Mae Martin Room, sy’n 58 oed ac yn dod o Gaerffili, yn hyrwyddo manteision astudio, beth bynnag fo’ch oed. Pan oedd yn 16 oed, gadawodd Martin Ysgol Gyfun Bedwas a mynychu’r Coleg yn Ystrad Mynach, lle enillodd gymhwyster City & Guilds mewn Gosod Brics.
Fodd bynnag, oherwydd dirywiad y diwydiant adeiladu, symudodd o swydd i swydd i gefnogi ei deulu, ond roedd bob amser yn awyddus i chwilio am gyfleoedd i ddatblygu ei yrfa yn y rôl.
Yn y pen draw, sicrhaodd swydd yn Pullman Rail lle bu’n gweithio fel Ffitiwr Lled-grefftus am 7 mlynedd. Gan ei fod yn awyddus i symud ymlaen yn y sefydliad roedd yn ffodus pan gododd y cyfle i ymgeisio am y cwrs NVQ Lefel 3. Pasiodd yr arholiad a chofrestru ar NVQ Lefel 3 mewn Peirianneg Rheilffordd, Tyniant Trên a Stoc Rholio.
Wrth siarad am y cwrs dywedodd Martin, “Roedd astudio drwy’r pandemig yn peri ei heriau ei hun oherwydd y cyfyngiadau symud ond byddwn yn bendant yn argymell Coleg y Cymoedd – er gwaethaf yr anawsterau. Roedd y tiwtor bob amser ar gael i gynnig cefnogaeth drwy amrywiol sianeli. Rwyf bellach wedi cwblhau’r cwrs ac wedi derbyn fy nhystysgrif NVQ Lefel 3.
Ers cwblhau’r cymhwyster, rwyf wedi derbyn dyrchafiad i Ffitiwr Crefftus ynghyd â chodiad cyflog, felly rwyf eisoes yn gweld budd astudio. Nid ydych chi byth yn rhy hen i astudio – mae bywyd yn ymwneud â phrofiadau dysgu. Mae’r un hwn wedi rhoi ymdeimlad enfawr o gyflawniad a hyder imi o ystyried yr amgylchiadau a fy oedran, sef cwblhau’r cwrs yng nghanol pandemig byd-eang. Mae’n dangos yn syml nad ydych chi byth yn rhy hen i ddysgu ac mae eich sgiliau profiad bywyd yn helpu.
Dywedodd Stephen Manning, Asesydd NVQ Dysgu Seiliedig ar Waith (Hedfanaeth/Peirianneg) yng Ngholeg y Cymoedd “Mae hi wedi bod yn bleser cefnogi Martin drwy ei gymhwyster. Mae hi wedi bod yn gyfnod anodd astudio drwy’r cyfnod clo; mae Martin wedi gweithio mor galed. Mae Martin wir yn ysbrydoliaeth i’w gydweithwyr yn Pullmans, yn cynnig cefnogaeth ymarferol a chymhelliant i gwblhau’r cwrs”.
Ychwanegodd Scott McCarthy, Rheolwr Hyfforddiant yn Pullman Rail “Yn Pullman Rail rydym wedi ymrwymo i ddarparu rhaglen hyfforddi o’r radd flaenaf i’n staff. Mae’r Rhaglen Addysg Oedolion wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Gan weithio mewn partneriaeth â Choleg y Cymoedd am dros wyth mlynedd, rydym wedi gweld deg o weithwyr yn cwblhau’r cwrs gyda deunaw arall yn cofrestru ar y cwrs y mis hwn. Mae Martin yn enghraifft wych o fanteision y rhaglen. Mae ei ardystiad o’r rhaglen wedi rhoi hyder a chymhelliant i’w gydweithwyr gwblhau’r cwrs”.