Dysgwr y coleg i gefnogi goroeswyr cam-drin domestig gyda gwasanaethau paentio ac addurno

Ysbrydolwyd goroeswr cam-drin domestig gan ei phrofiadau i sefydlu ei busnes paentio ac addurno ei hun i helpu i gefnogi pobl eraill sydd wedi cael eu cam-drin.

Ar ôl cael ei cham-drin am flynyddoedd gan gynbartner, mae Carrie Seymour, sydd yn 37 oed ac yn dod o Gaerffili, bellach yn teimlo’n anghyfforddus yn cael dynion yn gweithio yn ei chartref – rhywbeth a oedd yn anodd wrth iddi adnewyddu ei thÅ·. Mae ei phrofiad wedi ei hysgogi i gefnogi menywod eraill sy’n wynebu sefyllfaoedd tebyg drwy gynnig gwasanaethau fel peintiwr ac addurnwr benywaidd.

Mae’r fam i bump wedi penderfynu dychwelyd i addysg, gan ymuno â Choleg y Cymoedd i ailhyfforddi yn y maes gyda chymhwyster paentio ac addurno ar gampws Ystrad Mynach.

Deilliodd diddordeb Carrie yn y diwydiant ar ôl blynyddoedd o ymgymryd â phrosiectau adnewyddu fel hobi wrth fagu ei phlant. Fodd bynnag, roedd ei phrofiad o drais domestig, yn dolc enfawr i hyder Carrie, ac roedd hi’n wynebu nifer o anawsterau gyda’i lles meddyliol, corfforol ac emosiynol, a oedd yn ei hatal rhag mynd â’i diddordeb ymhellach.

Meddai Carrie: “Roeddwn i wedi mwynhau gwneud prosiectau paentio ac addurno erioed fel adnewyddu ystafelloedd gwely fy mhlant neu helpu ffrindiau i godi papur wal newydd. Byddai gweld y gwaith gorffenedig yn gwneud imi deimlo’n falch iawn ac roeddwn i’n gwybod ei fod yn rhywbeth roeddwn i am ei ddilyn ymhellach fel gyrfa.

“Fodd bynnag, ar ôl fy mhrofiad gyda thrais domestig, effeithiwyd ar fy hyder. Roedd gen i lawer o hunanamheuaeth ac roeddwn i’n teimlo gormod o ofn i fynd ar ôl fy nodau ac uchelgeisiau personol.

Ym mis Rhagfyr 2017, yn dilyn cyfnod hir o drais gan ei chynbartner, ceisiodd Carrie gefnogaeth gan Llamau, elusen sy’n ymroddedig i helpu pobl ifanc a menywod agored i niwed sy’n wynebu digartrefedd. Gyda lle i aros a phobl i siarad â nhw, llwyddodd Carrie i ddechrau’r broses o ailadeiladu ei bywyd ymhell o’i chamdriniwr a magu ei phlant yn fam sengl.

Bedair blynedd yn ddiweddarach ac mae Carrie wedi adennill ei hyder a’r penderfyniad i ganolbwyntio arni hi ei hun a’i gyrfa. I ddechrau, ymgeisiodd am rôl cynorthwyydd dysgu, ond newidiodd ei meddwl yn gyflym a phenderfynodd ddilyn ei huchelgais gydol oes o greu gyrfa mewn paentio ac addurno.

Ychwanegodd: “Er fy mod i wedi dod yn bell ers gadael fy nghyn-bartner ychydig flynyddoedd yn ôl, rydw i’n dal i deimlo’n anghyffyrddus o gael dynion yn gweithio o amgylch y cartref. Gwnaeth hyn imi sylweddoli bod menywod eraill a fyddai wedi bod neu sydd yn yr un sefyllfa ag yr oeddwn i. Rydw i am ddefnyddio fy sgiliau fel peintiwr ac addurnwr benywaidd i helpu i wneud i’r unigolion hyn deimlo’n fwy cartrefol. “

Gyda’r genhadaeth hon mewn golwg, mae Carrie yn gobeithio cefnogi goroeswyr trais domestig drwy sefydlu ei busnes paentio ac addurno ei hun yn y dyfodol agos ar ôl cwblhau ei chymwysterau yn llwyddiannus. Disgwylir iddi orffen ei chwrs Lefel 1 Peintio ac Addurno Sylfaen yr haf hwn a dechrau ei chymhwyster Lefel 2 yn ddiweddarach eleni.

Dywedodd David Williams, Darlithydd Adeiladwaith a thiwtor Carrie yng Ngholeg y Cymoedd: “Mae’r ffaith i Carrie droi sefyllfa mor negyddol yn un gadarnhaol iddi hi ei hun ac i bobl eraill yn anhygoel ac fel ei thiwtor, rydw i’n falch iawn.

“Mae’r coleg a minnau wedi ymrwymo i wneud popeth yn ein gallu i gefnogi Carrie gyda’i huchelgeisiau ac i sicrhau ei bod yn llwyddo yn ei menter yn y dyfodol fel peintiwr ac addurnwr. Mae ei phenderfyniad i helpu menywod eraill drwy drais domestig yn wirioneddol ysbrydoledig, ac rydym yn edrych ymlaen at weld llwyddiant Carrie. ”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau