Bydd staff a dysgwyr yng Ngholeg y Cymoedd y tu ôl i un o’u dysgwyr gant y cant pan fydd yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Para-athletau Iau’r Byd y mis nesaf.
Bydd y dysgwr John Bridge, sy’n 19 oed ac o Gaerffili, yn ennill cap rhyngwladol pan fydd yn cystadlu yn y digwyddiad T47 400m i ddynion dan 20 oed. Mae John yn un o 15 o athletwyr a ddewiswyd i gystadlu dros Brydain yn y Pencampwriaethau yn Nottwil yn y Swistir ar 1-4 Awst 2019.
Y digwyddiad yw’r ail Bencampwriaeth Para-athletau Iau ac mae’n gam pwysig yn y llwybr perfformio Paralympaidd, a fydd yn ei helpu i baratoi ar gyfer digwyddiadau pwysig yn y dyfodol.
Mae John yn cystadlu’n rheolaidd mewn cystadlaethau dan do ac yn yr awyr agored ar gyfer ei Glwb sef AAC Caerdydd, ac mae’n hen gyfarwydd â chystadlaethau rhyngwladol, ar ôl cystadlu yn yr Eidal, yr Iseldiroedd a’r Almaen eleni.
Dywedodd David Howells, Tiwtor Cwrs, “Rydym i gyd yn dymuno pob llwyddiant i John yn y Pencampwriaethau’r mis nesaf. Mae ei ymrwymiad i athletau a jyglo ei waith coleg wedi bod yn rhagorol. Cofrestrodd John ar y cwrs Cyfrifiadura Lefel 2 yng Ngholeg y Cymoedd, cyn symud ymlaen i’r cwrs Gyfrifiadura Lefel 3 y mae newydd ei gwblhau – gan ennill 100% graddau yn rhagoriaeth bennaf – mae’n ddyn arbennig! â€