Dysgwr Therapi Harddwch yn achub y blaen gyda hyfforddiant diwydiant

Y dysgwr Therapi Harddwch, Bethan Cutler, yw’r cyntaf yng Ngholeg y Cymoedd i ennill gwobr genedlaethol gan un o gewri’r byd colur, Dermalogica.

Mae Gwobr Aspire Dermalogica, a lansiwyd ym mis Hydref, yn gwobrwyo dysgwyr sydd wedi ymrwymo i fynychu cyfres o weithdai sy’n berthnasol i’r diwydiant ac sy’n canolbwyntio ar sgiliau. Cynlluniwyd pob gweithdy gan arbenigwyr gofal croen i gadw gweithwyr proffesiynol ar flaen y gad  yn niwydiant cyfnewidiol therapi harddwch.

Fel partner Dermalogica, mae Coleg y Cymoedd yn sicrhau bod ganddo fynediad at yr hyfforddiant diweddaraf er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer gwaith yn y diwydiant. Dim ond i ddysgwyr sydd â gwybodaeth gref eisoes mewn therapi harddwch ac sydd wedi cwblhau’r cwrs Therapi Harddwch Lefel 2 y cynigir y Wobr Aspire.

Rhaid i ddysgwyr gwblhau pedwar gweithdy Rhaglen Bartneriaeth 60 munud, sy’n ymdrin â phynciau allweddol fel Therapi Cyffwrdd Gwasgbwyntiau a Mapio’r Wyneb. Cyflwynir y gweithdai gan arbenigwyr ac addysgwyr gofal croen profiadol drwy blatfform dysgu ar-lein Dermalogica ac mae dysgwyr yn cael trosolwg gwerthfawr o’r diwydiant, yn ogystal â phrotocolau Iechyd a Diogelwch hanfodol, dadansoddi croen effeithiol, technegau rhoi colur a gofal priodol cyn ac ar ôl triniaethau.

Bethan Cutler, sydd ar hyn o bryd yn astudio Cwrs Therapi Harddwch Lefel 3, oedd y cyntaf yn ei charfan i gwblhau’r gweithdai ac ennill Gwobr Aspire.

Ar ôl ennill y Wobr, dywedodd Bethan: “Mae ennill y Wobr Aspire wedi bod mor fuddiol i’m dysgu. Fe wnes i fwynhau adeiladu ar fy ngwybodaeth am gynnyrch, technegau adwerthu, a deall pynciau nad ydynt yn cael eu dysgu’n fanwl iawn ar y cwrs.“

Fel brand blaenllaw ym maes gofal croen proffesiynol, mae cwblhau gweithdai Dermalogica wedi fy rhoi un cam ar y blaen yn fy ngyrfa, ac rwy’n awyddus i gyflawni gweddill y tystysgrifau yn y Rhaglen Bartneriaeth.”

Ar ôl derbyn y wobr, gall dysgwyr symud ymlaen a chwblhau hyfforddiant Cyflogadwyedd uwch a derbyn tystysgrif Barod i Weithio. Mae cwblhau’r hyfforddiant hwn yn sicrhau bod dysgwyr yn gwella eu rhagolygon cyflogadwyedd wrth fagu hyder, meithrin sgiliau hanfodol therapi croen, a chryfhau gwybodaeth am adwerthu.

Mae lansiad gweithdai ar-lein newydd Dermalogica yn cyd-fynd â galw diweddar am ddysgu digidol. Wrth i’r diwydiant therapi harddwch wynebu heriau newydd wrth ddarparu gwasanaethau cleientiaid o bell yn unol â mesurau pellhau cymdeithasol Covid-19, nod y platfform dysgu ar-lein yw goresgyn y rhwystrau hyn.

Dywedodd Nicola Davies, darlithydd y cwrs Therapi Harddwch: “Mae’r gweithdai Dermalogica wedi bod yn ffordd wych i ddysgwyr atgyfnerthu eu dysgu ochr yn ochr â’r cwricwlwm. Gyda’r anhawster wrth gynnal gwasanaethau cleientiaid wyneb i wyneb yn ddiweddar, mae dysgwyr yn derbyn yr hyfforddiant diweddaraf ar ddulliau therapi harddwch newydd nad oeddent yn arferol o’r blaen, megis mewn gwasanaethau croen rhithwir.“

Mae ennill y Wobr Aspire yn cynnig ffordd i ddysgwyr ymroddedig fel Bethan ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth am y diwydiant o bell, ac mae’n rhoi mantais gystadleuol iddynt o ran cyflogaeth yn y dyfodol.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau