Mae dysgwr Coleg y Cymoedd wedi defnyddio’i sgiliau llythrennedd a chyfrifiadurol newydd i ennill enwogrwydd drwy werthu cannoedd o gopïau o lyfr y mae wedi ymchwilio.
Mae Martyn Ham, sydd ar hyn o bryd yn mynychu dosbarth Addysg Sylfaenol Oedolion Coleg y Cymoedd a gynhelir yn ysgol Fabanod Cynon yn Aberpennar ar fore Mercher, yn awdur llyfr newydd diddorol iawn yn seiliedig ar ei dîm rygbi lleol.
Ymunodd Martyn, a fu’n casglu data ar y pwnc am nifer o flynyddoedd, â’r dosbarth i wella ei sgiliau cyfrifiadurol fel y gallai ddefnyddio technoleg ar gyfer ymchwil mwy trylwyr a dysgu sut i lunio dogfennau gan ddefnyddio amrywiaeth o gymwysiadau.
Gan ddefnyddio’r sgiliau a ddatblygwyd yn ei ddosbarth Llythrennedd a Chyfrifiaduron a gynhelir yn y gymuned ar y cyd â mudiad Cymunedau’n Gyntaf, penderfynodd Martyn goladu ei ymchwil i fod yn sail i lyfr ar glwb rygbi Aberpennar, ‘The Old Firm’s Proud Past’ sy’n adrodd hanes oes aur y clwb fesul tymor o’r adeg y cafodd ei ffurfio yn 1875 tan 1940 pan dorrodd yr Ail Ryfel Byd ar draws pethau.
Cyhoeddwyd y llyfr sy’n 600 tudalen ar ddiwedd 2015 ac mae wedi gwerthu dros 100 o gopïau i’r clwb rygbi lleol a’r llyfrgell am £17 yr un.
Dywedodd Martyn wrth sôn am y prosiect ac am yr amser bu’n astudio yn Ngholeg y Cymoedd: “Bu’r dosbarth yn help i ehangu fy ngwybodaeth o TG a oedd yn ei dro yn ddefnyddiol pan roeddwn yn ysgrifennu’r llyfr. Os oes gan unrhywun ddiddordeb mewn TG, byddwn i’n argymell dod i’r dosbarth i ddysgu’r pethau sylfaenol am y rhyngrwyd, e-bost, ysgrifennu llythyrau ar Microsoft Word, a gwneud symiau rhifyddeg yn haws drwy ddefnyddio Microsoft Excel.
“Mae awyrgylch hyfryd yn y dosbarth a’r disgyblion yn datblygu ar eu cyflymdra eu hunain, ac os oes gennych gwestiwn, caiff ei ateb. Dw i’n ddiolchgar iawn i Ruth Barclay, tiwtor y cwrs am ei chymorth, a hoffwn gofnodi fy niolch iddi am ei holl waith.â€
Dywedodd y tiwtor yn y gymuned, Ruth Barclay: “Mae sgiliau cyfrifiadurol Martyn wedi datblygu’n aruthrol, mae’n ddysgwr brwd iawn. Roedd e wedi sôn ei fod am drefnu’r holl waith ymchwil yr oedd wedi’i gasglu yn llyfr, ond mae’n wych bod llyfr mor drawiadol ei olwg sydd eisoes yn gwerthu wedi gweld golau ddydd. Mae’n haeddu llawer o gydnabyddiaeth am ei holl waith caled.â€
Os oes diddordeb gennych mewn mynychu dosbarthiadau yn y gymuned i wella’ch sgiliau, cysylltwch drwy ffonio 01443 816888.