Cyrhaeddodd dysgwraig addysg uwch o Goleg y Cymoedd restr fer gwobr ranbarthol sy’n dathlu Merched ym Myd Eiddo.
Llwyddodd Tina Hinder i gyrraedd y rhestr fer a wynebu chwech arall sy’n astudio ar gyrsiau amgylchedd adeiledig, yn rownd ranbarthol Gwobrau Cenedlaethol Myfyrwyr sefydliad merched ym myd eiddo yr ‘Association of Women in Property’ – (WiP).
Roedd Tina o’r Bargod, sy’n astudio Lefel 4 HNC mewn Rheolaeth Technoleg Adeiladu yng Ngholeg y Cymoedd, ymhlith y rhai oedd yn ymgiprys am wobr yn y seremoni yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf.
Meddai Tina: Roeddwn i’n cyfri cael fy enwebu a chyrraedd rhestr fer yn fraint ac fe wnes i fwynhau’r profiad. Byddwn yn argymell i rywun gaiff ei enwebu i roi cynnig arni. Roedd pawb mor gyfeillgar ac yn help eithriadol gyda’u cyngor sut i fynd ymlaen yn fy ngyrfa.”
Yn ôl Marcelle Newbold, Cadeirydd cangen De Cymru o WiP, a phensaer yng Nghwmni Purcell: “Mae’r Gwobrau hyn yn herio’r rhai sydd wedi eu henwebu i feddwl o ddifrif am eu gyrfaoedd a’r dylanwad y gallan nhw fel unigolion gael ar yr amgylchedd adeiledig. Roedd y beirniaid, o nifer o ddisgyblaethau maes eiddo, yn chwilio am un fyddai’n fodel rôl, gan mai’r merched ifanc hyn fydd dyfodol y diwydiant eiddo ac adeiladu.”
Yn ogystal â Tina, roedd yna chwech arall yn y ffeinal rhanbarthol, i gyd wedi eu henwebu gan eu Prifysgolion. Roedd angen i bob un fynd o flaen panel y beirniaid i gael eu holi am ddarn o’u gwaith cwrs ac am bynciau trafod cyfredol y diwydiant. Y rhai eraill yn y rownd derfynol oedd:
Rhiannon Jones – BSc Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol – Prifysgol Caerdydd
Gemma Rees – BSc Rheoli Prosiect – Prifysgol De Cymru
Rowa Senan – BEng Peirianneg Pensaernïol – Prifysgol Caerdydd
Esra Ajaj – MEng Peirianneg Sifil – Prifysgol Caerdydd
Kim Harris – HND Surfeo – Prifysgol De Cymru
Anna Chappell – BSc Syrfeo Meintiol a Rheolaeth Masnach – Prifysgol De Cymru
Â
Ymhlith panel beirniaid 2015 roedd:
Marcelle Newbold, Cadeirydd WiP De Cymru, Purcell
Leigh Hughes, Bouygues
Mike Hales, EC Harris
Jonathon Smart, DTZ
Cathy Stewart, Cydlynydd Gwobrau Myfyrwyr WiP, Cathy Stewart Associates
Â
Bydd yr enillydd, Rhiannon Jones o Brifysgol Caerdydd, yn awr yn mynd ymlaen i’r ffeinal o’r Goreuon Oll – ‘Best of Best’ – achlysur gwisg ffurfiol yng ngwesty ‘Claridge’s’ yn Llundain ar Fedi 22, lle bydd hi’n cystadlu yn erbyn naw o ferched ifanc eraill o bob cwr o’r DU.
“