Dysgwr y Cymoedd yn ennill lle yn Camp America

Bydd dysgwr Coleg y Cymoedd yn mynd i Pennsylvania, America’r haf hwn i weithio yn Camp America.

Mae Josh Thomas, sy’n ugain oed ac o Lanbradach, wedi bod yn astudio yng nghampws Ystrad Mynach dros y tair blynedd diwethaf. Drwy gydol ei amser yn y coleg, mae wedi magu’r hyder i ymgeisio am swydd y gallai ond wedi breuddwydio amdani cyn cofrestru yn y coleg.

Gofynnodd Josh am le ar y Rhaglen Camp America, ac aeth trwy’r broses ymgeisio o lenwi ffurflenni, cyfweliadau ac ati; gan ddefnyddio sgiliau y mae wedi’u dysgu yn y coleg i arddangos ei wybodaeth.

Roedd yn falch o glywed ei fod wedi bod yn llwyddiannus ac yn synnu o glywed ei fod yn un o ddim ond chwech o ddysgwyr o Gymru i gael eu derbyn ar y Rhaglen; sy’n anfon dros 7,000 o bobl ifanc i weithio mewn gwersylloedd ym mhob un o 50 talaith yr UDA bob blwyddyn.

Cwblhaodd Josh gwrs Chwaraeon Lefel 2 cyn cofrestru ar y cwrs Gwaith Chwarae Lefel 2 yn y coleg a symud ymlaen i’r cwrs Gofal Plant Lefel 2 cyfredol; bydd y cyfuniad o’r cyrsiau Chwaraeon, Chwarae Gwaith a Gofal Plant yn sicr yn rhoi ystod eang o sgiliau i’w defnyddio yn ystod ei leoliad gwaith. Bydd yn cwblhau ei gwrs cyn teithio i America ym mis Mehefin 2019.

Mae Josh bob amser wedi bod yn angerddol ynglÅ·n â gweithio gyda phlant a gwneud gwahaniaeth yn y gwaith y mae’n ei wneud. Yn dilyn ei leoliad tri mis yn UDA bydd Josh yn dychwelyd i’r coleg i astudio ar y Diploma CACHE Lefel 3, a fydd yn cynnwys lleoliad gwaith mewn amrywiaeth o amgylcheddau gwaith go iawn ac ystod o unedau, megis Datblygiad Plant, Arsylwi ac Asesu , Chwarae, Diogelu a gweithio mewn partneriaeth â rhieni a gweithwyr proffesiynol. Ar ôl cwblhau’r cwrs, mae’n edrych ymlaen at ddilyn gyrfa wrth addysgu Addysg Gorfforol.

Wrth sôn am ei lwyddiant dywedodd Josh Rwy’n edrych ymlaen at deithio i America i weithio yn Camp America. Byddaf yn gweithio mewn tîm sy’n darparu’r holl weithgareddau chwaraeon, gan gynnwys pêl-droed, pêl-fasged, nofio, hoci i blant rhwng 9 a 17 oed. Rwy’n ddiolchgar i’m tiwtoriaid sydd wedi rhoi’r hyder i mi wneud cais a fy ffrindiau a theulu am eu cefnogaeth – heb eu cymorth ni fyddwn yn y cam hwn yn fy nghwrs a’r cyfle sy’n aros amdanaf yn Camp America. Rwyf mor ddiolchgar i bawb sydd wedi bod ar y daith hon gyda mi “.

Dywedodd y Tiwtor Gofal Angela Jones: “Rwyf wrth fy modd bod Josh wedi llwyddo yn ei gais i Camp America. Bydd yn rhoi’r cyfle iddo gael blas ar ddiwylliant America a chwrdd â phobl newydd. Bydd hefyd yn helpu hybu ei sgiliau hyder ymhellach, wrth fwynhau profiad bywyd gwych “.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau