Mae Lindsey Jenkins o Dreherbert, Rhondda, wedi ennill cystadleuaeth WorldSkills mewn Gofal. Mae’r gystadleuaeth a gynhaliwyd yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr yn rhan o fenter a noddir gan Lywodraeth Cymru sy’n hybu pwysigrwydd datblygu gweithlu medrus gyda sgiliau uchel a’i nod ydy rhoi hwb i lefel sgiliau ar hyd a lled Cymru.
Daeth Lindsey i’r brig yn y gystadleuaeth sgiliau gan gystadlu yn erbyn dysgwyr o golegau ar hyd a lled Cymru. Roedd rhaid i bob cystadleuydd yn y rownd derfynol gwblhau cyfres o sialensiau “Gofalâ€, gan arddangos eu sgiliau gofalu tra’n cael eu hasesu gan banel o arbenigwyr.
Dywedodd Lindsey: “Fe wnes i wirioneddol fwynhau’r profiad er mod i’n eitha nerfus. Roedd y tasgau’n heriol ond roedd fy nghwrs yn y coleg a fy lleoliad wedi bod yn fuddiol iawn yn hynny o beth; dw i ddim yn gallu credu cymaint dwi wedi’i ddysgu dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Roedd y beirniaid yn hyfryd a derbyniais adborth a fydd yn fy ysgogi a fy symbylu.â€
Dywedodd Judith Evans, Y Pennaeth: “Rydyn ni wrth ein bodd gyda llwyddiant Lindsey yn y gystadleuaeth hon, mae wedi arddangos ei sgiliau gofalu ar lefel gystadleuol. Cynigir y cwrs Llwybr Gofal i Gyflogaeth y mae Lindsey yn ei ddilyn yn y coleg mewn partneriaeth â Chyngor Rhondda Cynon Taf ac mae wedi bod yn llwyddiant mawr. Enillodd Natasha Hallett, cyn-ddysgwr ar y cwrs hwn, fedal aur hefyd yn y gystadleuaeth hon ddwy flynedd yn ôl. Dymunaf bob lwc i Lindsey yn ei gyrfa a hoffwn ddiolch i’r staff am eu gwaith caled a’u hymroddiad wrth gefnogi a chynorthwyo’n dysgwyr.â€
Mae cystadlaethau WorldSkills yn symbylu pobl ifanc ac oedolion i fod yn fwy uchelgeisiol a rhoi cyfle i ddysgwyr gystadlu yn erbyn y gorau yn eu maes ar draws Cymru gyfan. Mae’r colegau sydd yn cymryd rhan hefyd yn elwa o’r cystadlaethau gan eu bod yn gallu meincnodi eu perfformiad yn erbyn sefydliadau eraill a datblygu arferion da.Â
“