Mae dysgwr o Drehafod wedi curo cystadleuaeth frwd gan gannoedd o bobl eraill ledled Cymru i fod yn un o ddim ond 10 prentis newydd mewn cwmni peirianneg awyrennau blaenllaw.
Mae dysgwr Coleg y Cymoedd, Cameron Forbes sy’n 18 oed, wedi sicrhau lle ar y rhaglen tair blynedd o brentisiaeth cynnal a chadw awyrennau gyda’r cwmni o Sain Tathan, CAERDAV. CAERDAV yw un o brif ddarparwyr y DU ym maes cynnal a chadw ac atgyweirio awyrennau.
Gyda diddordeb brwd mewn trwsio pethau, mae Cameron wedi bod yn atgyweirio beiciau yn ei amser sbâr ers pan oedd yn 13 oed. Ar ôl dilyn cwrs peirianneg fecanyddol yng Ngholeg y Cymoedd, roedd Cameron wedi gosod ei fryd ar fod yn beiriannydd awyrennau ac mae bellach yn annog pobl ifanc eraill i ystyried y llwybr prentisiaeth fel rhan o Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, a gynhelir rhwng 7 a 13 Chwefror 2022.
Dywedodd Cameron: “Fy mreuddwyd yw bod yn dechnegydd awyrennau. Ar ôl fy mhrentisiaeth, rwyf am gwblhau fy nhrwydded B1 a fydd yn caniatáu imi gymhwyso fel peiriannydd awyrennau trwyddedig. Rwyf bob amser wedi bod wrth fy modd yn trwsio pethau a nawr byddaf yn cael fy nhalu tra byddaf yn hyfforddi. Rwy’n gobeithio y bydd y brentisiaeth yn arwain at swydd amser llawn gyda CAERDAV ac rwy’n edrych ymlaen at weld beth fydd y dyfodol yn ei gynnig o ran gyrfa.”
Er mwyn sicrhau lle ar raglen brentisiaeth hynod gystadleuol CAERDAV, sy’n derbyn mwy na 170 o geisiadau bob blwyddyn, bu’n rhaid i Cameron gwblhau cyfres o brofion rhesymu mecanyddol a rhifiadol, mynychu cyfweliad lle bu’n rhaid iddo roi cyflwyniad ar ei rinweddau personol, a sefyll asesiad sgiliau ymarferol.
Cyn penderfynu dilyn prentisiaeth, cymerodd Cameron ran mewn cwrs cyn-brentisiaeth yng Ngholeg y Cymoedd. Bydd ei brentisiaeth yn dechrau ym mis Medi, ond yn y cyfamser, mae Cameron yn astudio yn y coleg a bydd yn gweithio gyda CAERDAV yn ystod gwyliau’r haf i gael rhagor o brofiad.
O fis Medi ymlaen, bydd Cameron yn gweithio ar y safle yn CAERDAV un diwrnod yr wythnos a bydd yn astudio yn y coleg weddill yr wythnos. Ar gyfer ei flwyddyn olaf, bydd yn gweithio’n llawn amser yn y cwmni. Yn dilyn y brentisiaeth tair blynedd, mae Cameron yn gobeithio sicrhau swydd amser llawn yn CAERDAV fel mecanig awyrennau.
Dywedodd David Howells, Pennaeth Cyfrifiadureg a Pheirianneg yng Ngholeg y Cymoedd: “Rydym yn hynod falch fod ymroddiad a gwaith caled Cameron wedi talu ar ei ganfed, gan ganiatáu iddo guro cystadleuaeth o bob rhan o dde Cymru i sicrhau’r cyfle gyda CAERDAV. Rydym ni’n edrych ymlaen at ddilyn camau nesaf Cameron wrth iddo ddechrau ei yrfa.
“Mae’n wych gweld dysgwyr o’r coleg yn gwireddu eu breuddwydion. Rydym wedi gweithio’n agos gyda’r diwydiant i ddylunio cyrsiau a phrentisiaethau sy’n sicrhau bod ein dysgwyr yn gadael y coleg yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddechrau gyrfa yn y diwydiant.”