Dysgwr y Cymoedd yn adeiladu llwybr gyrfa llwyddiannus

Pan gofrestrodd y Prentis Andrew Hardy yng Ngholeg y Cymoedd ar raglen seiliedig ar waith mewn gwaith saer ni allai fod wedi dychmygu’r siwrnai ddysgu lwyddiannus oedd o’i flaen.

Astudiodd Andrew o Bontypridd ar gampws Ystrad Mynach dan oruchwyliaeth y Tiwtoriaid Cwrs Mansell Powell a Rhys Schofield.

Wedi’i gyflogi fel prentis gyda Willis Construction, dangosodd Andrew allu eithriadol i gyflawni Diploma Lefelau 1, 2 a 3 mewn Gwaith Saer ac Asiedydd ar Safle; enillodd gymhwyster Plymio hefyd, a astudiodd gyda’r nos. Enillodd Andrew farciau rhagorol mewn profion ymarferol a phrofion theori gan ymdopi â llwyth gwaith prysur iawn yn y coleg a’r tu allan i’r coleg.

Dywedodd Mansell Powell, Tiwtor y Cwrs “Roedd Andrew bob amser yn cyflawni safon uchel o waith ymarferol – gan weithio’n dda fel unigolyn ac mewn grŵp. Roedd Andrew bob amser yn awyddus i fynd i’r afael â thasgau anodd i wella ei sgiliau ac roedd bob amser yn annog dysgwyr eraill ar y cwrs gyda’i agwedd gadarnhaol. Mae eisoes wedi ennill teitl mawreddog Prentis y Flwyddyn NFB ac rwy’n siŵr bod ganddo yrfa lwyddiannus iawn o’i flaen.

Wrth sôn am ei amser yng Ngholeg y Cymoedd dywedodd Andrew “Rwyf wedi mwynhau fy amser yn astudio ar gampws Ystrad Mynach yn fawr o dan fentoriaeth fy nhiwtoriaid. Rwyf wedi dysgu llawer yn y coleg ac ar y safle gyda Willis Construction. Byddwn yn bendant yn argymell y cwrs hwn i unrhyw un sy’n dymuno ymuno â’r diwydiant ”.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau