Dysgwr yn ennill profiad drwy ei lleoliad ar brosiect Ymchwil Nuffield

Mae dysgwyr Coleg y Cymoedd ymhlith y cyntaf yng Nghymru i ennill cymwysterau chwaraeon newydd wrth i’w coleg dreialu cynllun i ddatblygu prentisiaethau newydd ar gyfer Cymru yn ffocysu ar ragoriaeth ym maes chwaraeon.

Mae Coleg y Cymoedd wedi bod yn rhan o’r fenter gyntaf i gynnig prentisaethau mewn rhagoriaeth chwaraeon, cynllun peilot wedi’i threialu gan y coleg ar y cyd â SkillsActive a Rygbi Cynghrair Cymru.

Wedi’i ffocysu’n bennaf ar Rygbi’r Gynghrair, cynigir prentisiaethau hefyd ym maes nofio, hoci iâ, pêldroed a rygbi’r undeb mewn partneriaeth â SkillsActive a Grŵp Castell Nedd Porth Talbot.

Dywedodd John Phelps, dirprwy bennaeth Coleg y Cymoedd: “Roedd Coleg y Cymoedd yn hapus iawn i gael y cyfle i dreialu’r llwybr prentisiaeth hwn, y cyntaf o’i bath yng Nghymru, mewn partneriaeth â Rygbi Cynghrair Cymru a SkillsActive ac fe wnaethon ni ddysgu llawer.

“Un o’r agweddau mwyaf boddhaol o’r bartneriaeth oedd llwyddiant y prentisiaid ifanc ar y cae lle perfformion nhw’n rhagorol gan chwarae yn erbyn timoedd llawer mwy profiadol yn aml iawn.

“Chwaraeodd deg o’r prentisiaid dros Rygbi Cynghrair Cymru ac ennill medalau efydd yng Ngemau’r Gymanwlad yn y chwaraeon treialu ar gyfer gemau’r dyfodol. O ran datblygu yn eu gyrfaoedd chwarae rygbi, arwyddodd dau fyfyriwr ffurflenni proffesiynol ar gyfer clybiau’r Super League ac enillodd tri arall gytundebau proffesiynol.”

Mae gan Coleg y Cymoedd hanes nodedig o ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o dalent rygbi proffesiynol Cymru drwy Academi’r Gleision. Wedi’i leoli ar gampws Nantgarw mae’r academi yn gweithio mewn partneriaeth â thîm Gleision Caerdydd ac mae’n sicrhau bod dysgwyr yn datblygu’n academaidd yn ogystal ag ar y cae.

Dywedodd Ceri Thomas, rheolwr prentisiaeth SkillsActive ar gyfer Cymru: “Dw i’n hynod falch i gyhoeddi bod y ddwy Brentisiaeth Arloesol a arianwyd gan Lywodraeth Cymru wedi’u treialu’n llwyddiannus. Am y tro cyntaf cafodd ein Nofwyr Cymreig, ein chwaraewyr Hoci Iâ, Rygbi’r Undeb a’r Gynghrair y cyfle i hyfforddi mewn amgylchedd proffesiynol ac ennill cymhwyster dysgu yn y gweithle ac, yn y pen draw , cystadlu yn yr un modd â’n cymheiriaid o Loegr o ganlyniad i’r brentisiaeth mewn rhagoriaeth chwaraeon.

“Nawr bod y fframwaith wedi ei dreialu’n llwyddiannus, rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar i gynnig y cyfle i chwaraeon eraill, eu darpar sêr elît ac i’r bobl anturus hynny ar draws Cymru i gyflawni eu huchelgais ac ar yr un pryd ennill cymwysterau ystyrlon.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau