Mae dysgwr o Goleg y Cymoedd wedi cael cyfle i ddatblygu ei egin sgiliau hyfforddi pêldroed draw yn America.
Mae’r cynllun hyfforddi – o’r enw ‘Challenger Sports’ – yn caniatáu i’r dysgwr deithio i wahanol ardaloedd o America i ddatblygu eu sgiliau hyfforddi mewn nifer o wersylloedd pêldroed.
Bydd Connor Prankerd, 19 oed o Gaerffili, sy’n astudio cwrs Diploma Estynedig BTEC mewn Chwaraeon yn treulio un wythnos ar ddeg yn Baltimore o ganol Mehefin.
I gael ei ddewis ar gyfer y cynllun hwn, bu rhaid i Connor, gael asesiad ymarferol a chyfweliad. Os oedden nhw’n llwyddo, roedd rhaid i’r holl egin hyfforddwyr fynychu penwythnos o hyfforddiant ym mis Ebrill ym Mhrifysgol Warwick cyn hedfan allan i America.
Cyflwynwyd y cynllun i’r coleg gan Neil Smothers, Y Pennaeth Chwaraeon a wnaeth hyfforddi pêl droed yn America ei hunan pan oedd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Dywedodd Neil Smothers: “Mae’r cynllun yn rhoi cyfle i fyfyrwyr i roi hwb i’w sgiliau hyfforddi mewn amgylchedd gwahanol tra’n byw yn UDA ac yn profi’r diwylliant yno. Mae hefyd yn eu helpu i ddatblygu annibyniaeth a chodi eu hyder a chael profiad gwych ar yr un pryd.
Ar ben hynny, byddan nhw’n cwrdd â phobl newydd (hyfforddwyr eraill y DU a theuluoedd a ffrindiau o UDA) a datblygu eu portffolio o gysylltiadau a all ddarparu cyfleoedd pellach ar eu cyfer yn y dyfodol.â€
Dywedodd Connor Prankerd: “Dwi wedi bod yn chwarae pêl droed er o’n i’n fachgen bach a dwi’n cael pleser yn hyfforddi pobl ifanc. Mae mor gyffrous pan welwch chi bobl ifanc yn gweithio’n galed ac yn gwella oherwydd mi wn i pa mor bwysig ydy chwaraeon i bobl ifanc a dwi wrth fy modd yn eu helpu i wella.
“D’on i ddim yn gwybod bod hyfforddi yn UDA hyd yn oed yn opsiwn nes i’r coleg wahodd rhywun o Challenger Sport i drafod yr opsiwn gyda ni. Fe gydiais yn y cyfle yn syth gan mod i am gael gyrfa ym maes hyfforddi chwaraeon, felly, roedd y cyfle hwn yn ddelfrydol. Dw i mor falch mod i wedi cael fy nerbyn a dwi’n edrych ymlaen yn fawr iawn at fynd. Dwi’n siŵr bydd y profiad yn un anhygoel.â€
“