Dysgwr coleg yn sefydlu grŵp cymorth iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc y Rhondda

Mae gofalwr ifanc ysbrydoledig o Gymoedd De Cymru wedi sefydlu ei grŵp cymorth ei hun y tu allan i’r coleg i helpu pobl ifanc a gofalwyr eraill yn y rhanbarth sy’n cael trafferth gydag iechyd meddwl.

Mae dysgwr Coleg y Cymoedd, Alisha Morgan, sy’n ugain oed ac yn dod o Benrhys, wedi gweithio gydag Ysgol Gymuned Ferndale i sefydlu grŵp cymorth wythnosol, sy’n cynnig cyngor a lle diogel i bobl ifanc siarad am y materion sy’n effeithio arnyn nhw.

Yn wreiddiol, penderfynodd Alisha, sef prif ofalwr ei mam, sefydlu’r clwb ieuenctid ar ôl dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl ei hun. Dangosodd trasiedi sawl person ifanc yn ei chymuned yn cyflawni hunanladdiad nad hi oedd yr unig un a oedd yn ei chael hi’n anodd.

Hefyd, roedd hi am gynnig cefnogaeth i bobl ifanc fel hi sydd â chyfrifoldebau gofal, gan wybod yn uniongyrchol faint o effaith emosiynol a chymdeithasol y gall y rôl ei chael.

Daeth Alisha yn ofalwr ifanc pan oedd ond yn 17 oed pan aeth ei mam yn sâl gyda nifer o gyflyrau a oedd yn golygu ei bod yn ei chael hi’n anodd cerdded a gofalu amdani hi ei hun. Roedd yn rhaid i Alisha ysgwyddo ystod o gyfrifoldebau gan gynnwys gwirio lefelau inswlin ei mam, ei helpu i gerdded, ei chynorthwyo â thasgau bob dydd a mynd â hi i’r ysbyty pan fyddai’n cael pyliau difrifol.

Gan ei bod yn ei chael hi’n anodd cydbwyso ei dyletswyddau gofal gyda’i haddysg, fe wnaeth Alisha adael y coleg yn llwyr. Fodd bynnag, gan ei bod yn benderfynol o greu gyrfa, dychwelodd i’r coleg flwyddyn yn ddiweddarach i astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gyda’r nod o weithio ym maes iechyd meddwl paediatrig.

Mae Alisha, sydd bellach yn astudio ei Diploma Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg y Cymoedd, yn cyfaddef ei bod yn ei chael hi’n anodd canolbwyntio ar ei haddysg pan all gael ei galw ar unrhyw adeg i helpu ei mam. Hefyd, mae hi’n cydnabod bod ei chyfrifoldebau yn golygu nad oes ganddi lawer o fywyd cymdeithasol mwyach ac anaml y bydd yn mynd allan. Y teimlad hwn a ysbrydolodd Alisha i greu grŵp lle gallai gwrdd a chymdeithasu â phobl eraill yn yr un sefyllfa.

Yn 2017, penderfynodd Alisha ymgymryd â hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl gan ei bod eisiau helpu pobl ifanc gyda phroblemau iechyd meddwl. Yn fuan wedi hynny, wedi’i harfogi â chymhwyster achrededig, ffurfiodd glwb ieuenctid yng Nglyn Rhedynog.

Meddai Alisha: “Ar ôl dioddef problemau iechyd meddwl fy hun, roeddwn i wir eisiau helpu pobl ifanc eraill yn yr un sefyllfa. Rwy’n credu ei bod mor bwysig bod pobl yn siarad am iechyd meddwl ac yn cael cymorth. Roeddwn i eisiau gwneud popeth o fewn fy ngallu i helpu pobl eraill a dyna pam y penderfynais sefydlu’r grŵp.

“Rwy’n mynychu’r sesiynau y tu allan i fy astudiaethau coleg ac rydym yn siarad am ystod o faterion o iselder ysbryd a phryder i brofedigaeth ac atal hunanladdiad. Mae siarad â phobl eraill sy’n deall yr hyn rydych chi’n mynd drwyddi yn help mawr.“

Mae bod yn ofalwr ifanc wedi dod yn rhan o fy mywyd bob dydd – mae’n normal i mi – ond gall fod yn anodd weithiau. Rwy’n ffodus bod fy ngholeg yn deall ac yn hyblyg gyda mi pan fyddaf yn dod i mewn yn hwyr neu’n gadael yn gynnar i helpu fy mam. Byddaf bob amser yno i helpu fy mam ond mae dod yn ofalwr amser llawn yn cael effaith. Yn ogystal â fy ngalluogi i helpu pobl eraill mae cynnal y grŵp yn fy helpu i hefyd, gan ganiatáu imi gael amser i ffwrdd o fy mywyd bob dydd.

Ar hyn o bryd mae’r clwb ieuenctid yn cefnogi saith unigolyn rhwng 11 a 25 oed. Yn ogystal â sesiynau grŵp, mae Alisha hefyd yn siarad ag aelodau un i un, gan gynnig lle cyfrinachol iddynt drafod eu problemau.

Mae’r grŵp wedi dod yn arbennig o bwysig i’r gymuned yn dilyn hunanladdiad pedwar o bobl ifanc o’r Rhondda ac mae Alisha yn annog unrhyw un sy’n cael trafferth gydag iechyd meddwl i godi eu llais a pheidio â dioddef mewn distawrwydd.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau