Dysgwr o Goleg y Cymoedd yn ennill yn Rasys Cheltenham

Ar ôl gadael yr ysgol heb lawer o gymwysterau, aeth darlithydd o gampws Rhondda ymlaen i hyfforddi ym maes arlwyo a lletygarwch ac mae ei haddysgu ysbrydoledig a’u brwdfrydedd heintus wedi cael eu cydnabod.

Enwyd Gail Pritchard, 54 oed sy’n hanu o’r Gelli ac yn gweithio ar gampws Rhondda Coleg y Cymoedd yn Ddarlithydd AB/AU y Flwyddyn yn seremoni Gwobrau Dysgu Oedolion, Inspire!” a gynhaliwyd gan NIACE Cymru yn Llandudno.

Erbyn hyn, ar ôl ugain mlynedd, mae’r cylch yn gyfan i Gail.

Cwblhaodd gwrs arlwyo a lletygarwch yng Ngholeg Rhondda nôl yn 1976. Ar ddiwedd y cwrs enwebwyd hi’n Fyfyriwr y Flwyddyn ac aeth ymlaen i weithio mewn gwahanol swyddi ym maes arlwyo a lletygarwch cyn dychwelyd i Goleg y Cymoedd bedair blynedd ar ddeg yn ddiweddarach fel technegydd arlwyo a dod yn diwtor ei hun yn 2002.

Mae Gail nawr yn addysgu dysgwyr gydag ystod eang o anawsterau dysgu a phroblemau ymddygiad a chymdeithasol. Er bod gan lawer ohonyn nhw hanes gwael o ran ymglymiad, ers cychwyn ar gyrsiau Gail, mae graddfa’r dysgwyr o ran presenoldeb, dal ati, prydlondeb a chyflawniad yn gyson agos at 100%.

Mae wedi strwythuro’r cwrs arlwyo a lletygarwch fel bod y dysgwyr yn rhedeg bwyty’r coleg dri diwrnod yr wythnos, a chael eu hannog i gynnig bwydlenni â thema iddyn nhw a digwyddiadau arbennig megis te prynhawn a gweithgareddau codi arian.

Dywedodd Jill James, o Goleg y Cymoedd, a enwebodd Gail ar gyfer y wobr: “Mae Gail yn gweithio gyda brwdfrydedd heintus ac mae ganddi safonau uchel sy’n ysgogi’r dysgwyr a’i chydweithwyr fel ei gilydd. Mae’n esiampl wych i ddysgwyr ac i aelodau newydd o’r staff ac mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau cymaint o ddysgwyr dros y blynyddoedd.”

Fel mae Gail yn egluro, “Wnes i ddim mwynhau fy amser yn yr ysgol a gadewais heb lawer o gymwysterau. Dw i wrth fy modd gyda’r ffaith mod i erbyn hyn yn gallu rhoi profiad dysgu gwell i bobl ifanc Coleg y Cymoedd na’r un gefais i. Mae eu gweld yn tyfu mewn hyder ac yn datblygu sgiliau gwerthfawr bywyd yn rhoi’r boddhad mwyaf i mi a gwneud y swydd yr un fwyaf gwerth chweil yn y byd.”

NIACE Cymru sy’n cynnal Gwobrau Dysgu Oedolion “Inspire!” bob blwyddyn cyn Wythnos Oedolion sy’n Dysgu i ddathlu cyflawniadau nifer fechan o ddysgwyr nodedig yng Nghymru sydd wedi dangos angerdd, ymrwymiad ac ysfa eithriadol dros ddysgu, yn aml yn wyneb amgylchiadau anodd. Trefnir Wythnos Oedolion sy’n Dysgu (Mehefin 14-22) gan NIACE Cymru gyda chymorth Llywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop.

Dywedodd Ken Skates, Y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg:

“Mae gan bob un o’r dysgwyr hyn hanes sy’n eich calonogi. Er gwaethaf y rhwystrau maen nhw wedi eu hwynebu, fe benderfynon nhw newid cwrs eu bywyd drwy ddysgu sgil newydd. Maen nhw nawr yn medi’r hyn roedden nhw wedi’i hau a hoffwn eu llongyfarch ar eu gwaith caled a’u hymroddiad diflino wrth ddilyn gyrfa newydd.

“Yn yr un modd mae’r tiwtoriaid a’r hyfforddwyr hwythau i’w canmol. Maen nhw wedi cynorthwyo’u dysgwyr ac wedi dangos ymrwymiad drwy fynd yr ail filltir i’w helpu i gyrraedd eu potensial llawn.”

Dywedodd Cerys Furlong, Cyfarwyddwraig NIACE Cymru:

“Mae gan bob un o enillwyr “Inspire!” un peth yn gyffredin – maen nhw’n sylweddoli gwir werth addysg. Mae Gail yn ysbrydoliaeth i’w chyd athrawon, ei chyd diwtoriaid ac i’r dysgwyr ac yn llawn haeddu’r wobr. Llongyfarchiadau Gail a’i chyd enillwyr, sy’n ein hatgoffa sut gall addysg oedolion drawsnewid bywydau unigolion.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau