Dysgwyr ar drywydd addysg o’r radd flaenaf yn y Ganolfan Ragoriaeth newydd

Mae cenhedlaeth o weithwyr rheilffordd ar y ffordd i lwyddiant wrth i gyfleuster peirianneg rheilffyrdd Coleg y Cymoedd gwerth £3.08 miliwn yng Ngholeg y Cymoedd gael ei gwblhau.

Roedd gosod y garreg gopa ar gampws Nantgarw yn dilyn buddsodiad Llywodraeth Cymru o £1.54 miliwn mewn adnodd dan do heb ei ail a fydd yn sefydlu’r coleg yn Ganolfan Ragoriaeth Hyddorddiant Gwaith Rheilffordd yn y diwydiant.

Ynghyd â staff a dysgwyr, mynychodd Edwina Hart AC, y Gweinidog dros yr Economi,Gwyddoniaeth a Chludiant, y digwyddiad i osod y garreg gopa ar safle Nantgarw a chafodd hi gyfle i weld ail gyfnod ariannu Llywodraeth Cymru drosti hi ei hun.

Lansiodd y coleg brentisiaeth peirianneg gwaith rheilffordd ym mis Medi 2014 ar ôl datblygu trac pwrpasol ar y safle. Diolch i ail gyfnod y buddsoddiad bydd egin beirianwyr rheilffyrdd yn cael y fraint o ystafelloedd dosbarth a chyfleusterau hyfforddiant a gweithdy newydd, sy’n cwrdd â’r galw am hyfforddiant rhagorol yn y diwydiant. Bydd y cyfleusterau newydd wedi’u cwblhau yn llawn ac yn gweithredu ym mis Medi 2015 ar gyfer y garfan newydd o ddysgwyr.

Yn ystod yr achlysur, dywedodd Mrs Hart: “Mae gweithlu medrus yn hanfodol i dwf economi Cymru a dyna pam rydw i wrth fy modd yn gweld sut mae cymorth Llywodraeth Cymru wedi helpu i greu’r ganolfan ragoriaeth hon ar gyfer y diwydiant rheilffyrdd. Bydd yn darparu sgiliau o’r radd flaenaf a phrofiad gwaith ymarferol ar gyfer pobl ifanc, y profiad hwnnw sydd ei angen i agor cyfleoedd gyrfaol diddorol a fydd yn cynyddu wth i is-adeiledd rheilffyrdd yng Nghymru gael ei drydaneiddio.”

Mae’r adeilad newydd ar hyn o bryd ar y ffordd i gyflawni statws rhagoriaeth BREEAM, sef yr asesiad amgylcheddol ar gyfer adeiladau. Lluniwyd y cyfleuster gyda nodweddion cynaliadwy yn cynnwys ffenestri wedi’u gwydro dairgwaith er mwyn gostwng yr angen am wresogi ychwanegol. Rhoddodd y coleg bwyslais sylweddol ar fuddiannau cymunedol yn ystod y broses adeiladu gan ymrwymo i ddefnyddio 85% o lafur a chwmnïau o Gymru i gyflenwi’r cyfleuster.

Mae cwblhau’n ganolfan yn arbennig o amserol gyda’r broses o drydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd a’r rheilffordd i Lundain ar y gorwel. Bydd hyn nid yn unig yn gwella gwasanaethau ar gyfer teithwyr ond hefyd yn darparu gwaith ar gyfer gweithlu enfawr yn Ne Cymru. Bydd egin beirianwyr rheilffyrdd nawr yn cael mynediad i’r cyfleusterau hyfforddi mwyaf diweddar yn y diwydiant.

Cyflenwir yr hyfforddiant prentisiaeth rheilffyrdd cyfredol ar y cyd rhwng Coleg y Cymoedd a gwasanaethau McGinley Support , y cwmni recriwtio arbenigwyr rheilffyrdd. Mae’r bartneriaeth gyda McGinley yn golygu y bydd dysgwyr yn ennill sgiliau hanfodol mewn amgylchedd realistig ac yn cael gwaith yn syth gyda McGinley am flwyddyn o ddysgu dan arweiniad yn y diwydiant.

Mae Coleg y Cymoedd erbyn hyn yn cynnig Lefel 1 Peirianneg Gwaith Rheilffordd fel rhan o’i brif gwricwlwm. Mae’r rhaglen hon yn unigryw gan ei bod yn cynnig peirianneg rheilffyrdd a pheirianneg sifil sy’n gwneud dysgu am y diwydiant yn fwy hygrych. Yn debyg i’r brentisiaeth, rhoddir y dysgwyr y mewn sefyllfaoedd gweithle go wir, a hynny’n eu paratoi ar gyfer y gwir amgylchedd.

Wrth ddathlu cwblhau’r cyfleuster, dywedodd Pennaeth Coleg y Cymoedd, Judith Evans, “Rydyn ni rth ein bodd bod y ganolfan rheilffyrdd newydd wedi’i chwblhau ac yn barod i ddarparu hyfforddiant o’r radd flaenaf ar gyfer ein dysgwyr. Â chynlluniau ar y gweill ar gyfer buddsoddi’n drwm mewn rhaglenni gwaith rheilffordd yn y dyfodol agos, bydd y dysgwyr hyn yn gallu llenwi’r darpar farchnad lafur yn Ne Cymru.

“Rydyn ni’n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu cymorth parhaus a’u hyder yng ngallu Coleg y Cymoedd i gyflenwi addysg, hyfforddiant ardderchog a chyfleoedd gyrfaol i bobl ifanc.”

Mae’r coleg wedi derbyn cymorth pellach yn y broses o ddatblygu’r cyfleuster peirianneg gwaith rheilffordd gyda’r eluen addysgol ‘Edge Foundation’ yn rhoi £100,000 i’r coleg sefydlu Canolfan Ragoriaeth. Hefyd, rhoddodd ‘Speedy’, y cwmni adeiladu, werth dros £5000 o offer ar gyfer y prentisiaid a chafwyd cymorth ariannol hefyd gan ‘Walter UK’, y cwmni peirianwyr sifil.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau