Dysgwr y Cymoedd yn ennill Gwobr Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru

Mae un o’r dysgwyr sy’n perfformio orau yng Ngholeg y Cymoedd wedi ennill Gwobr fawreddog Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru i gydnabod ei chanlyniadau arholiad rhagorol yn ystod cyfnod anodd iawn oherwydd y pandemig.

Enillodd Leah Morgan, sy’n 18 oed, raddau Safon Uwch rhagorol mewn Mathemateg, Bioleg, Cemeg a Ffiseg a sicrhau lle ym Mhrifysgol Abertawe lle bydd yn dysgu gweithio gyda therapi ymbelydredd.

Mae Leah o Fedwas yn un o lond dwrn o ddysgwyr yng Nghymru i gael Bwrsariaeth y GIG sy’n golygu y bydd ei ffioedd dysgu yn cael eu talu gan GIG Cymru a Llywodraeth Cymru. Hefyd, gwarentir swydd iddi ym maes meddygaeth niwclear ar ôl cwblhau ei gradd.

Ymwelodd Mr. Geoff Hughes, Cyn-feistr Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru yng Nghymru, â champws Nantgarw’r coleg i gyflwyno’r wobr i Leah, ynghyd â siec am £250.

Esboniodd Mr Hughes fod Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru wedi ei ffurfio i ddechrau fel Urdd Lifrai Cymru ym 1993 gan aelodau o Gwmnïau Lifrai Dinas Llundain, a oedd yn dymuno ymestyn y traddodiadau Lifrai yng Nghymru, gan wobrwyo myfyrwyr talentog i’w hannog i ddatblygu eu sgiliau mewn addysg uwch a chyflogaeth.

Ychwanegodd mai un o brif nodau Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru yw hyrwyddo addysg, gwyddoniaeth, technoleg a’r celfyddydau yng Nghymru drwy’r Gwobrau Ysgolion/Colegau, a gyflwynir i fyfyrwyr sy’n cael canlyniadau rhagorol, yn aml o dan amgylchiadau anodd.

Wrth longyfarch Leah, dywedodd Mr Hughes: “Mae Leah wedi dangos, drwy ei hagwedd benderfynol, ei gwaith caled a’i chanlyniadau arholiad rhagorol, ei bod yn dderbynnydd teilwng y wobr eleni. Mae hi wedi bod yn ddiddorol iawn siarad â Leah a chlywed sut y gwnaeth ei chariad tuag at wyddoniaeth, profiadau teuluol a’i hymrwymiad i helpu pobl eraill ysbrydoli ei dewis o gwrs a’i llwybr gyrfa. Ar ran Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, dymunaf bob llwyddiant iddi yn ei hastudiaethau a’i gyrfa yn y dyfodol. ”

Dywedodd Ian Rees, Cyfarwyddwr Safon Uwch: “Mae’r wobr hon yn dyst i waith caled a chymhelliant Leah. Mae staff y Ganolfan Safon Uwch yn hynod falch o’i chyflawniadau yn ystod ei chyfnod yn y coleg. Enillodd ganlyniadau rhagorol ac mae hi wedi troi ei golygon at yrfa i helpu a thrin cleifion canser a’r rhai sy’n dioddef o gyflyrau niwrolegol. Er gwaethaf y sefyllfa heriol, roedd hi’n gwybod pa raddau’r oedd eu hangen arni a gweithiodd yn galed i’w cyflawni. Rydym yn dymuno pob llwyddiant iddi yn y dyfodol”.

Wrth siarad ar ôl derbyn ei gwobr, dywedodd Leah: “Rwyf mor falch o dderbyn y wobr hon a hoffwn ddiolch i Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru a tiwtoriaid y coleg am eu holl gymorth a chefnogaeth. Mae hi wedi bod yn anodd astudio yn ystod cyfnod Covid, yn enwedig yn ystod y cyfnod clo, ond pan dderbyniais fy nghynnig amodol gan Brifysgol Abertawe, dangosodd imi y gallwn gyflawni’r graddau a rhoes imi’r cymhelliant yr oeddwn ei angen”.

Wrth ddiolch i Mr Hughes a Chwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, dywedodd y Pennaeth Karen Phillips: “Rydym yn ddiolchgar i Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru am eu cefnogaeth barhaus i’n dysgwyr. Mae Leah wedi gweithio mor galed ac yn haeddu’r gydnabyddiaeth a’r wobr. Drwy gydol ei hamser yn y coleg, mae hi wedi bod yn awyddus i gymryd rhan ym mhob agwedd ar fywyd coleg, gan gynnwys cynrychioli’r dysgwyr yng nghyfarfodydd ein Bwrdd Academaidd. Rwy’n siŵr y bydd yn rhagori yn ei hastudiaethau a dymunwn bob lwc iddi ar gyfer y dyfodol”.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau