Mae sgiliau adeiladwr llawn uchelgais wedi cael eu cydnabod yng ‘Nghystadleuaeth Flynyddol Gosod Brics Urdd y Bricwyr’ pan enillodd y teitl ‘Pencampwr Iau Cymru Urdd y Bricwyr’.
Daeth Zac Timothy, 18 oed, sy’n astudio Lefel 2 Gwaith Gosod Brics yng Ngholeg y Cymoedd ar gampws Ystrad Mynach yn gyntaf yn y gystadleuaeth flynyddol gan guro cystadleuwyr o 11 o wahanol golegau yng Nghymru. Cynhaliwyd y gystadleuaeth ar Gampws Newtown Grŵp Colegau Castell-nedd Port Talbot
Yn ystod y pump awr o gystadlu dwys, y sialens i bob cystadleuydd oedd adeiladu’r wal frics orau gyda nodweddion penodol i ddangos eu sgiliau yn y maes. Yn y pen draw sgiliau technegol Zac a’i sylw i fanylion enillodd y dydd iddo.
Dywedodd Zac, sy’n dod o Markham: “Roedd y gystadleuaeth yn dipyn o her yn enwedig gan mai hwn oedd y tro cyntaf i mi gystadlu erioed. Pan gyhoeddodd y beirniaid pwy oedd yn ail a thrydydd roedd fy nghalon yn curo a phan gyhoeddon nhw fy enw fel yr enillydd don i ddim yn credu’r peth; roeddwn mor falch!â€
Ar ôl cwblhau ei astudiaethau, mae Zac yn gobeithio symud i Awstralia i fod yn adeiladwr ond eisoes mae ei lygad ar y gystadleuaeth y flwyddyn nesaf.
Aeth ymlaen i ddweud, “Fe wna i symud ymlaen i gwrs uwch mewn gwaith gosod brics ar ôl cymhwyso ar ddiwedd y flyddyn hon, felly gobeithio y gallaf fod yr un mor llwyddiannus yng nghystadleuaeth y flwyddyn nesaf. Mae Coleg y Cymoedd wedi anfon fy enw i mewn ac maen nhw wedi bod yn gefnogol iawn drwy gydol yr amser.
Fe wnaeth Daniel Watkins, 20 oed o Ferthyr Tudful, a chyd-fyfyriwr Zac, gystadlu hefyd yn rownd uwch y gystadleuaeth, ond yn anffodus bu’n aflwyddiannus yn erbyn y gystadlaeuaeth gref.
Dywedodd Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd, “Mae Zac yn gredyd i’n coleg; mae’n dangos sut mae gwaith caled a thiwtora ymroddedig yn darparu cyfleoedd galwedigaethol ardderchog ar gyfer dysgwyr a swyddi go wir mewn ystod amrywiol o ddiwydiannau a chrefftau cydnabyddedig. Dymunwn bob llwyddiant iddo yn y dyfodol.â€