Dysgwr y Coleg yn creu llyn bywyd gwyllt ar gyfer y gymuned

Mae ardal o goetir sy’n cynnig hafan i fywyd gwyllt brodorol Cymru wedi cael ei wella ar gyfer y gymuned leol, diolch i grŵp o ddysgwyr a ymunodd ag ymgyrchwyr lleol i amddiffyn yr ecosystem a chreu cynefin naturiol ffyniannus.

Bu cynlluniau i adeiladu tai ar safle Coetiroedd a Chomin TÅ· Nant, sydd wedi’i ddynodi’n SBCN Safle o Bwysigrwydd ar gyfer Cadwraeth Natur, ond mae ymgyrch gan drigolion lleol wedi rhwystro caniatâd cynllunio hyd yma. Yn y cyfamser, mae gwirfoddolwyr lleol wedi dechrau glanhau’r safle a gwella ei fioamrywiaeth.

Ar ôl clywed am y gweithgarwch hwn, ymunodd dysgwyr yng Ngholeg y Cymoedd â gwirfoddolwyr lleol, Julie Barton a Carys Romney, i adfer y tir a datblygu pwll bywyd gwyllt cymunedol ar y safle. Eu nod oedd creu man harddwch naturiol llewyrchus i dynnu sylw at bwysigrwydd y coetir i’r ardal a rhwystro datblygiad yn y dyfodol.

Mae’r pwll, a gwblhawyd ar ddechrau mis Mawrth ac sy’n llawn bywyd gwyllt, wedi bod yn llwyddiant ysgubol gyda phobl leol ac mae wedi yn adnodd awyr agored amhrisiadwy i bobl yr ardal yn ystod y cyfnod clo. Mae llawer o bobl wedi darganfod yr ardal am y tro cyntaf tra ac mae rhai eraill wedi dychwelyd i’r safle am y tro cyntaf ers blynyddoedd.

Gwrthwynebwyd y cynlluniau gwreiddiol (a gyflwynwyd gan adeiladwyr tai i greu 125 eiddo yn y coetiroedd) yn chwyrn gan drigolion lleol, gan gynnwys yr ymgyrchwyr Julie a Carys. Dadleuodd gwrthwynebwyr fod y tir yn hafan i amrywiaeth o rywogaethau anifeiliaid a phlanhigion sy’n frodorol i Gymru ac yn ardal boblogaidd o lesni.

Er mwyn profi gwerth y coetir i’r gymuned leol, aeth Julie a Carys ati i adnewyddu’r tir, a oedd wedi gordyfu ac wedi’i esgeuluso, er mwyn dangos ei harddwch a thynnu sylw at y bywyd gwyllt ffyniannus y mae’n gartref iddo.

Meddai Julie: “Ar ôl byw ger Coetiroedd TÅ· Nant ers dros 20 mlynedd, rwy’n angerddol am y natur a’r bywyd gwyllt sydd gennym yma ar garreg ein drws. Mae llawer o harddwch digyffwrdd yno ac mae’r coetiroedd yn gartref i nifer o rywogaethau prin o blanhigion ac anifeiliaid sydd angen eu gwarchod.

“Yn y gorffennol, bu Carys a minnau’n gweithio ar brosiectau casglu sbwriel yn yr ardal hon ac roeddem yn gwybod na allai’r gymuned ddychmygu colli’r ardal i dai. Roeddem am greu gofod y byddai pobl yn ei werthfawrogi ac roedd yn wych cael y myfyrwyr Coleg y Cymoedd yn rhan o’r gwaith. Maent wedi gwneud gwaith anhygoel.

“Bellach mae gennym fan naturiol hardd, glân i bobl leol ei fwynhau. Mae llawer o deuluoedd wedi dod i ymweld â’r pwll cymunedol yn ystod y cyfnod clo ac mae’r pwll yn adnodd addysgol pwysig i ysgolion a grwpiau cymunedol eraill gael addysgu pobl ifanc am yr amgylchedd a chylchoedd bywyd anifeiliaid fel penbyliaid.

“Rwy’n credu’n bendant y bydd barn gyhoeddus yn gryfach fyth yn erbyn unrhyw gynigion datblygu yn y dyfodol.”

Daeth y cydweithio â Choleg y Cymoedd ar ôl i Val Smith, tiwtor yn y coleg, gwrdd â Julie a Carys Romney wrth gerdded drwy’r coetir. Wrth glywed am eu cynlluniau i adfer y tir, awgrymodd y dylai dysgwyr ar ei chwrs gymryd rhan a helpu i gefnogi ymdrechion fel rhan o’u Gwobr Dug Caeredin.

Bu dysgwyr sy’n astudio ar y cyrsiau Mynediad Galwedigaethol i Chwaraeon a Gwasanaeth Cyhoeddus yn helpu ar y safle yn wythnosol am dros chwe mis ac roeddent yn gyfrifol am glirio llwybrau a choetir, plannu glasbrennau, codi sbwriel a helpu gyda chynnal a chadw cyffredinol yr ardal. Rhan allweddol o’u rôl oedd creu pwll bywyd gwyllt newydd sbon i achub bywydau cannoedd o benbyliaid a brogaod a oedd yn marw oherwydd bod y tri phwll llai yn yr ardal yn sychu yn y tywydd cynnes.

Daw dysgwyr ar y cwrs lefel mynediad o amrywiaeth o gefndiroedd heriol gyda llawer ohonynt yn gorfod delio â chyflyrau meddygol fel yr Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD). Fodd bynnag, mae Valerie wedi gweld bod dysgwyr wedi ffynnu wrth weithio yn yr awyr agored.

Dywedodd Valerie: “Pan glywais am waith Julie a Carys’, roeddwn yn gwybod y gallai dysgwyr ar fy nghyrsiau wneud cyfraniad gwerthfawr at yr achos pwysig hwn. Mae’n rhaid iddynt gymryd rhan mewn gweithgaredd awyr agored fel rhan o’u cymwysterau Dug Caeredin ac roeddwn i’n meddwl y byddai hwn yn ffordd berffaith o wneud hyn wrth wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r gymuned leol. Mae ein dysgwyr wedi mwynhau eu profiad yn fawr ac yn falch o fod yn rhan o rywbeth fel hyn.

“Mae’r fenter hon hefyd wedi tynnu fy sylw at bwysigrwydd dysgu awyr agored. Yn nodweddiadol mae gan lawer o fy nysgwyr fwy o rwystrau i addysg na’r mwyafrif ac maent yn tueddu i fod â diffyg diddordeb mewn lleoliadau addysgol traddodiadol. Ac eto, yn ystod y prosiect hwn, maent wedi cael eu trawsnewid ac mae wedi bod yn anhygoel eu gweld yn ffynnu. ”

Yn dilyn llwyddiant y cynllun, mae Coleg y Cymoedd yn gobeithio parhau i weithio ar goetiroedd a chomin TÅ· Nant â dysgwyr y dyfodol. Hefyd, mae’r coleg mewn trafodaethau gyda Julie, Carys a chyngor Rhondda Cynon Taf i ddechrau gweithio ar brosiect tebyg ar raddfa fwy yn nhommeni glo Cwm.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau