Bu Adam Parker, un o ddysgwyr Coleg y Cymoedd, yn cyd-ddathlu gyda’i deulu, ffrindiau a chyd-ofalwyr mewn noson arbennig pan dderbyniodd wobr ‘Gwella mewn Addysg’. Cynhaliwyd yr achlysur Gofalwyr Ifanc, wedi ei drefnu gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, yng Nghlwb Bowlio Aberpennar i gydnabod y cyfraniad wneir gan ofalwyr ifanc sy’n gofalu am deuloedd a chyfeillion.
Mae Adam, 17 oed o Benrhiw-ceibr, yn mynychu Campws Aberdâr ac yn gwneud cwrs Astudiaethau Galwedigaethol, sy’n cynnwys TG, coginio a sgiliau sylfaenol. Mae’n plethu ei astudio â’i rôl allweddol o ofalu am ei dad, sydd hefyd yn cynnwys gofal dros nos.
Mae gofalwyr ifanc yn chwarae rôl bwysig iawn i’w teuluoedd, ac yn sgil hynny daw pwysau ar eu haddysg, lles, iechyd a bywyd cymdeithasol. Mae’n bwysig fod y gofalwyr yn cael y gefnogaeth orau posibl ac yn cael eu hangenion eu hunain wedi ei diwallu. Yn 2015 y cychwynnodd Adam ymweud â phrosiect y Gofalwyr Ifanc ac ers hynny dydy e ddim wedi edrych yn ôl.
Mae wedi gwneud nifer dda o gyfeillion newydd ers ymuno â’r prosiect ac wedi cael profiadau megis taith ar gwch cyflym rownd Bae Caerdydd a thaith llawn gweithgaredd i Lundain.
Wrth drafod gwobr Adam, meddai Swyddog Lles Coleg y Cymoedd, Laura Wilson, oedd yn bresennol yn yr achlysur: “Roeddwn i’n hynod falch o gael bod yn rhan o’r noson, i gyflwyno’r wobr i Adam. Mae’n bwysig i ni gydnabod y gwaith pwysig mae gofalwyr ifanc fel Adam yn ei wneud drwy eu rôl hanfodol ym mywyd eu teuluoedd, gan oresgyn sialensiau dyddiol. Ers iddo fod yn rhan o’r prosiect, rydw i wedi gweld Adam yn aeddfedu i fod yn llanc ifanc hyderus. Byddwn yn cydweithio’n agos â’r gofalwyr ifanc yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.
Meddai Adam: “Mae’r prosiect Gofalwyr Ifanc wedi bod yn un gwych. Rydw i wedi gwneud cymaint o ffrindiau newydd, wedi ymweld â nifer o fannau newydd a rhoi cynnig ar nifer o weithgareddau newydd. Un o’r prif fanteision ydy’r gefnogaeth a’r arweiniad anferth rydw i ei gael drwy’r rhaglenni addysgiadol sy’n cael eu darparu gan y Gofalwyr Ifanc; mae hyn wedi fy helpu gyda’m astudiaethau presennol ac wedi rhoi hyder i mi ymuno â chwrs TG yn y coleg gan gychwyn ym mis Medi.”
“