Mae dysgwr Trin Gwallt Lefel 1, Debbie Walters, wedi ymuno â thîm o Asiantau Entrepreneuriaeth Ieuenctid Syniadau Mawr Cymru er mwy bod yn llefarydd ar ran y rhai sy’n breuddwydio am fod yn fos arnyn nhw eu hunain.
Mae Syniadau Mawr Cymru yn awyddus i recriwtio tîm gwirfoddol o Asiantau Entrepreneuriaeth Ieuenctid i gynrychioli ‘llais ieuenctid entrepreneuriaeth yng Nghymru’. Dyna nod a rennir gan Dîm Dyfodol@Cymoedd Coleg y Cymoedd, sy’n cynnal yr Hwb Menter a Chyflogadwyedd; ‘siop un stop’ ar gyfer mentora, arweiniad, hyfforddiant, a rhwydwaith mewnol i ddysgwyr ar draws y pedwar campws.
Er nad oedd hi eisoes wedi ystyried cychwyn ei busnes ei hun, ar ôl dysgu am y rhaglen ymgeisodd Debbie am le arni a gofynnwyd iddi fod yn Asiant Entrepreneuriaeth Ieuenctid. Bwrodd ati’n syth a dechreuodd gymryd rhan mewn trafodaethau grŵp yn casglu barn darpar entrepreneuriaid ifanc ledled Cymru.
Meddai Debbie: “Fe wnes i gais i fod yn Asiant Entrepreneuriaeth Ieuenctid oherwydd roeddwn i am wneud rhywbeth newydd a oedd yn wahanol i fy nghwrs Trin Gwallt. Ar ôl dysgu am y rôl ar yr Hwb Menter a Chyflogadwyedd, roedd yn swnio fel cyfle gwych i wthio fy hun a magu hyder.
“Roedd Lesley o Dîm y Dyfodol yn fwy na pharod i fy nghefnogi yn fy nghais ac fe wnaeth hi fy annog drwy gydol y broses er gwaethaf fy nerfau.â€
Fel Asiant Entrepreneuriaeth Ieuenctid, mae cyfranogwyr fel Debbie yn elwa o gael profiad gwaith gwerthfawr, ymuno â rhwydwaith o unigolion o’r un anian ledled Cymru, a chael mynediad at ddosbarthiadau meistr unigryw gydag arbenigwyr ac entrepreneuriaid blaenllaw. Drwy gyfres o drafodaethau, mae cyfranogwyr 16 – 25 oed ledled Cymru yn cyfrannu at lywio penderfyniadau ar gyfer dyfodol entrepreneuriaeth ieuenctid.
Ychwanegodd Debbie: “Fe wnaeth y trafodaethau fy ngalluogi i rannu fy marn gyda phobl newydd, darganfod modelau rôl entrepreneuriaeth ieuenctid, a chwrdd â gwesteion arbennig sy’n gwneud pethau anhygoel yn eu diwydiant.
“Roeddwn i’n teimlo’n nerfus iawn ar y dechrau. Doeddwn i erioed ymgymryd â rôl fel hon o’r blaen, ond gadewais i’r cyfarfod cyntaf yn llawn cyffro ac yn barod am fwy. Roedd yn deimlad gwych gallu bod yn rhan o dîm o bobl sy’n gweithio i helpu pobl ifanc i gyflawni eu breuddwydion. Ers hynny, rydw i wedi ystyried cychwyn fy musnes fy hun yn y dyfodol, sy’n rhywbeth nad oeddwn i erioed wedi ei ystyried o’r blaen.
Mae gwasanaeth entrepreneuriaeth ieuenctid Syniadau Mawr Cymru yn rhan o Busnes Cymru ac fe’i hariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Mae’r gwasanaeth wedi’i anelu at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sydd am ddatblygu syniad busnes. O fŵtcamps i weithdai, mae pobl ifanc sy’n ystyried entrepreneuriaeth yn cael cyngor ac adnoddau gwerthfawr ar sut i roi hwb i’w busnes eu hunain.
Gan weithio’n agos gyda Syniadau Mawr Cymru, mae Tîm Dyfodol@Cymoedd Coleg y Cymoedd yn sicrhau bod gan ddysgwyr sy’n ystyried hunangyflogaeth fynediad at adnoddau i gryfhau eu nodau busnes. Mae’r Tîm Dyfodol@Cymoedd hefyd yn gweithio i gynnig cyfleoedd i ddysgwyr sydd am archwilio opsiynau gyrfa a datblygu eu dyheadau busnes a phersonol.
Dywedodd Rheolwr Menter, Sgiliau a Chyflogadwyedd Coleg y Cymoedd, Lesley Cottrell: “Fy nod fy hun a nod tîm Dyfodol@Cymoedd yw cynnig y gefnogaeth sydd ei hangen ar ddysgwyr ar draws y coleg i ddatblygu eu sgiliau personol a’u hyder. Drwy gyfleoedd fel menter wirfoddol Asiantau Entrepreneuriaeth Ieuenctid Syniadau Mawr Cymru, mae dysgwyr fel Debbie yn gallu elwa o brofiadau newydd a all roi hwb i’w datblygiad personol a gyrfaol.
“Rydw i mor falch o Debbie am fentro gwneud cais fel Asiant Entrepreneuriaeth Ieuenctid a gwthio ei hun i fod yn rhan o gyfle mor gyffrous. Byddwn ni’n parhau i’w chefnogi yn ei gyrfa a’i thaith bersonol, ac rydym ni’n edrych ymlaen at ei gweld yn magu hyder hyd yn oed ymhellach.â€
“
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR