Dysgwr y Cymoedd yn Bencampwr Byd

Mae dysgwr o Goleg y Cymoedd Garin Davies yn sicr brawf fod gwaith caled yn talu ffordd. Mae Garin, sy’n ddeunaw oed ac yn dod o Abertridwr ger Caerffili, yn astudio Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC mewn Chwaraeon yng nghampws Ystrad Mynach ac mae’n ymwneud ag Academi Rygbi’r Gynghrair.

Y tu allan i’w astudiaethau mae Garin yn hyfforddwr yn ei Glwb Cic-focsio lleol, ac mae wedi bod yn aelod ohono ers iddo fod yn 15 mlwydd oed. Mae eisoes wedi ennill nifer o deitlau, gan gynnwys ei gystadleuaeth ddiweddaraf – Pencampwriaethau Cic-focsio’r Byd ar gyfer y rheiny dros 18 oed (60-65kg) a gynhaliwyd yng Nghaerwrangon. Mae Garin hefyd wedi cael ei gydnabod ac wedi derbyn nifer o wobrau Gwirfoddoli Cymunedol am ei waith yn y clwb, ar hyn o bryd mae’n gweithio ar Apêl Blychau Esgidiau ar gyfer y digartref.

Wrth drafod ei lwyddiant, dywedodd Garin Rwy’n falch iawn fy mod wedi cael fy newis i gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Cic-focsio’r Byd ac roeddwn wrth fy modd yn ennill fy nghategori. Rwy’n ddiolchgar i’m noddwyr Dragon Print a Dragon Security ac i staff Coleg y Cymoedd, yn enwedig fy nhiwtoriaid Mark Jones a Geraint Kettley. Mae’r coleg wedi fy helpu sicrhau bod fy nghorff yn y cyflwr gorau posibl trwy gydol fy nghyswllt ag Academi Rygbi’r Gynghrair. Ers ymuno â Choleg y Cymoedd mae fy hunanhyder wedi gwella’n sylweddol, sy’n fy helpu i baratoi ar gyfer lefel y cystadlaethau rwyf bellach yn eu mynychu “.

Dywedodd Geraint Kettley, Tiwtor Chwaraeon  a Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru Rygbi’r Gynghrair: “Mae gan Garin foeseg waith gwych ac mae wedi gweithio’n galed i wella ei gryfder a’i allbwn pŵer dros y flwyddyn ddiwethaf trwy fod yn rhan o Academi Rygbi’r Gynghrair. Felly nid yw’n syndod ei fod yn cystadlu ar y lefel uchaf ac yn ennill twrnameintiau o’r fath”.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau