Mae dysgwr Coleg y Cymoedd, Corey Edwards, yn dathlu ar ôl derbyn cadarnhad ei fod wedi sicrhau lle yn un o Golegau Sylfaen Celfyddydau Perfformio mwyaf blaenllaw’r wlad.
Bydd Corey, sy’n ugain oed ac yn dod o Lwynypia yn y Rhondda, yn mynd i Goleg READ ym mis Medi i astudio’r Cwrs Sylfaen mewn Actio. Bydd yn ymuno â charfan fechan o ddysgwyr i fagu hyder a phrofiad, gan astudio ystod o bynciau gan gynnwys hyfforddiant actio, lleisiol a chorfforol.
Y newyddion hyn yw dechrau llwybr gyrfa cyffrous i Corey oherwydd gyda dros 10 mlynedd o brofiad, mae gan y cwrs Sylfaen mewn Actio yng Ngholeg READ gyfradd llwyddiant heb ei hail o ran graddedigion yn ennill lle yn yr ysgolion drama gorau ledled y DU.
Dechreuodd taith Corey yn y Celfyddydau Perfformio pan fynychodd Ddiwrnod Agored ar Gampws y Rhondda, i weld pa gyrsiau Celfyddydau Perfformio oedd ar gael ac i weld y cyfleusterau. Gwnaeth y cyfleusterau argraff arno ynghyd ag angerdd Arweinydd y Cwrs, Jaye Lawrence. Gwyddai mai dyma’r cwrs iddo ef a chofrestrodd ar y cwrs RSL Celfyddydau Perfformio Lefel 2, gan symud ymlaen i’r cwrs RSL Celfyddydau Perfformio Lefel 3.
Wrth siarad am ei amser yn y coleg dywedodd Corey: â€Rydw i wedi mwynhau astudio yng Ngholeg y Cymoedd yn fawr; ni allaf bwysleisio pa mor gefnogol yw’r staff. Mae’r cwrs wedi fy ngwneud yn berfformiwr cryfach, gan wella fy sgiliau fel actor, dawnsiwr a chanwr. Mae’r tiwtoriaid wedi fy helpu i fagu hyder, gan fy ngwthio i uchelfannau newydd a gwireddu breuddwydion na feddyliais erioed y gallwn eu gwireddu. Erbyn hyn, rydw i’n fwy hyderus, yn gallu delio â pha bynnag heriau a ddaw. Rydw i’n edrych ymlaen at bennod nesaf fy nhaith ddysgu a byddwn yn argymell Coleg y Cymoedd a’r cwrs i bawb. Dyma 3 blynedd orau fy mywyd“.