Mae Tîm Peirianneg Coleg y Cymoedd yng Nghaerdydd yn teithio i Lundain i fynychu ffeinal y DU o Wobrau Cenedlaethol Addysgu Pearson, sy’n cael eu cyflwyno gan yr hanesydd teledu, Dan Snow.
Ym mis Mai eleni, cafodd aelodau’r Tîm Peirianneg eu cydnabod am eu cyfraniad eithriadol i’r proffesiwn addysgu, fel un o 59 o enillwyr y Wobr Arian am Addysgu drwy’r DU.
Ar ddydd Sul, Hydref 26ain, bydd y Tîm Peirianneg a’r enillwyr Arian eraill, yn mynd i seremoni ysblennydd yn Neuadd Fawr Y Guildhall yn Llundain i ganfod pwy fydd wedi eu dewis i ennill Gwobr Genedlaethol Pearson am Addysgu, fydd yn cael ffilmio gan y BBC, a lle gwelir dyfarnu 11 o’r Gwobrau Aur i oreuon y proffesiwn addysgu yn y DU.
Sefydlwyd Gwobrau Addysgu Pearson, sy’n ddathliad blynyddol o waith athrawon eithriadol ac o addysgu, gan Yr Arglwydd Puttnam yn 1999, ac maen nhw’n cydnadbod yr effaith am oes y gall dylanwad athro gael ar fywydau’r bobl ifanc maen nhw’n eu haddysgu.
Darlledir y seremoni ar BB2 am 6 o’r gloch ar Dachwedd 2il, dan y teitl “Britain’s Classroom Heroesâ€.
Mae 24 o staff yn y Tîm Peirianneg gydag ystod o arbenigedd eithriadol mewn peirianneg awyrenneg, trydanol a mecanyddol; mae’r tîm yn unedig eu gweledigaeth, i fod y darparydd hyfforddiant prentisiaethau peirianneg gorau yng Nghymru.” Ar hyn o bryd mae dros 300 o ddysgwyr llawn a rhan amser wedi ymrestru ar ein rhaglenni Peirianneg, yn amrywio o rai’n gwneud cymwystrau lefel mynediad hyd at Radd Sylfaen mewn Peirianneg Awyrennau. Mae llawer o’r dysgwyr hyn yn brentisiaid a nifer ohonyn nhw’n cael eu noddi gan eu cyflogwyr i fynychu’r coleg. Mae’r tîm wedi ymroi i ddarparu’r safonau addysgu o safon uchaf er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i’r myfyrwyr.
Dywedodd Emma Thompson, yr actores ac enillydd Oscar, sy’n llywydd y Gwobrau Addysgu, “Rwy’n wir falch ac yn ei theimlo’n anrhydedd i fod yn llywydd y Gwobrau Addysgu. Mae gen i gymaint o ddyled i fy athrawon ffantastig am yr hyn rwyf i wedi gyflawni ac mae’n gyffrous i ymuno yn nathliadau’r proffesiwn pwysicaf oll.”
Dywedodd Llywydd cwmni ‘UK and Core Markets, Pearson’: “Mae pawb yn cofio am athro neu athrawes fu’n eu hysgogi a’u herio, felly mae’n bwysig i ddiolch. Addysgu gwych sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf a dyna pam ei bod yn bwysig bod athrawon gwych yn cael eu cydnabod.”
“
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR