Dysgwr Coleg y Cymoedd yn ennill gwobr Myfyriwr Coginio Crwst Ifanc y Flwyddyn

Mae menyw ifanc o Bontypridd wedi cael ei choroni’n gogydd crwst ifanc gorau’r DU ar ôl ennill cystadleuaeth genedlaethol.

Curodd Josie Wheeler, sy’n ddeunaw oed ac wrthi’n astudio cwrs Patisserie Proffesiynol Lefel 3 yng Ngholeg y Cymoedd, saith cogydd patisserie addawol arall o bob rhan o’r DU i gipio’r teitl yng nghystadleuaeth Myfyriwr Coginio Crwst Ifanc y Flwyddyn 2022.

Cipiodd y brif wobr ar ôl creu argraff ar banel llawn sêr o feirniaid blaenllaw yn y diwydiant, gan gynnwys Benoit Blin o Bake Off – The Professionals, gyda’i chreadigaethau yn y rowndiau terfynol a gynhaliwyd yn Hotel Café Royal yn Llundain.

Mae Myfyriwr Coginio Crwst Ifanc y Flwyddyn, a gynhelir gan Fforwm y Cogyddion, yn dathlu’r ddawn ifanc orau yn y diwydiant patisserie ac mae’n agored i bob cogydd crwst sydd mewn addysg ar hyn o bryd.

Dewiswyd Josie ar gyfer y rownd derfynol o blith cannoedd o geisiadau ar ôl cyflwyno llun, fideo a disgrifiad o’i phwdin ei hun. Yn ystod y rowndiau terfynol, roedd yn rhaid iddi ddylunio a chreu 12 pryd ‘pwdin i fynd’ o gynhwysion a ddarparwyd ar y safle.

Dywedodd Josie: “Roedd y gystadleuaeth yn brofiad anhygoel ac rydw i mor falch o fod wedi ennill. Rwy’n ddiolchgar iawn o fod wedi cyfarfod â phobl mor anhygoel yn ystod y gystadleuaeth, yn enwedig y beirniaid i gyd. Rwyf bob amser wedi credu, os nad yw rhywbeth yn eich herio, ni fydd yn eich newid. Mae cael eich herio yn bwysig i ddatblygu eich sgiliau a meddyliais, os na wna i fy herio fy hun nawr, pryd wna i?”

Roedd gan y gystadleuaeth banel o gogyddion o fri a oedd yn cynnwys enwau fel beirniad Bake Off The Professionals Benoit Blin, cogydd crwst yn The Dorchester yn Llundain, Michael Kwan, cogydd crwst The Savoy, Daniel Pearse, ac Is-gogydd Crwst Le Manoir aux Quat’ Saisons, Jamie Houghton.

Yn sgil ei buddugoliaeth enillodd Josie daleb gwerth £400 gan Mitchell & Cooper, amrywiaeth o gynhyrchion gan HB Ingredients, detholiad o offer coginio, arddangosiad crwst HB Ingredients yn y coleg, yn ogystal â the prynhawn i ddau yn The Dorchester.

Unwaith y bydd wedi cwblhau ei hastudiaethau, mae Josie yn anelu at gael swydd mewn bwyty patisserie adnabyddus lle bydd yn gallu arbrofi â blasau a thechnegau newydd a dysgu gan aelodau profiadol o staff. Mae hi’n gobeithio y bydd ennill y gystadleuaeth yn agor y drws i gyfleoedd gwych yn y dyfodol.

Dywedodd Ian Presgrave, darlithydd Lletygarwch ac Arlwyo yng Ngholeg y Cymoedd: “Rydym yn hynod falch o Josie am ei chyflawniadau gwych, sy’n amlygu’r ddawn aruthrol yr ydym yn ei chynhyrchu yng Ngholeg y Cymoedd yn yr adran arlwyo. Dylai Josie ymfalchïo yn ei llwyddiant a’i hymroddiad i gelfyddyd Patisserie.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau