsariaeth JG Speedfit Plumbing

Mae John Guest Speedfit yn helpu sicrhau bod dyfodol diwydiant plymio Prydain mewn dwylo diogel, trwy noddi dysgwr coleg dawnus.

Mae’r nawdd newydd gyda Choleg y Cymoedd (campws Ystrad Mynach), cartref y prif gwrs Plymio a Gwresogi yng Nghymru, yn golygu bod Matthew Sier, dysgwr Blwyddyn 2, wedi ennill bwrsariaeth gwerth £1,000 er mwyn helpu cwblhau ei astudiaethau.

Dewiswyd Matthew ar ôl cystadleuaeth frwd i ddod o hyd i’r dysgwr a oedd yn dangos yr ymrwymiad gorau tuag at blymio ac a oedd yn meddu ar y sgiliau i lwyddo yn y diwydiant. Enwebodd darlithwyr Coleg y Cymoedd 6 dysgwr a oedd wedi perfformio’n dda ym Mlwyddyn 1. Ymwelodd yr ymgeiswyr â chartref JG Speedfit yn West Drayton, gan ateb cwestiynau plymio yn dangos eu cymhwysedd a chael eu cyfweld gan banel o ddarlithwyr ac arbenigwyr JG Speedfit.

Rwyf yn teimlo’n ddiolchgar i JG Speedfit am roi’r cyfle hwn imi. Dysgais rai ffeithiau diddorol ynglÅ·n â phlymio push-fit a mwynheais y daith o amgylch y ffatri, gan weld sut mae cynnyrch Speedfit yn cael ei gynhyrchu. Rwyf wedi gweithio’n galed yn paratoi ar gyfer y diwrnod hwn ac rwyf wrth fy modd fy mod wedi ennill”, meddai Matthew.

“Bydd Matthew yn llysgennad gwych i blymwyr ifanc. Creodd ei ymroddiad tuag at y proffesiwn a’i wybodaeth dechnegol argraff arnom. Rydym wrth ein bodd yn ei helpu gyda’i astudiaethau ac edrychwn ymlaen at weld sut aiff pethau iddo”, esboniodd Nigel Sanger, Cyfarwyddwr Technegol JG Speedfit.

Yn ogystal â derbyn £1,000 y flwyddyn academaidd am weddill y cwrs, ar ôl ei gwblhau bydd hefyd yn derbyn blwch offer ac esgidiau gwaith gan JG Speedfit.

Mae dewis Coleg y Cymoedd (Campws Ystrad Mynach) yn adlewyrchu cysylltiadau agos JG Speedfit â’r Coleg, lle dysgodd Nigel Sanger ei hun am blymio a gwresogi am y tro cyntaf.

“Rwyf yn credu’n gryf bod dealltwriaeth ddamcaniaethol o blymio yn hanfodol ar gyfer iechyd a phroffidioldeb hirdymor y diwydiant. Rydym am greu llwyfan lle gellir gwobrwyo a chefnogi talent dysgwyr yn y dyfodol, fel Matthew, oherwydd eu hymrwymiad tuag at bob agwedd ar blymio

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau