Mae dysgwraig o Goleg y Cymoedd yn wynebu eu her sgiliau anoddaf hyd yma’r wythnos hon, pan fydd yn cystadlu yn erbyn dysgwr Patisserie a Melysion arall i geisio ennill lle yn cynrychioli’r DU yn WorldSkills Kazan 2019 yr haf hwn.
Fe’i gelwir yn ‘Gemau Olympaidd Sgiliau’, mae Cystadleuaeth WorldSkills yn gweld prentisiaid a dysgwyr gorau’r byd yn brwydro i ennill Aur, Arian ac Efydd yn eu sgiliau dewisol. Mae’r Deyrnas Unedig ar hyn o bryd yn negfed safle WorldSkills yn dilyn ei llwyddiant yn y Gystadleuaeth WorldSkills diwethaf yn Abu Dhabi yn 2017.Gwahoddwyd Alys Cadi i gystadlu am le yn ‘Team UK’ ar gyfer WorldSkills Kazan 2019 ar ôl rhagori yng Nghystadlaethau Cenedlaethol WorldSkills UK. Bydd yn cystadlu rhwng 4 a 7 Mawrth yng Ngholeg Dinas Glasgow. Cyhoeddir ‘Team UK’ ar gyfer WorldSkills Kazan 2019 ar 11 Mawrth.
Dywedodd Karen Phillips, Pennaeth, Coleg y Cymoedd Mae Alys bob amser wedi bod yn ddysgwr ysbrydoledig ac mae ei thiwtoriaid a’i chyd-ddysgwyr yn llawn edmygedd o’i sgiliau anhygoel mewn patisserie a melysion. Yn ogystal â rhagori yn ei hastudiaethau ac mewn cystadlaethau, mae Alys hefyd wedi cymryd rhan yn y cynllun entrepreneuriaeth yn y coleg i sefydlu busnes. Rydym yn falch iawn o’i llwyddiannau hyd yn hyn ac yn dymuno pob llwyddiant iddi yn y gystadleuaeth sydd i ddodâ€.
Wrth sôn am ei llwyddiant hyd yma a’r her o’i blaen dywedodd Alys: “Byddaf yn ddiolchgar am byth am y gefnogaeth, yr anogaeth a’r cyfleoedd a gefais yn ystod fy 2 flynedd yng Ngholeg y Cymoeddâ€.
Mae WorldSkills UK yn gyfrifol am ddewis, datblygu a hyfforddi’r tîm ar gyfer y Gystadleuaeth WorldSkills. Mae Wordskills UK yn bartneriaeth rhwng busnes, addysg a llywodraethau ac yn cynnal cystadlaethau sgiliau ar gyfer miloedd o bobl ifanc bob blwyddyn mewn meysydd sgiliau economaidd allweddol, gan hybu sgiliau technegol, sgiliau meddwl a sgiliau cyflogadwyedd pobl ifanc.
Dywedodd Dr Neil Bentley-Gockmann OBE, Prif Weithredwr WorldSkills UK: “Rwy’n dymuno pob lwc i Alys wrth iddi gystadlu am le yn y tîm i gynrychioli’r DU yn WorldSkills Kazan 2019.
“Trwy fynd i Gystadleuaeth WorldSkills, gallwn drosglwyddo’r profiadau a enillir o gystadlu yn erbyn gwledydd eraill i’r economi ehangach, gan godi safonau hyfforddiant yn y DU i lefelau o’r radd flaenaf, gan roi hwb i gynhyrchiant.
“Ydy Alys wedi’ch ysbrydoli? Mae WorldSkills UK yn chwilio am brentisiaid a dysgwyr i gymryd rhan yn WorldSkills Shanghai 2021. Cofrestrwch yn worldskillsuk.org erbyn 5 Ebrill i weld pa mor bell y gall eich sgiliau fynd â chi.
“