Dysgwr o Ferthyr yn codi i’r uchelfannau gyda thaith i Camp Americ

Disgwylir i ddysgwr uchelgeisiol o Ferthyr Tudful dreulio haf bythgofiadwy yn yr Unol Daleithiau ar ôl gwneud argraff arbennig ar benaethiaid rhaglen enwog Camp America.

Mae Ffion Faith Evans, 19 oed, wedi cipio lle yn y gwersyll Americanaidd enwog ar ôl treulio chwe wythnos lwyddiannus yno’r haf diwethaf.

Bydd y dysgwr Teithio a Thwristiaeth o Goleg y Cymoedd yn mynd yn ôl i UDA ar ddechrau mis Mehefin ar gyfer lleoliad gwaith wyth wythnos.

Mae Camp America yn rhaglen gyfnewid ddiwylliannol sy’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc o bob cwr o’r byd dreulio’u haf yn byw ac yn gweithio mewn gwersyll yn UDA, gan ofalu am drigolion ifanc y gwersyll a’u diddanu.

Fe wnaeth yr ymroddiad a’r brwdfrydedd a ddangosodd y llynedd wrth weithio fel achubwr bywyd ac arweinydd dorm Camp America, cymaint o argraff ar y tîm mae hi wedi cael y cyfle prin i ddychwelyd ar gyfer lleoliad gwaith arall.

Bydd dychwelyd i Camp America yn golygu rhagor o brofiad hedfan i Ffion, sy’n bwriadu teithio’r byd yn gweithio fel criw caban awyr. Heb ofni teithio i ochr arall y byd, neidiodd Ffion ar y cyfle i gymryd rhan yn y daith y tro cyntaf ac ni allai aros i glywed pa waith y byddai’n ei wneud unwaith y byddai yno.

Fel nofwraig gref gyda phrofiad fel hyfforddwr nofio, rhoddwyd swydd achubwr bywyd i Ffion – swydd yr oedd yn ei hoffi. Eglurodd Ffion: Tra’r oeddwn yn y gwersyll roeddwn yn gyfrifol am sicrhau diogelwch pyllau, trefnu a rhedeg gweithgareddau ar y glannau, megis aerobeg dŵr a rhyfelwyr ninja.

“Ar ben hyn, roeddwn yn aros mewn dorm gyda phlant deuddeg oed ac roedd gennyf gyfrifoldeb personol drostynt yn ystod pob cyfnod hamdden, yn ogystal â’r nos, a oedd yn sicr yn brofiad ond yn brofiad pleserus.

“Roedd gweithio yn Camp America yn brofiad anhygoel ac un na fyddaf byth yn ei anghofio. Fe wnes i rai ffrindiau oes pan oeddwn yno ac rwyf wedi dysgu cymaint, o ran sgiliau, ac am fy hun yn gyffredinol. Deuthum yn ôl adref gyda chymaint o hyder, ac ni allaf aros i fynd yn ôl yno eto.”

I Ffion, rhoes yr amser yn Camp America nifer o sgiliau gwerthfawr iddi hi y mae’n bwriadu eu defnyddio yn ei gyrfa yn y dyfodol.

Bydd y sgiliau hynny yn cael eu hychwanegu at y rhai hynny a ddatblygodd Ffion wrth astudio ar gyfer cymhwyster Lefel 3 mewn Teithio a Thwristiaeth gyda Chriw Caban Awyr yng nghampws Ystrad Mynach Coleg y Cymoedd, sy’n paratoi dysgwyr ar gyfer gyrfa yn y diwydiant teithio gyda modiwlau gan gynnwys gwasanaeth i gwsmeriaid, busnes twristiaeth, a sesiynau ymarferol mewn gofal teithwyr ac iechyd a diogelwch. Mae’r cwrs hyd yn oed yn cynnwys taith i Faes Awyr Heathrow i gymryd rhan mewn ymarferion hyfforddi British Airways ar wacáu awyrennau a sesiynau goroesi yn y dŵr.

Ychwanegodd Ffion: “Mae’r profiad wedi fy nysgu nad yw’n bwysig pwy ydych chi, neu o le rydych yn dod o hyd; gall unrhyw un weithio gyda’i gilydd a chreu cyfeillgarwch cryf, hyd yn oed ar ôl ychydig wythnosau gyda’i gilydd. Mae hefyd wedi dangos imi fod amynedd yn rhinwedd bwysig, ac ni waeth pa mor flinedig ydych chi, os oes gennych yr ewyllys gallwch gyflawni’r nod. Rwy’n credu bod hyn oll wedi fy mharatoi ar gyfer rôl criw caban yn y dyfodol. “Cefnogwyd Ffion i gymryd rhan yn y rhaglen gan Goleg y Cymoedd gyda’r coleg yn talu am ei chostau trwy’r rhaglen Hwb.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau