Mae merch ifanc o Dde Cymru wedi cael cyfle i wella’i gwybodaeth a’i sgiliau drwy gael cyd-weithio ag enillydd Gwobr Nobel.
Roedd Chloe Brind, 18 o’r Bargod, dysgwraig yng Ngholeg y Cymoedd, yn un o 68 o bobl o Gymru gyfan fu’n rhan o brosiect Ymchwil Nuffield eleni. Cafodd yr ymchwil arbennig ym maes gwyddoniaeth Chloe ei gefnogi gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn yr Adran Bioamrywiaeth a Bioleg Systematig, lle roedd Chloe yn gorffen ei lleoliad ar y pryd.
Bob blwyddyn, mae Lleoliadau Ymchwil Nufield yn darparu cyfle i ddysgwyr gael gweithio ochr yn ochr â gwyddonwyr, technolegwyr, peirianwyr a mathemategwyr, a hynny ar hyd a lled prifysgolion y DU, cwmnïau masnachol, mudiadau gwirfoddol a sefydliadau ymchwil.
Nod prosiect ymchwil Chloe oedd edrych ar nodweddion ffisegol a gwahaniaethau genetig rhwng dau fath o lygwn. Yn arwyddocaol, yn ystod ei hymchwil, canfuwyd nodweddion newydd a rhagor o wahaniaethau rhwng y ddau fath lygwn nad oedd wedi eu canfod o’r blaen. Roedd yr Amgueddfa’n canfod yr ymchwil yn fuddiol iawn, gan ei gwneud yn haws i wahaniaethu rhwng y ddwy rywogaeth o’r abwyd du.
Yn ystod ei chyfnod ar leoliad, cafodd Chloe gyfarfod â chyn enillydd Gwobr Nobel, Yr Athro Syr Martin Evans, sy’n gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd, a bu’n trafod gwahanol agweddau o brosiect Chloe gyda hi.
Meddai Chloe: “Roedd y lleoliad Ymchwil Nuffield yn brofiad gwir werthfawr a bu’n ffantastig cael cydweithio â gwyddonwyr blaenllaw yn eu meysydd arbenigol.
“Roedd fy nhasg ymchwil yn ddiddorol iawn a bu’n help i mi benderfynu mai dyma’r yrfa rydw i am ei dilyn.
Fel rhan o’r cynllun, gwahoddwyd y rhai oedd yn cymryd rhan i adeilad Techniquest ym Mae Caerdydd i arddangos canlyniadau eu hymchwil. Y gobaith ydy y bydd y lleoliad gydag Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn sicrhau lle i Chloe ym Mhrifysgol Birmingham unwaith bydd hi wedi cwblhau ei Lefel A ym Mehefin.
Dywedodd Ian Rees, Pennaeth y Ganolfan Chweched Dosbarth benodol ar gampws Nantgarw, am lwyddiant Chloe: “Rydyn ni’n ymfalchïo a llawenhau bod Chloe wedi ei dewis i gael y cyfle i fod yn rhan o leoliadau ymchwil mawreddog Nuffield ac yn mawr obeithio bydd hyn yn arwain i ragor o lwyddiannau yn ei harholiadau a’i gyrfa yn ei dewis faes, Gwyddoniaeth.”
“