Mae Amazon, y manwerthwr llyfrau ar-lein wedi cydnabod gwaith cyn ddysgwr o Goleg y Cymoedd.
Mae Aaron George, cyn ddysgwr o gampws Ystrad Mynach o Goleg y Cymoedd yn awdur llyfr annwyl iawn ar gyfer pawb dros 40 sy’n gwbl anllythrennog ym maes cyfrifiaduron.
Bydd Amazon yn stocio’r gyfrol, ‘The Oldies Guide to Using a Computer’, a ysgrifennwyd gan ddysgwr cyfrifiadureg 20 oed o Dretomas.
Cwblhaodd yr awdur ei gwrs Diploma Estynedig Lefel 3 mewn TG a defnyddiodd ei wybodaeth a’i hiwmor naturiol i greu’r llyfr doniol hwn. Aeth yr egin awdur ymlaen i astudio TG ym Mhrifysgol De Cymru.
Eglurir bod y cyhoeddiad ysgafn hwn yn llawn o “wybodaeth amhrisiadwy ar gyfer rhieni, modrabedd, ewythrod a neiniau a theidiau gan ‘nyrd’ rhwystredig am yr hyn na ddylech ei wneud, yr hyn na allwch ei wneud, a’r hyn yr ydych yn ceisio ei wneud.â€
Wrth sôn am yr hyn a’i ysbrydolodd, dywedodd Aaron: “Fe wnes i lunio’r ‘canllaw’ hwn oherwydd mod i wedi cael llond bol ar rai pobl (heb enwi neb) yn gofyn am fy help gyda ‘r tasgau cyfrifiadurol mwyaf syml a sylfaenol.â€
“Fe aeth llawer o ymdrech i gael y llyfr yn barod ar gyfer ei gyhoeddi ond gan fod y pwnc mor ddiddorol , doedd e ddim yn dreth arna i o gwbl.â€
Dywedodd Dean Howells, Pennaeth Cyfrifiadureg yng Ngholegy Cymoedd: “Mae’n wych bod Aaron wedi gallu cymhwyso’r sgiliau technegol a ddysgodd gyda ni i greu cyhoeddiad ysgafn, doniol a pherthnasol a fydd, dw i’n sicr, yn boblogaidd iawn. Mae’n esiampl o’r hyder a’r entrepreneuriaeth rydyn ni’n ceisio eu feithrin yn ein dysgwyr ym mha faes bynnag maen nhw’n ei ddilyn. Rydyn ni’n hynod falch o Aaron ac yn dymuno’n dda iddo.â€
I brynu’ch copi o ‘The Oldies Guide to Using a Computer’ ewch i : http://www.amazon.co.uk/Oldies-Guide-Using-Computer-Second/dp/1505249198/ref=sr_1_1?ie=UTF8&qid=1429140982&sr=8-1&keywords=the+oldies+guide+to+using+a+computer