Dysgwr ffotograffiaeth y Cymoedd yn cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Inspire Learning 2018

Llongyfarchiadau i Booker .T. Skelding, dysgwr o Goleg y Cymoedd, am gyrraedd rhestr fer rownd derfynol Gwobrau Inspire Learning eleni. Mae Booker yn astudio ar y cwrs Gradd Sylfaen llawn amser dwy flynedd mewn Ffotograffiaeth yng nghampws Nantgarw.

O blith dros 200 o ymgeiswyr yn y categori, cydnabu’r panel gyflawniadau Booker wrth gyrraedd y rownd derfynol gan nodi Mae penderfyniad a chymhelliant Booker ar y cwrs wedi talu ffordd ac mae wedi bod mor wych eich gweld yn datblygu fel ffotograffydd mor wych”.

Fel cystadleuydd yn rownd derfynol y Wobr Dysgwr Unigol, gofynnwyd i Booker lunio datganiad ar sut y mae ei phrofiad dysgu wedi newid ei bywyd …….

Cyn cychwyn ar Radd Sylfaen mewn Ffotograffiaeth, roeddwn yn Swyddog yn yr Heddlu am 17 mlynedd ac roeddwn yn hapusach nag erioed, yn gwireddu fy mreuddwyd. Fodd bynnag, yn 2009 cefais fy anafu mewn damwain car a newidiodd fy mywyd am byth – poen cronig a disg herniaidd yn fy asgwrn cefn. Ar ôl naw mlynedd o driniaeth a therapi, rwyf yn dal i weld ceiropractydd yn wythnosol i wella ansawdd fy mywyd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, dirywiodd fy iechyd meddwl oherwydd y poen cyson. Ar ôl 3 blynedd ar ddyletswyddau cyfyngedig yn yr heddlu, gwaethygodd y poen a’r iselder, ac ymddeolais oherwydd salwch yn 2015. Dros y ddwy flynedd nesaf gwaethygodd fy iselder ymhellach a dechreuais yfed yn drwm.

Roedd fy meddwl mewn cyflwr o ymateb eithafol ac roedd sŵn a thyrfaoedd annisgwyl yn arwain at bryder a phyliau o banig. Roeddwn wedi colli fy hunaniaeth, fy mhwrpas, fy iechyd a’m rheswm.

Gofynnodd fy merch, sydd bellach yn 18 mlwydd oed, imi, “Beth wyt ti’n mynd i’w wneud â dy fywyd”? Fel rhiant sengl, rwyf bob amser wedi bod yn fodel rôl iddi. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, gan fy mod bob amser wedi hoffi ffotograffiaeth fel hobi, penderfynais gofrestru ar y Radd Sylfaen mewn Ffotograffiaeth yng Ngholeg y Cymoedd.

Ers dechrau’r cwrs, mae fy mrwdfrydedd dros fywyd wedi dychwelyd ynghyd â’m hyder ac rwyf wedi dysgu cymaint. Rwyf yn llwyr ymgolli yn y gwaith, rwyf bob amser yn meddwl am dynnu’r ddelwedd nesaf. Am y tro cyntaf, rwyf wedi dod o hyd i rywbeth a all dynnu fy sylw rhag y boen.

Fodd bynnag, yn ystod y cwrs, mae mam wedi cael diagnosis o Alzheimer ac, fel ei hunig blentyn, rwyf wedi dod yn ofalwr iddi. Ynghyd â’r gofynion hynny, cefais ddiagnosis o ddyslecsia’n ddiweddar sy’n anhawster dysgu anferth imi. Rwyf yn cymryd tair i bum gwaith yn hirach i ddysgu a chynhyrchu darnau o waith na’r myfyriwr cyffredin. Ar hyn o bryd rwyf yn dod o hyd i ffyrdd o oresgyn y rhwystrau gyda meddalwedd penodol a ffyrdd eraill o ddysgu.

Ffotograffiaeth yw fy therapi: gallaf fod yn greadigol. Mae fy mywyd a’m gyrfa bob amser wedi golygu helpu pobl eraill: mae’n rhoi pwrpas a hunaniaeth i mi. Fy nghynllun hir dymor yw symud ymlaen i’r BA (Anrh) ac i ddefnyddio fy ffotograffiaeth i godi arian ar gyfer elusennau. Rwy’n gobeithio gwerthu printiau ‘celfyddyd gain’ mewn siopau, caffis ac orielau lleol. Mae ffotograffiaeth wedi bod yn ffordd o wella fy iechyd – corfforol a meddyliol – gan ryddhau fy nghreadigrwydd a dod o hyd i’m hunaniaeth.

Yn ddiweddar, enillodd Aur yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru gyda set o forluniau a dynnwyd o amgylch Cymru (fel rhan o Ymgyrch Croeso Cymru, Blwyddyn y Môr). Gwelodd fy narlithydd, Jessica Emanuel, fy mhotensial ac awgrymodd fy mod yn ymgeisio. Mae fy hyder wedi cynyddu cymaint fel fy mod wedi cystadlu mewn cystadleuaeth arall mewn Clwb Camera lleol.

Nid yw popeth yn berffaith gan fod fy nghyflwr yn golygu nad wyf yn gallu cario gormod o offer: un camera, un lens. Rwyf wedi dod o hyd i gamera gyda sgrin oscillaidd, sy’n helpu gydag onglau isel. Rwyf yn cyfyngu fy oriau gyda’r camera er mwyn osgoi gwaethygu fy mhoen cefn a gwddf. Ond, rwyf wedi cael fy mywyd yn ôl yn awr, ac rwyf yn ei gofleidio’n llwyr.

Am ragor o wybodaeth am y Radd Sylfaen mewn Ffotograffiaeth (2 flynedd llawn amser) – Ewch i’n blog … cycphoto.wixsite.com/colegycymoedd

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau